Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol

Pam cymryd rhan yn Erasmus+?

Mae Erasmus+ yn rhoi cyfle i ddarparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol bartneru gyda sefydliadau ledled Ewrop, gan roi cyfle i fyfyrwyr a staff ennill profiad ymarferol uniongyrchol dramor. Mae’r cyfleoedd hyn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau technegol a rhyngbersonol newydd, magu hyder a chryfhau eu cyflogadwyedd ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Drwy gynnig opsiynau hyblyg a darparu cyllid ar gyfer teithio dramor, mae Erasmus+ yn agor y drws i ddysgwyr a fyddai fel arall efallai’n methu manteisio ar gyfleoedd oherwydd rhwystrau cymdeithasol neu economaidd.

Mae sefydliadau sy’n cynnig addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn gymwys i wneud cais am gyllid, gan gynnwys colegau addysg bellach a sefydliadau sy’n darparu prentisiaethau, yn ogystal ag ysgolion sy’n cynnig cymwysterau technegol galwedigaethol.

Gall colegau addysg bellach sy’n gwneud cais am gyllid Erasmus+ gyflwyno ceisiadau o dan y sector ysgolion, addysg a hyfforddiant galwedigaethol, addysg oedolion neu’r sector addysg uwch - yn dibynnu ar y math o gyrsiau a rhaglenni a ddarperir ganddynt.

Pa gyfleoedd sydd ar gael?

Prosiectau symudedd (Cam Gweithredu Allweddol 1)

Gall dysgwyr a staff ennill profiad rhyngwladol a meithrin sgiliau parod i’r dyfodol drwy gyllid ar gyfer lleoliadau dramor. Mae ceisiadau ar gyfer prosiectau symudedd yn cael eu rheoli gan yr Asiantaeth Genedlaethol.

Cyfleoedd i ddysgwyr

  • Symudedd Grŵp: Gall grŵp o fyfyrwyr deithio dramor i ddysgu â chyd-fyfyrwyr gyda darparwr AHG partner. Gall y prosiectau hyn bara am rhwng dau a thri deg diwrnod a gallant hefyd gynnwys gweithgareddau dysgu rhithwir. Rhaid i ddysgwyr deithio yng nghwmni aelodau staff cymwysedig.
  • Symudedd Unigol: Gall myfyriwr unigol deithio dramor i ddarparwr AHG partner, cwmni neu sefydliad AHG arall i ddysgu neu hyfforddi. Rhaid bod y lleoliad gwaith yn gallu cynnig elfen gadarn o brofiad yn seiliedig ar waith. Gall fod yn symudedd tymor byr (rhwng deg diwrnod a thri mis) neu’n symudedd tymor hir (tri mis - un flwyddyn).
  • Cystadleuaeth Sgiliau: Mae cyllid ar gael i alluogi myfyrwyr i gystadlu mewn cystadleuaeth sgiliau. Gall hyd y symudedd bara rhwng un diwrnod a deg diwrnod.

Cyfleoedd i staff

  • Cysgodi Swydd: Gall staff ymweld â darparwr mewn gwlad Erasmus+ arall i ddysgu arferion newydd. Gall y symudedd bara rhwng dau ddiwrnod a dau fis.
  • Addysgu Dramor: Gall staff addysgu mewn sefydliad partner dramor. Gall y symudedd bara am gyfnod yn amrywio o ddau ddiwrnod i un flwyddyn.
  • Cyrsiau Hyfforddi: Gall staff fynychu cyrsiau hyfforddi mewn gwad Erasmus+ arall (am gyfnod rhwng dau ddiwrnod i ddeg diwrnod).

Partneriaethau (Cam Gweithredu Allweddol 2)

Partneriaethau ar raddfa fach

Mae’r rhain yn bartneriaethau ar gyfer sefydliadau llai, neu rai sy’n newydd i Erasmus+. Gall partneriaethau redeg am rhwng chwe mis i ddwy flynedd gydag o leiaf dau sefydliad o wledydd gwahanol. Mae Erasmus+ yn cynnig cyllid o €30,000 neu €60,000 ar gyfer y prosiectau hyn.

Partneriaethau Cydweithredu

Mae’r rhain yn bartneriaethau rhwng o leiaf tri sefydliad o wahanol wledydd. Maent yn canolbwyntio ar ddulliau gweithredu neu ddeunyddiau addysgol arloesol y gellir eu defnyddio gan eraill hefyd. Disgwylir i’r prosiectau hyn redeg am rhwng un a thair blynedd. Mae grantiau o €120,000, €250,000 neu €400,000 ar gael.

Dylid cyflwyno ceisiadau am gyllid ar gyfer partneriaethau ar raddfa fach a phartneriaethau cydweithredu i’r Asiantaeth Genedlaethol.

Partneriaethau eraill

Mae nifer o gyfleoedd eraill am bartneriaethau ar gael i ddarparwyr AHG. Dylid gwneud y ceisiadau ar eu cyfer drwy Asiantaeth Weithredol Ewrop dros Addysg a Diwylliant (EACEA).

  • Canolfannau Rhagoriaeth Galwedigaethol: Mae rhwydweithiau rhanbarthol yn rhan annatod o ysgogi arloesedd, ansawdd a chynhwysiant mewn Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol.
  • Cynghreiriau ar gyfer Arloesi: Sefydliadau addysgol a chwmnïau’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu sgiliau gwaith i’r dyfodol. Yn cynnwys cyllid ar wahân ar gyfer prosiectau sy’n canolbwyntio ar addysg, menter, cydweithredu sectoraidd a sgiliau STEM.
  • Prosiectau sy’n canolbwyntio ar y dyfodol: Mae’r prosiectau hyn yn ymwneud â’r heriau a’r arloesi cyfredol ym maes addysg.
  • Adeiladu Gallu yn y maes Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol: Mae’r prosiectau hyn yn anelu i gryfhau systemau AHG mewn gwledydd partner y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Camau Gweithredu Jean Monnet

Gall darparwyr AHG hefyd wneud cais am gyllid ar gyfer hyfforddiant athrawon, mentrau addysgu a dysgu’r Undeb Ewropeaidd a Rhwydweithiau Ewropeaidd ar gyfer AHG. Dylid gwneud ceisiadau am gyllid ar gyfer Camau Gweithredu Jean Monnet i Asiantaeth Weithredol Ewrop dros Addysg a Diwylliant (EACEA).

Gallwch bori drwy ddisgrifiadau o brosiectau blaenorol am ysbrydoliaeth ar wefan Erasmus+.

Ysbrydoliaeth

Roedd dau berson yn eistedd wrth fwrdd yn gweithio ar eu gliniaduron.

Enghraifft o brosiect

dm4res - Hybu gwytnwch ffoaduriaid drwy ddatblygu sgiliau marchnata digidol

Gwledydd
Yr Almaen, Gwlad Groeg a'r Iseldiroedd
Cyfnod
2021-23
Cyllid
€60,000
Math o brosiect
Partneriaeth ar raddfa fach

Nod prosiect dm4res oedd cefnogi ffoaduriaid sy'n oedolion drwy gynnig hyfforddiant mewn marchnata digidol. Cafodd gwaith y prosiect ei gyflawni gan sefydliadau hyfforddi a busnesau bach a chanolig ar draws y tair gwlad. Llwyddodd y prosiect i ddarparu 96 awr o hyfforddiant ar-lein a 30 awr o fentora - gyda 117 o gyfranogwyr wedi'u hyfforddi, a 56 wedi'u hachredu. Mae'r prosiect yma'n dangos sut y gall partneriaethau ar raddfa fach gyflawni rhaglenni datblygu sgiliau ymarferol â ffocws pendant a threfn weinyddol syml i grwpiau sydd wedi'u gwthio i'r ymylon.

Person ifanc yn gwisgo dillad gwyn cogydd a ffedog mewn cegin.

Enghraifft o brosiect

Interniaeth ryngwladol mewn gastronomeg

Gwledydd
Y Weriniaeth Tsiec a Sbaen
Cyfnod
2024-25
Cyllid
€56,000
Math o brosiect
Symudedd dysgwyr a staff Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (AHG)

Mae Ysgol Uwchradd Brno, Charbulova, yn paratoi myfyrwyr ym meysydd gastronomeg, lletygarwch, melysion, pobyddiaeth a thwristiaeth. Gwnaeth y prosiect wella sgiliau proffesiynol, ieithyddol a digidol y myfyrwyr drwy leoliadau gwaith rhyngwladol mewn gastronomeg a gwasanaethau, ac fe gefnogodd ddatblygiad proffesiynol athrawon drwy gysgodi swyddi. Hefyd, estynnodd y project gydweithrediad rhyngwladol yr ysgol â phartneriaid yn Barcelona, gyda phwyslais ar gynaliadwyedd a gwerthoedd Ewropeaidd.