Addysg Uwch

Pam cymryd rhan yn rhaglen Erasmus+

Gall sefydliadau addysg uwch yn y DU feithrin cysylltiadau cryfach gyda phartneriaid Ewropeaidd ac ehangu eu rhwydweithiau rhyngwladol drwy fanteisio ar gyfleoedd i staff a myfyrwyr deithio dramor a datblygu partneriaethau strategol i wella ansawdd addysgu a dysgu.

Pa gyfleoedd sydd ar gael?

Prosiectau symudedd (Cam Gweithredu Allweddol 1)

Gall dysgwyr a staff ennill profiad rhyngwladol a datblygu sgiliau parod i’r dyfodol drwy ddefnyddio cyllid ar gyfer lleoliadau dramor. Mae ceisiadau ar gyfer prosiectau symudedd yn cael eu rheoli gan yr Asiantaeth Genedlaethol.

Cyfleoedd i ddysgwyr

  • Cyfnod astudio: Gall myfyrwyr sy’n astudio mewn prifysgol yn y DU dreulio cyfnod yn astudio mewn sefydliad addysg uwch dramor fel rhan o’u rhaglen radd. Dylai’r cyfnod astudio bara rhwng dau fis ac un flwyddyn (ac eithrio amser teithio). Gallai cyfnod astudio dramor gynnwys hyfforddeiaeth hefyd, ond ni ddylai cyfanswm cyfnod cyfan y symudedd fod yn hirach na blwyddyn.
  • Hyfforddeiaeth: Gall myfyrwyr sy’n astudio mewn prifysgol yn y DU gyflawni hyfforddeiaeth dramor mewn gweithle perthnasol. Lle bo modd, dylai’r trefniant fod yn rhan annatod o’u rhaglen astudio. Gall hyfforddeiaethau bara am gyfnodau’n amrywio o ddau fis i ddeuddeg mis (ac eithrio amser teithio).
  • Symudedd Doethuriaeth (PhD): Gall myfyrwyr doethuriaeth mewn prifysgolion yn y DU dreulio cyfnod yn astudio dramor. Gall y cyfnod bara rhwng pump a thri deg diwrnod, neu rhwng dau a deuddeg mis. Gall symudedd doethuriaeth hefyd gynnwys hyfforddeiaeth ategol, ar yr amod nad yw’r cyfnod cyfan a dreulir dramor yn hirach na’r uchafswm penodedig.
  • Symudedd Cymysg: Gellir cynnal unrhyw un o’r symudeddau ffisegol sydd ar gael i fyfyrwyr addysg uwch fel symudedd cymysg. Mae hyn yn golygu cyfuno symudedd ffisegol â chydrannau rhithwir fel cyfnewid dysgu cydweithredol ar-lein neu waith tîm. Gall myfyrwyr hefyd gymryd rhan mewn rhaglenni dwys cymysg, sef rhaglenni byr sy’n defnyddio dulliau dysgu ac addysgu arloesol. Dylai elfen ffisegol rhaglen ddwys gymysg i ddysgwyr bara rhwng pump a thri deg diwrnod, ond nid oes isafswm i hyd y gydran rithwir.

Cyfleoedd i staff

  • Cyfnod addysgu: Gall staff addysgu sefydliad neu fenter addysg uwch dreulio cyfnod yn addysgu mewn sefydliad addysg uwch partner dramor. Gellir cyfuno gwaith addysgu gyda chyrsiau hyfforddi fel rhan o’r un cyfnod symudedd i staff. Dylai cyfanswm hyd symudeddau staff, yn y rhan fwyaf o achosion, fod rhwng dau a chwe deg diwrnod olynol.
  • Cyfnod hyfforddi: Gall unrhyw aelod o staff mewn sefydliad addysg uwch yn y DU gyflawni hyfforddiant dramor mewn sefydliad neu fenter addysg uwch bartner, neu mewn unrhyw weithle perthnasol cyhyd a’i fod yn berthnasol i’w gwaith. Gallai hynny gynnwys gweithgareddau hyfforddi, cysgodi swydd a chyfnodau arsylwi - ond nid yw’n cynnwys cynadleddau. Gellir cyfuno gweithgareddau hyfforddi gyda gwaith addysgu fel rhan o’r un cyfnod symudedd staff. Yn arferol, dylai cyfanswm hyd symudeddau staff fod rhwng dau a chwe deg diwrnod olynol, ond mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ hefyd yn amlinellu rhai eithriadau bach sy’n bosibl.
  • Symudedd cymysg: Gall unrhyw gyfnod addysgu neu hyfforddi dramor i staff fod yn symudedd cymysg. Yn arferol, rhaid i elfen ffisegol rhaglenni dwys cymysg bara rhwng pump a thri deg diwrnod, ond mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn amlinellu rhai eithriadau bach sy’n bosibl.

Partneriaethau (Cam Gweithredu Allweddol 2)

Gall sefydliadau addysg uwch yn y DU ddatblygu partneriaethau gyda sefydliadau Addysg Uwch mewn gwledydd eraill i wella ansawdd eu darpariaeth addysgol neu gydweithredu ar brosiectau ymchwil ar y cyd.

Partneriaethau Cydweithredu

Mae’r partneriaethau hyn yn ymgymryd â phrosiectau mwy o faint - gydag o leiaf tri sefydliad o wahanol wledydd. Dylai’r prosiectau redeg am rhwng un a thair blynedd. Mae cyllid o hyd at €400,000 ar gael.

Partneriaethau ar gyfer Rhagoriaeth

Mae’r partneriaethau hyn yn cynnwys prosiectau Meistr ar y Cyd Erasmus Mundus a Chynghreiriau Menter Prifysgolion Ewrop.

Cynghreiriau ar gyfer Arloesi

Mae cynghreiriau ar gyfer arloesi yn cefnogi cydweithredu cryfach a rhannu gwybodaeth rhwng y sector addysg uwch, busnesau a’r amgylchedd economaidd-gymdeithasol ehangach. Gallant bara am rhwng dwy a phedair blynedd gan gynnwys nifer o wahanol bartneriaid o bedair gwlad o leiaf.

Prosiectau meithrin gallu

Gall sefydliadau addysg uwch wneud cais uniongyrchol i Erasmus+ am gyllid, neu gallant wneud cais drwy gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch.

Datblygu polisi a chydweithredu (Cam Gweithredu Allweddol 3) a Chamau Gweithredu Jean Monnet

Gall prifysgolion hefyd wneud cais am gyllid drwy Gam Gweithredu Allweddol 3 sy’n cynnig cymorth ar gyfer datblygu polisi a chydweithredu. Gallant wneud cais hefyd am gyllid drwy Gamau Gweithredu Jean Monnet sy’n cefnogi addysgu, dysgu ac ymchwil ym maes Astudiaethau’r Undeb Ewropeaidd.

Dylid cyflwyno ceisiadau ar gyfer partneriaethau cydweithredu i’r Asiantaeth Genedlaethol. Dylai ceisiadau ar gyfer y mathau eraill o bartneriaethau addysg uwch, datblygu polisi neu Gamau Gweithredu Jean Monnet gael eu cyflwyno i Asiantaeth Weithredol Ewrop dros Addysg a Diwylliant (EACEA).

Gallwch bori drwy ddisgrifiadau o brosiectau blaenorol am ysbrydoliaeth ar wefan Erasmus+.

Ysbrydoliaeth

Golygfa o'r awyr o baneli solar mewn cae.

Enghraifft o brosiect

Strategaethau Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch

Gwledydd
Iwerddon, Denmarc, Ffrainc, Luxembourg a Thwrci
Cyfnod
2022-25
Cyllid
€400,000
Math o brosiect
Partneriaeth Gydweithredol

Nod y prosiect oedd grymuso sefydliadau addysg uwch Ewropeaidd i yrru'r broses o ddatblygu cynaliadwy drwy ymgorffori Amcanion Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig mewn modd cyfannol ym meysydd addysg, ymchwil, llywodraethiant, gweithgareddau campws, entrepreneuriaeth a gweithgareddau allgyrch.

Roedd dyn a dwy fenyw yn eistedd wrth fwrdd o amgylch iPad yn trafod.

Enghraifft o brosiect

Mentrau Addysg i Ffoaduriaid

Gwledydd
Gwlad Belg, Awstria, y DU a Hwngari
Cyfnod
2016-19
Cyllid
€440,000
Math o brosiect
Cefnogi diwygio polisi

Nod y prosiect hwn oedd datblygu rhwydwaith o raglenni addysg uwch a hyfforddiant eiriolaeth yn nhair o'r gwledydd a oedd newydd dderbyn nifer fawr o ffoaduriaid, sef Hwngari, Awstria a'r DU.