Cymraeg

Rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon yw Erasmus+. Gwahoddir darparwyr addysg a hyfforddiant i wneud cais am gyllid bob blwyddyn i ddarparu gweithgareddau tramor sy’n newid bywydau i fyfyrwyr, disgyblion, dysgwyr a phobl ifanc.

Mae Erasmus+ ar agor i sefydliadau addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon ar draws holl sectorau addysg gydol oes, gan gynnwys addysg ysgol, addysg uwch a phellach, addysg oedolion, a’r sector ieuenctid.  

Bu’r Deyrnas Unedig (DU) yn cymryd rhan yn y rhaglen rhwng 2014 a 2020, cyn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae’r sefydliadau a lwyddodd i sicrhau cyllid cyn ymadael yn parhau i ddarparu’r gweithgareddau a’r lleoliadau a ariannwyd.   

Caiff rhaglen Erasmus+ ei rheoli ar lefel Ewropeaidd gan y Comisiwn Ewropeaidd, a’i rhannu yn ddwy ran: gweithgareddau canoledig a datganoledig.  

Caiff gweithgareddau canoledig eu rheoli’n uniongyrchol gan Asiantaeth Weithredol Addysg, Clyweledol, a Diwylliant y Comisiwn Ewropeaidd.  

Erasmus+ yn y Deyrnas Unedig  

Darperir gweithgareddau datganoledig ledled gwledydd Prydain gan rwydwaith o Asiantaethau Cenedlaethol. Caiff Asiantaethau Cenedlaethol eu goruchwylio gan Awdurdodau Cenedlaethol, sef adrannau llywodraethol sy’n gyfrifol am sicrhau y caiff y rhaglen ei darparu yn eu gwledydd.  

Yr Adran Addysg yw Awdurdod Cenedlaethol Erasmus+ yn y Deyrnas Unedig. Rheolir y rhaglen gan Asiantaeth Genedlaethol y Deyrnas Unedig, sy’n bartneriaeth rhwng y British Council ac Ecorys UK. Rydyn ni’n gweithio i ddarparu’r rhaglen er budd sefydliadau o’r Deyrnas Unedig sy’n cymryd rhan, a’r unigolion sy’n gallu astudio, hyfforddi, gwirfoddoli neu gael profiad gwaith dramor drwy’r rhaglen.  

Darllenwch ein tudalen we i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Erasmus+ yn y Deyrnas Unedig yn dilyn ei hymadawiad â’r UE.