Gwybodaeth am Erasmus+
Mae Erasmus+ yn agored i bawb
Mae Erasmus+ yn cynnig cyfleoedd rhyngwladol trawsnewidiol i ddysgwyr, hyfforddeion a staff ym meysydd addysg, ieuenctid a chwaraeon yn y DU.
Mae’r rhaglen yn cefnogi cyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol, gyda phrosiectau sy’n mynd y tu hwnt i ddulliau dysgu traddodiadol. Mae cyllid ar gael ar gyfer lleoliadau tymor hir a thymor byr. Wrth gynnig opsiynau hyblyg a chyllid wedi’i dargedu, mae’r rhaglen yn mynd i’r afael â rhwystrau sy’n gallu cadw unigolion a sefydliadau rhag cymryd rhan mewn rhagleni cyfnewid rhyngwladol a chynlluniau symudedd.
Mae gan raglen Erasmus+ bedair blaenoriaeth, sef:
- Cefnogi’r newid gwyrdd.
- Hybu trawsnewid digidol.
- Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ac amrywiaeth.
- Meithrin mwy o gyfranogiad yn ein bywyd democrataidd, a hybu gwerthoedd cyffredin ac ymgysylltu dinesig.
Pa allwch chi ei wneud gyda chyllid Erasmus+?
- Gall disgyblion ysgol dreulio cyfnod yn astudio dramor, naill ai fel rhan o ddosbarth neu grŵp, neu fel unigolion.
- Gall myfyrwyr a phrentisiaid mewn Addysg Uwch (AU), Addysg Bellach (AB) ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (AHG) astudio, hyfforddi, gwirfoddoli neu fynd ar leoliad gwaith dramor.
- Gall dysgwyr sy’n oedolion dreulio cyfnod mewn sefydliad addysg oedolion dramor neu astudio dramor fel rhan o grŵp.
- Gall pobl ifanc sy’n gweithio neu wirfoddoli gyda sefydliadau ieuenctid deithio i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi neu fentrau cyfnewid i ieuenctid a chymryd rhan mewn gweithdai, dadleuon a gweithgareddau awyr agored.
- Gall gweithwyr ieuenctid a staff sy’n gweithio mewn ysgolion, AB, AU neu ym maes addysg oedolion gael hyfforddiant neu ddysgu dramor a chymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol.
- Gall staff chwaraeon llawr gwlad dreulio cyfnod dramor yn cysgodi swydd neu gyflawni aseiniad hyfforddi.
Gall sefydliadau hefyd gymryd rhan yn rhaglen Erasmus+ drwy ffurfio prosiectau cydweithredu gyda phartneriaid dramor. Nod prosiectau o’r fath yw datblygu a rhanu arfer flaengar a gwella cynnig sefydliadau addysg, hyfforddiant, ieuenctid neu chwaraeon.
Mae cyllid ar gyfer gweithgareddau a phrosiectau Erasmus+ yn cael ei rannu ar draws pedwar Cam Gweithredu Allweddol.
| Gweithred | Disgrifiad |
|---|---|
| Cam Gweithredu Allweddol 1 - Symudedd unigolion | Cefnogi symudedd ffisegol a rhithwir i fyfyrwyr, athrawon, gweithwyr grwpiau ieuenctid, hyfforddwyr chwaraeon, hyfforddeion, prentisiaid a phobl ifanc. |
| Cam Gweithredu Allweddol 2 - Cydweithredu rhwng mudiadau a sefydliadau | Hybu prosiectau partneriaeth sy’n hybu arloesedd a rhannu arferion da. |
| Cam Gweithredu Allweddol 3 - Cefnogi datblygu polisi a chydweithredu | Cefnogi gweithgareddau sy’n rhoi hwb i leisiau pobl ifanc ac yn llywio arferion gorau mewn addysg a datblygu polisïau. |
| Camau Gweithredu Jean Monnet | Mae Erasmus+ hefyd yn darparu cyllid ar gyfer Camau Gweithredu Jean Monnet. Mae hwn yn cynnwys addysgu, dysgu ac ymchwil ynghylch hanes, nodau a pholisïau’r Undeb Ewropeaidd. |
Y British Council fydd yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Erasmus+ yn Y DU. Mae’r Asiantaeth Genedlaethol yn gyfrifol am gyflawni Erasmus+ yn y DU a bydd yn gyfrifol am reoli mwyafrif y ceisiadau a dderbynir ar gyfer Camau Gweithredu Allweddol 1 a 2. Mae’r Asiantaeth Genedlaethol hefyd yn darparu gwybodaeth am y rhaglen a chefnogi pobl a sefydliadau sy’n cymryd rhan yn Erasmus+.
Mae mwyafrif ceisiadau Camau Gweithredu Allweddol 3 a Chamau Gweithredu Jean Monnet yn cael eu rheoli gan Asiantaeth Weithredol Ewrop dros Addysg a Diwylliant (EACEA).
I ble gallwn ni deithio?
Holl aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy, Gogledd Macedonia, Serbia, a Thwrci. Gall cyfranogwyr deithio i wledydd partner y tu allan i’r grŵp yma o wledydd hefyd ar gyfer rhai prosiectau.
Ar gyfer beth y gellir defnyddio’r cyllid?
Cyllid ar gyfer prosiectau symudedd
Ar gyfer lleoliadau rhyngwladol a phrosiectau symudedd (Cam Gweithredu Allweddol 1) mae cyllid Erasmus+ yn cyfrannu at:
- costau teithio
- costau byw
- ffioedd cyrsiau
- costau fisa a mynediad
- dysgu iaith
- cymorth sefydliadol
- ymweliadau paratoadol.
Mae cyllid ychwanegol ar gael i bobl ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol a chyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig.
Cyllid ar gyfer partneriaethau
Rhoddir cyllid ar gyfer partneriaethau ar ffurf grant sefydlog - yn ôl y sector a’r math o bartneriaeth. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer unrhyw weithgaredd sy’n berthnasol i gyflawni’r prosiect, er enghraifft:
- rheoli’r prosiect (cynllunio, cyllido, cyfathrebu a chydlynnu rhwng partneriaid, monitro a goruchwylio)
- gweithgareddau dysgu
- gweithgareddau addysgu a hyfforddi
- cyfarfodydd a digwyddiadau
- canlyniadau’r prosiect (cyhoeddiadau, deunyddiau, dogfennau, adnoddau a chynhyrchion)
- gweithgareddau sy’n anelu at sicrhau’r effaith orau bosibl i ganlyniadau’r prosiect
- gweithgareddau sy’n anelu ar rannu canlyniadau’r prosiect.