Pam cymryd rhan yn Erasmus+?
Mae Erasmus+ yn agor y drws i ddiwylliannau, ieithoedd syniadau a phrofiadau newydd. I ddysgwyr, gall profiad rhyngwladol helpu i fagu hyder a meithrin annibyniaeth wrth gyfoethogi eu dealltwriaeth o ddiwylliannau ac ieithoedd eraill. I athrawon, arweinwyr ysgol ac aelodau eraill o staff mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol rhyngwladol a chyfle i weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion eraill i rannu arfer gorau a dod â syniadau newydd yn ôl i’r ystafell ddosbarth.
Gall sefydliadau sy’n gweithio ym maes addysg ysgolion wneud cais am gyllid. Er enghraifft, ysgolion, ymddiriedolaethau academi, awdurdodau lleol, colegau addysg bellach sy’n cynnig cymwysterau academaidd, a cholegau chweched dosbarth.
Pa gyfleoedd sydd ar gael?
Prosiectau symudedd (Cam Gweithredu Allweddol 1)
Gall dysgwyr a staff ennill profiad rhyngwladol a datblygu sgiliau parod i’r dyfodol drwy gyllid ar gyfer lleoliadau dramor. Mae ceisiadau ar gyfer prosiectau symudedd yn cael eu rheoli gan yr Asiantaeth Genedlaethol.
Cyfleoedd i ddysgwyr
- Symudedd Grŵp: Gall grwpiau o hyd at 30 o ddisgyblion (ynghyd â staff) ymweld ag ysgol bartner dramor. Bydd y ddwy ysgol bartner yn cytuno ar hyd yr arhosiad, gweithgareddau a phynciau i ganolbwyntio arnynt. Gall gweithgareddau ganolbwyntio ar unrhyw ran o’r cwricwlwm neu gallant fod yn weithgareddau traws-gwricwlaidd neu’n weithgareddau cyfoethogi. Fel arfer, mae’r tripiau hyn yn para rhwng 2 a 30 diwrnod. Rhaid i ddysgwyr deithio yng nghwmni aelodau staff cymwysedig.
- Symudedd unigol: Gall dysgwyr unigol astudio dramor mewn ysgol bartner neu gwblhau hyfforddeiaeth dramor. Gall fod yn drefniant tymor byr (10-29 diwrnod) neu’n drefniant tymor hir (hyd at flwyddyn).
Cyfleoedd i staff
- Cysgodi swydd: Gall aelodau staff arsylwi ar addysgu a dysgu mewn ysgol dramor. Gall hyn fod am gyfnod o rhwng dau ddiwrnod ac un mis.
- Addysgu dramor: Gall staff addysgu neu hyfforddi mewn ysgol bartner. Gall hyn fod am gyfnod o rhwng dau ddiwrnod ac un flwyddyn.
- Cyrsiau hyfforddi: Gall staff fynychu cyrsiau hyfforddi dramor (am rhwng dau a deg diwrnod)
- Croesawu arbenigwr: Gallwch wahodd athro neu hyfforddwr i gyflawni hyfforddiant neu rannu arfer gorau (am gyfnod rhwng dau ddiwrnod ac un mis)
- Croesawu athrawes/athro dan hyfforddiant o ysgol bartner (am gyfnod rhwng deg diwrnod ac un flwyddyn).
Partneriaethau (Cam Gweithredu Allweddol 2)
Partneriaethau ar raddfa fach
Mae’r rhain yn bartneriaethau ar gyfer sefydliadau llai, neu rai sy’n newydd i Erasmus+. Maent yn brosiectau sy’n addas ar gyfer ysgolion unigol, o ddysgwyr blynyddoedd cynnar i ddysgwyr uwchradd. Mae’r partneriaethau hyn yn para am rhwng chwe mis a dwy flynedd gydag o leiaf dau sefydliad o wledydd gwahanol yn cymryd rhan. Mae Erasmus+ yn darparu grant o €30,000 neu €60,000 ar gyfer y prosiectau hyn.
Partneriaethau Cydweithredu
Mae’r partneriaethau hyn yn cael eu rhedeg gan dri sefydliad o leiaf - o wledydd gwahanol. Mae’r math yma o brosiect yn addas ar gyfer sefydliadau mawr fel ymddiriedolaethau aml-academi, awdurdodau lleol neu sefydliadau hyfforddi athrawon. Gall ysgolion unigol hefyd gymryd rhan fel partneriaid. Dylai’r prosiectau hyn redeg am rhwng un a thair blynedd. Mae opsiynau ar gyfer grantiau o €120,000, €250,000 neu €400,000 ar gael.
Partneriaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Ysgolion
Mae’r partneriaethau hyn yn cefnogi arloesi strategol a rhannu arfer da. Mae’r partneriaethau hyn yn addas ar gyfer sefydliadau mwy fel ymddiriedolaethau aml-academi, awdurdodau lleol neu sefydliadau hyfforddi athrawon. Gall ysgolion unigol hefyd gymryd rhan fel partner. Mae grantiau o hyd at €400,000 ar gael ar gyfer y math yma o bartneriaeth.
Dylid cyflwyno ceisiadau ar gyfer partneriaethau ar raddfa fach a phartneriaethau cydweithredu i’r Asiantaeth Genedlaethol. Dylid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y rhaglen Partneriaethau Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Ysgolion i Asiantaeth Weithredol Ewrop dros Addysg a Diwylliant (EACEA).
Camau Gweithredu Jean Monnet
Gall ysgolion a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch hefyd wneud cais am gyllid ar gyfer hyfforddi athrawon, mentrau addysgu a dysgu’r Undeb Ewropeaidd a rhwydweithiau ar gyfer ysgolion. Daw cyllid ar gyfer mentrau Camau Gweithredu Jean Mommet gan Asiantaeth Weithredol Ewrop dros Addysg a Diwylliant (EACEA).
Gallwch bori drwy ddisgrifiadau o brosiectau blaenorol am ysbrydoliaeth ar wefan Erasmus+.
Ysbrydoliaeth