Ieuenctid

Pam cymryd rhan yn Erasmus+?

Mae Erasmus+ yn rhoi cyfle i bobl ifanc a gweithwyr ieuenctid deithio, cysylltu a chydweithio â chymheiriaid dramor drwy gynlluniau cyfnewid a phartneriaethau. Bydd cyllid Erasmus+ yn cefnogi pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yn y DU drwy roi cyfle iddynt archwilio syniadau newydd ac ehangu eu gorwelion. Byddant yn gallu cynllunio a chyflawni prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cymunedau gyda phwyslais ar faterion sy’n bwysig i bobl ifanc. Mae hyn oll yn helpu pobl ifanc i gymryd rhan yn eu cymunedau, a’u helpu i siapio dyfodol mwy cadarnhaol iddynt eu hunain a’u cymunedau. Gyda dewis o opsiynau hyblyg a chyllid ar gyfer teithio dramor, mae Erasmus+ yn agor cyfleodd i bobl a fyddai fel arall efallai’n methu manteisio oherwydd rhwystrau cymdeithasol neu economaidd.

Pa gyfleoedd sydd ar gael?

Prosiectau symudedd (Cam Gweithredu Allweddol 1)

Gall pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid ennill profiad rhyngwladol a meithrin cysylltiadau newydd drwy’r cyllid sydd ar gael i deithio dramor. Mae ceisiadau ar gyfer prosiectau symudedd yn cael ei rheoli gan yr Asiantaeth Genedlaethol.

Cyfleoedd i bobl ifanc

  • Rhaglenni Cyfnewid i Ieuenctid: Mae’r rhaglenni cyfnewid hyn yn dod â phobl ifanc o ddwy wlad wahanol o leiaf at ei gilydd i ddysgu drwy weithgareddau fel gweithdai, dadleuon a gweithgareddau awyr agored. Gall rhaglenni cyfnewid i Ieuenctid bara am rhwng 5 diwrnod a 21 diwrnod.
  • Rhaglen ‘Discover EU’ a ‘Discover EU Inclusion Action’: Mae ‘Discover EU’ yn rhoi cyfle i bobl 18 oed deithio ar draws Ewrop (yn bennaf ar drên), gan ddysgu am dreftadaeth ddiwylliannol a chysylltu â phobl eraill. Gall pobl ifanc deithio ar eu pennau eu hunain neu mewn grŵp o hyd at bump. Mae rhaglen ‘Discover EU Inclusion Action’ yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 18 a 21 oed sydd â llai o gyfleoedd neu sy’n wynebu rhwystrau i deithio gydag adnoddau a chefnogaeth ychwanegol.
  • Prosiectau Cyfranogiad Ieuenctid: Mae prosiectau o’r math yma’n helpu pobl ifanc i gymryd rhan ym mywyd democrataidd, diwylliannol a gwleidyddol eu cymunedau a’r byd o’u cwmpas a lleisio’u barn ar faterion sydd o bwys iddynt. Mae gweithgareddau’n cynnwys gweithdai, dadleuon, digwyddiadau chwarae rôl, efelychiadau, defnyddio adnoddau digidol, ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a hyfforddi. Gall y gweithgareddau hyn gael eu cynnal yn y DU neu’n draws-wladol.

Cyfleoedd i weithwyr ieuenctid

Gall gweithwyr ieuenctid gymryd rhan mewn prosiectau symudedd i hybu eu datblygiad proffesiynol ac ehangu cwmpas sgiliau a gallu eu sefydliad. Gall gweithgareddau gynnwys seminarau, cyrsiau hyfforddi, digwyddiadau rhwydweithio, ymweliadau astudio, neu gysgodi swydd dramor. Mae gofyn i ddau sefydliad ieuenctid o leiaf, o wledydd gwahanol, i gymryd rhan yn y prosiectau hyn. Gall prosiectau bara am gyfnodau’n amrywio o dri mis i ddwy flynedd.

Partneriaethau (Cam gweithredu Allweddol 2)

Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i alluogi sefydliadau ieuenctid ddatblygu partneriaethau gyda sefydliadau perthnasol eraill mewn gwledydd gwahanol.

Partneriaethau ar raddfa fach

Mae’r rhain yn bartneriaethau ar gyfer sefydliadau llawr gwlad llai, neu rai sy’n newydd i Erasmus+. Gall partneriaethau redeg am gyfnodau’n amrywio o chwe mis i ddwy flynedd gyda dau sefydliad (o leiaf) o wledydd gwahanol. Mae Erasmus+ yn cynnig cyllid o €30,000 neu €60,000 ar gyfer y prosiectau hyn.

Partneriaethau Cydweithredu

Mae’r rhain yn bartneriaethau sy’n addas i sefydliadau profiadol neu brosiectau mwy o faint. Maent yn brosiectau rhwng o leiaf tri sefydliad o wahanol wledydd, gyda ffocws ar ddulliau newydd ac arloesol. Disgwylir i’r prosiectau hyn redeg am rhwng un a thair blynedd. Mae grantiau o €120,000, €250,000 neu €400,000 ar gael.

Dylid cyflwyno ceisiadau am gyllid ar gyfer partneriaethau ar raddfa fach a phartneriaethau cydweithredu i’r Asiantaeth Genedlaethol.

Meithrin Gallu ym maes Ieuenctid

Cefnogaeth i fentrau cydweithredu rhyngwladol sy’n anelu i gryfhau sefydliadau ieuenctid a hyrwyddo dulliau dysgu anffurfiol mewn gwledydd sy’n gysylltiedig â’r Undeb Ewropeaidd ynghyd â chasgliad o wledydd penodol eraill. Mae grantiau o €300k ar gael ar gyfer y prosiectau, sy’n para rhwng 12 a 36 mis.

Ieuenctid Ewrop Gyda’n Gilydd / European Youth Together

Cefnogaeth i bartneriaethau traws-wladol sy’n galluogi sefydliadau ieuenctid i greu rhwydweithiau, hybu cydweithio rhanbarthol, a meithrin cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan ym myd democratiaeth Ewrop. Mae gofyn fod consortiwm o bum partner o leiaf gan y prosiectau hyn – o bum gwlad Erasmus+ wahanol (Aelod-wladwriaethau’r UE a gwledydd cysylltiedig). Mae’r rhaglen yn darparu grantiau o hyd at €500k ar gyfer prosiectau 24 mis.

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y prosiectau hyn i Asiantaeth Weithredol Ewrop dros Addysg a Diwylliant (EACEA).

Pwy sy’n gallu gwneud cais am gyllid ieuenctid?

Sefydliad neu gymdeithas nid er elw neu Gorff Anllywodraethol; Cyrff Ieuenctid Anllywodraethol Ewropeaidd; cyrff cyhoeddus lleol, rhanbarthol neu genedlaethol; mentrau cymdeithasol; cyrff sy’n gwneud elw sy’n weithgar ym maes cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac sydd â phrofiad profedig ym maes ieuenctid, ar yr amod nad oes gan eu cyfranogiad bwrpas masnachol ac nad yw wedi’i anelu at wneud elw.

Gallwch bori drwy ddisgrifiadau o brosiectau blaenorol am ysbrydoliaeth ar cronfa ddata Erasmus+.

Ysbrydoliaeth

Mae dau gydweithiwr yn sgwrsio'n fywiog mewn cyntedd swyddfa fodern

Enghraifft o brosiect

Entrepreneuriaeth a Grymuso Ieuenctid – Rhaglen Datblygu Cymhwysedd ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol a Chyflogaeth

Gwledydd
Croatia, Cyprus, Norwy, Portiwgal
Cyfnod
2019–21
Cyllid
€56,165
Math o brosiect
Partneriaethau Strategol ar gyfer ieuenctid

Hyrwyddodd y prosiect rymuso pobl ifanc ac entrepreneuriaeth drwy rannu gwybodaeth a chymwyseddau ar gyfer dysgu gydol oes, ac offer ar gyfer cychwyn busnesau newydd. Hyrwyddodd hefyd gynhwysiant cymdeithasol pobl ifanc, gan gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, drwy greu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ac integreiddio i'r farchnad lafur.

Grŵp bach o actorion ar lwyfan yn ystod eu perfformiad

Enghraifft o brosiect

Theatr ddogfennol: Geiriau sy'n cyfrif!

Gwledydd
Y Ffindir, Gwlad Groeg, Latfia, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Twrci
Cyfnod
2021–22
Cyllid
€34,511
Math o brosiect
Symudedd ieuenctid

Daeth pobl ifanc o Bortiwgal, Gwlad Pwyl, Gwlad Groeg, Latfia, y Ffindir a Thwrci ynghyd yn Braga, Portiwgal ar gyfer y prosiect. Roedd cefndir y cyfranogwyr yn amrywiol iawn. Fe wnaethon nhw ymgymryd â gwahanol rolau i gydweithio i ysgrifennu, cynhyrchu a pherfformio darn o theatr gair-am-air, gan dynnu ar yr heriau sy'n wynebu cymunedau mewnfudwyr, gan gynnwys gwahaniaethu, allgáu ac araith gasineb.