Datganiad hygyrchedd

Paratowyd y datganiad hwn ar 5 Mai 2026 ac mae’n berthnasol i gynnwys a gyhoeddwyd ar erasmusplus.org.uk

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwefannau hyn. Mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau tudalennau gwe (heb gynnwys lawrlwythiadau dogfennau)
  • Chwyddo hyd at 300 y cant heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan hon mor syml â phosibl i’w ddeall. Fodd bynnag, nid yw’r wefan hon wedi’i phrofi eto am gydymffurfiaeth yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2 lefel AA. Rydym yn bwriadu cynnal archwiliad erbyn mis Medi 2026 gyda’r bwriad o fod yn gwbl gydymffurfiol heb eithriad yn unol â Deddf Cydraddoldeb y DU.

Byddwn yn defnyddio offer profi awtomataidd ynghyd ag archwiliadau llaw mewnol ac allanol.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Sut i ofyn am gynnwys mewn fformat hygyrch

Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol cysylltwch â ni a dywedwch wrthym:

  1. Eich enw a’ch cyfeiriad e-bost
  2. Y fformat sydd ei angen arnoch, er enghraifft, CD sain, Braille, Iaith Arwyddion Prydain neu brint bras, PDF hygyrch.