Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
Partneru gyda sefydliadau ar draws Ewrop, gan roi cyfle i fyfyrwyr a staff ennill profiadau uniongyrchol ac ymarferol dramor.
Pam cymryd rhan yn Erasmus+?
Mae Erasmus+ yn rhoi cyfle i ddarparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol bartneru gyda sefydliadau ledled Ewrop, gan roi cyfle i fyfyrwyr a staff ennill profiad ymarferol uniongyrchol dramor. Mae'r cyfleoedd hyn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau technegol a rhyngbersonol newydd, magu hyder a chryfhau eu cyflogadwyedd ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Drwy gynnig opsiynau hyblyg a darparu cyllid ar gyfer teithio dramor, mae Erasmus+ yn agor y drws i ddysgwyr a fyddai fel arall efallai'n methu manteisio ar gyfleoedd oherwydd rhwystrau cymdeithasol neu economaidd.
Mae sefydliadau sy'n cynnig addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn gymwys i wneud cais am gyllid, gan gynnwys colegau addysg bellach a sefydliadau sy'n darparu prentisiaethau, yn ogystal ag ysgolion sy'n cynnig cymwysterau technegol galwedigaethol.
Gall colegau addysg bellach sy'n gwneud cais am gyllid Erasmus+ gyflwyno ceisiadau o dan y sector ysgolion, addysg a hyfforddiant galwedigaethol, addysg oedolion neu'r sector addysg uwch - yn dibynnu ar y math o gyrsiau a rhaglenni a ddarperir ganddynt.
Pa gyfleoedd sydd ar gael?
Prosiectau symudedd (Cam Gweithredu Allweddol 1)
Gall dysgwyr a staff ennill profiad rhyngwladol a meithrin sgiliau parod i'r dyfodol drwy gyllid ar gyfer lleoliadau dramor. Mae ceisiadau ar gyfer prosiectau symudedd yn cael eu rheoli gan yr Asiantaeth Genedlaethol.
Cyfleoedd i ddysgwyr
- Symudedd Grŵp: Gall grŵp o fyfyrwyr deithio dramor i ddysgu â chyd-fyfyrwyr gyda darparwr AHG partner. Gall y prosiectau hyn bara am rhwng dau a thri deg diwrnod a gallant hefyd gynnwys gweithgareddau dysgu rhithwir. Rhaid i ddysgwyr deithio yng nghwmni aelodau staff cymwysedig.
- Symudedd Unigol: Gall myfyriwr unigol deithio dramor i ddarparwr AHG partner, cwmni neu sefydliad AHG arall i ddysgu neu hyfforddi. Rhaid bod y lleoliad gwaith yn gallu cynnig elfen gadarn o brofiad yn seiliedig ar waith. Gall fod yn symudedd tymor byr (rhwng deg diwrnod a thri mis) neu'n symudedd tymor hir (tri mis - un flwyddyn).
- Cystadleuaeth Sgiliau: Mae cyllid ar gael i alluogi myfyrwyr i gystadlu mewn cystadleuaeth sgiliau. Gall hyd y symudedd bara rhwng un diwrnod a deg diwrnod.
Cyfleoedd i staff
- Cysgodi Swydd: Gall staff ymweld â darparwr mewn gwlad Erasmus+ arall i ddysgu arferion newydd. Gall y symudedd bara rhwng dau ddiwrnod a dau fis.
- Addysgu Dramor: Gall staff addysgu mewn sefydliad partner dramor. Gall y symudedd bara am gyfnod yn amrywio o ddau ddiwrnod i un flwyddyn.
- Cyrsiau Hyfforddi: Gall staff fynychu cyrsiau hyfforddi mewn gwad Erasmus+ arall (am gyfnod rhwng dau ddiwrnod i ddeg diwrnod).
Partneriaethau (Cam Gweithredu Allweddol 2)
Partneriaethau ar raddfa fach
Mae'r rhain yn bartneriaethau ar gyfer sefydliadau llai, neu rai sy'n newydd i Erasmus+. Gall partneriaethau redeg am rhwng chwe mis i ddwy flynedd gydag o leiaf dau sefydliad o wledydd gwahanol. Mae Erasmus+ yn cynnig cyllid o €30,000 neu €60,000 ar gyfer y prosiectau hyn.
Partneriaethau Cydweithredu
Mae'r rhain yn bartneriaethau rhwng o leiaf tri sefydliad o wahanol wledydd. Maent yn canolbwyntio ar ddulliau gweithredu neu ddeunyddiau addysgol arloesol y gellir eu defnyddio gan eraill hefyd. Disgwylir i'r prosiectau hyn redeg am rhwng un a thair blynedd. Mae grantiau o €120,000, €250,000 neu €400,000 ar gael.
Dylid cyflwyno ceisiadau am gyllid ar gyfer partneriaethau ar raddfa fach a phartneriaethau cydweithredu i'r Asiantaeth Genedlaethol.
Partneriaethau eraill
Mae nifer o gyfleoedd eraill am bartneriaethau ar gael i ddarparwyr AHG. Dylid gwneud y ceisiadau ar eu cyfer drwy Asiantaeth Weithredol Ewrop dros Addysg a Diwylliant (EACEA).
- Canolfannau Rhagoriaeth Galwedigaethol: Mae rhwydweithiau rhanbarthol yn rhan annatod o ysgogi arloesedd, ansawdd a chynhwysiant mewn Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol.
- Cynghreiriau ar gyfer Arloesi: Sefydliadau addysgol a chwmnïau'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu sgiliau gwaith i'r dyfodol. Yn cynnwys cyllid ar wahân ar gyfer prosiectau sy'n canolbwyntio ar addysg, menter, cydweithredu sectoraidd a sgiliau STEM.
- Prosiectau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol: Mae'r prosiectau hyn yn ymwneud â'r heriau a'r arloesi cyfredol ym maes addysg.
- Adeiladu Gallu yn y maes Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol: Mae'r prosiectau hyn yn anelu i gryfhau systemau AHG mewn gwledydd partner y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Camau Gweithredu Jean Monnet
Gall darparwyr AHG hefyd wneud cais am gyllid ar gyfer hyfforddiant athrawon, mentrau addysgu a dysgu'r Undeb Ewropeaidd a Rhwydweithiau Ewropeaidd ar gyfer AHG. Dylid gwneud ceisiadau am gyllid ar gyfer Camau Gweithredu Jean Monnet i Asiantaeth Weithredol Ewrop dros Addysg a Diwylliant (EACEA).
Gallwch bori drwy ddisgrifiadau o brosiectau blaenorol am ysbrydoliaeth ar cronfa ddata Erasmus+.
Ysbrydoliaeth

dm4res - Hybu gwytnwch ffoaduriaid drwy ddatblygu sgiliau marchnata digidol
Cefnogodd prosiect dm4res ffoaduriaid sy'n oedolion drwy hyfforddiant marchnata digidol wedi'i dargedu, mentora ac achredu ymarferol ar draws tair gwlad.

Interniaeth ryngwladol mewn gastronomeg
Gwnaeth y prosiect wella sgiliau proffesiynol, ieithyddol a digidol myfyrwyr drwy interniaethau rhyngwladol a chefnogi athrawon drwy gysgodi swyddi.