Cyfleoedd Addysg Oedolion rhaglen Erasmus+
- Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Medi, 9:00 - 10:00 GMT+1
- Math o ddigwyddiad: Ar-lein
Ydych chi’n barod i gymryd eich cam cyntaf i fyd addysg a phartneriaethau Ewropeaidd? Neu eisiau datblygu cysylltiadau neu brosiectau rhyngwladol sy’n bodoli’n barod?
Nod y weminar yma yw cyflwyno Erasmus+ i staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio ym maes addysg oedolion a gyda dysgwyr sy’n oedolion, mewn pob math o leoliadau a sefydliadau – o addysg gymunedol i lyfrgelloedd, amgueddfeydd, sefydliadau anllywodraethol, a cholegau.
Yn ystod y weminar byddwn yn:
- rhoi trosolwg o’r rhaglen Erasmus+ newydd, gan esbonio sut mae wedi newid a’r cyfleoedd newydd sydd ar gael
- edrych ar opsiynau penodol i addysg oedolion y gellir eu datblygu o fewn sefydliad unigol neu fel consortiwm: anfon dysgwyr a staff i wlad arall i hyfforddi, dysgu, magu hyder, neu gysgodi swydd
- amlinellu cyfleoedd i sefydlu partneriaethau cydweithredol i rannu arfer gorau, cydweithio i ddatrys heriau sy’n wynebu’r sector addysg oedolion, a meithrin arbenigedd eich staff a sefydliadau.
Mae’r British Council, sydd ar fin dod yn Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+, yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau ac adnoddau i baratoi ar gyfer ail-ymuno â’r rhaglen yn 2027.
Cofrestrwch ar gyfer y weminar yma heddiw i ddarganfod sut y gallwch ddechrau eich taith Erasmus+!