Sut i wneud cais am gyllid i raglen Erasmus+

Beth yw'r meini prawf i sefydliadau sydd am wneud cais am gyllid Erasmus+ a beth sydd ei angen arnoch i ddechrau eich taith Erasmus+ ?

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

Mae cyllid ar gael ar gyfer lleoliadau a phartneriaethau rhyngwladol i sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon.

Dim ond sefydliadau cymwys sy’n gweithio ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid neu chwaraeon sy’n cael gwneud cais am gyllid. Er enghraifft, prifysgolion, ysgolion a cholegau, grwpiau ieuenctid neu glybiau chwaraeon. Ni chaiff myfyrwyr unigol neu aelodau staff unigol wneud cais yn uniongyrchol i’r rhaglen. Dylai unrhyw unigolion sydd am gymryd rhan mewn prosiect Erasmus+ gysylltu â’u prifysgol, ysgol neu grŵp.

Paratoi i gymryd rhan yn Erasmus+?

Er na fydd yr alwad am geisiadau yn agor tan November 2026, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i baratoi ymlaen llaw ar gyfer eith taith Erasmus+:

  • Cofrestru i dderbyn cylchlythyr Erasmus+ UK i wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd y rhaglen.
  • Dilyn Erasmus+UK ar gyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, LinkedIn a X.
  • Mynychu gweminarau ar gyfer eich sector i ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael a chanllawiau ar sut i gyflwyno cais am gyllid.
  • Dod yn gyfarwydd â rhaglen Erasmus+ a phenderfynu ar y math o brosiect yr hoffech ei gyflawni - prosiect symudedd neu brosiect partneriaeth. Gallwch bori drwy ddisgrifiadau o brosiectau blaenorol am ysbrydoliaeth ar wefan Erasmus+. Ystyriwch sut mae eich prosiect yn cefnogi blaenoriaethau Erasmus+.
  • Nodi darpar bartneriaid o’r tu hwnt i’r DU yr hoffech weithio â nhw.

Dyddiadau Allweddol

DyddiadGweithgaredd
Tachwedd 2026Galwad am geisiadau am gyllid Erasmus+ yn agor
Chwefror / Mawrth 2027Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau am gyllid
Mehefin - Awst 2027Canlyniadau’r broses gyllido

Ffeindio partner

Cyn mynd i ormod o fanylder wrth ddatblygu eich prosiect Erasmus+, mae’n bwysig eich bod yn nodi’r partner(iaid) yr hoffech weithio â nhw. Mae sefydlu eich partneriaeth yn gynnar yn rhoi cyfle i chi ddatblygu’r prosiect ar y cyd â’ch partner(iaid), a sicrhau ei fod yn adlewyrchu eich amcanion, arbenigedd(au) a gofynion cyffredin.

Efallai bod gyda chi gysylltiadau â sefydliadau yn Ewrop yn barod. Gall Erasmus+ eich helpu i adeiladu ar y cysylltiadau hyn a datblygu’r cydweithio ymhellach. Os ydych chi’n dechrau o’r dechrau, mae llawer o ffyrdd o ffeindio a chysylltu â darpar bartner(iaid).

Wrth chwilio am bartner(iaid) posibl, ystyriwch:

  • pa themâu neu bynciau rydych am weithio arnynt
  • a yw eich syniad yn cefnogi o leiaf un o flaenoriaethau Erasmus+
  • pa fath o sefydliad neu arbenigedd rydych yn chwilio amdano
  • beth gall eich sefydliad ei gynnig i’r bartneriaeth.

Gall yr adnoddau canlynol helpu sefydliadau i ffeindio partner(iaid) neu bostio eu syniadau am y math o brosiect maent yn dymuno gweithio arno: