Beth yw manteision cymryd rhan yn Erasmus+?
Mae Erasmus+ yn agor y drws i brofiadau dysgu rhyngwladol a chyfleoedd i ddatblygu i ddysgwyr sy’n oedolion a gweithwyr yn y sector addysg oedolion. Mae astudio neu hyfforddi dramor yn helpu dysgwyr i feithrin sgiliau a chymwyseddau allweddol, gan gynnwys magu hyder a’r gallu i addasu. Gyda dewis o opsiynau hyblyg a chyllid ar gyfer teithio dramor, mae Erasmus+ yn agor cyfleodd i ddysgwyr a fyddai fel arall yn methu manteisio oherwydd rhwystrau cymdeithasol neu economaidd.
Does dim cyfyngiad oedran ar leoliadau addysg oedolion Erasmus+. Gall dysgwyr sy’n iau nag 18 oed ond sydd wedi cofrestru ar raglen addysg oedolion gymryd rhan, yn ogystal ag unrhyw un sy’n hŷn na 18 oed.
Pa gyfleoedd sydd ar gael?
Prosiectau Symudedd (Cam Gweithredu Allweddol 1)
Gall dysgwyr a staff ennill profiad rhyngwladol a meithrin sgiliau parod i’r dyfodol drwy gyllid ar gyfer lleoliadau dramor. Mae ceisiadau ar gyfer prosiectau symudedd yn cael eu rheoli gan yr Asiantaeth Genedlaethol.
Gall unrhyw fentrau symudedd ffisegol fod yn weithgareddau cymysg. Mae hyn yn golygu y gellir cyfuno gweithgareddau symudedd ffisegol gyda chydrannau rhithwir fel cyfnewid dysgu cydweithredu ar-lein neu waith tîm.
Cyfleoedd i ddysgwyr
- Gall grwpiau o ddysgwyr addysg oedolion deithio i wlad arall i ddysgu neu wirfoddoli gyda sefydliad partner am gyfnod o hyd at un mis.
- Gall dysgwyr unigol fynd ar leoliadau dysgu mewn gwlad arall am gyfnod o gyn lleied â dau ddiwrnod neu gyhyd â blwyddyn.
Cyfleoedd i staff
- Gall staff deithio i wlad arall i addysgu mewn sefydliad partner, croesawu arbenigwr addysg gwadd, cysgodi swydd, manteisio ar gyrsiau hyfforddi neu wneud cwrs sy’n helpu i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol. Mae’r cyfleoedd hyn yn hyblyg iawn - gallant bara am gyn lleied â rhai dyddiau neu gyhyd â blwyddyn gyfan.
Partneriaethau (Cam Gweithredu Allweddol 2)
Cyfle i ddatblygu partneriaethau strategol â sefydliadau perthnasol mewn gwahanol wledydd.
Partneriaethau ar raddfa fach
Bwriedir y math yma o bartneriaethau ar gyfer sefydliadau llai, neu rai sy’n newydd i Erasmus+. Mae’r prosiectau hyn yn rhedeg am rhwng chwe mis a dwy flynedd - rhwng o leiaf dau sefydliad o wledydd gwahanol. Mae Erasmus+ yn cynnig cyllid o hyd at €60,000 ar gyfer y partneriaethau hyn.
Partneriaethau Cydweithredu
Mae’r math yma o bartneriaeth yn addas ar gyfer prosiectau mwy, gydag o leiaf tri sefydliad o wledydd gwahanol. Dylai’r prosiectau redeg am rhwng un a thair blynedd. Mae cyllid o hyd at €400,000 ar gael.
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer partneriaethau ar raddfa fach a phartneriaethau cydweithredu drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU. Bydd angen gwneud cais i Asiantaeth Weithredol Ewrop dros Addysg a Diwylliant (EACEA) ar gyfer partneriaethau sy’n cael eu harwain gan Gyrff Anllywodraethol Ewropeaidd.
Prosiectau Blaengar
Mae’r prosiectau hyn yn para am rhwng dwy a phedair blynedd. Maent yn brosiectau ar raddfa fawr gydag o leiaf tri sefydliad o wahanol wledydd. Dyfernir grantiau o hyd at €1 miliwn ar gyfer y prosiectau hyn ac maent yn cael eu rheoli gan Asiantaeth Weithredol Ewrop dros Addysg a Diwylliant (EACEA)
Gallwch bori drwy ddisgrifiadau o brosiectau blaenorol am ysbrydoliaeth ar wefan Erasmus+.
Ysbrydoliaeth