Clybiau Chwaraeon

Rhoi bywyd newydd i fentrau cydweithio rhyngwladol chwaraeon llawr gwlad ar draws y DU.

Pam cymryd rhan yn Erasmus+?

Mae Erasmus+ yn cynnig cyfle i staff chwaraeon llawr gwlad weithio gyda phartneriaid ar draws Ewrop i roi bywyd newydd i bosibiliadau mentrau cydweithredu rhyngwladol a chynyddu gallu a chwmpas chwaraeon llawr gwlad yn y DU. Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle i hyfforddwyr a staff clybiau chwaraeon feithrin sgiliau ac ennill cymwysterau newydd. Bydd cynyddu gallu a chwmpas chwaraeon llawr gwlad yn hybu a chynyddu gweithgareddau ymarfer corff a bywyd iach, yn ogystal â hybu cynhwysiant cymdeithasol a chydraddoldeb. Bydd rhannu a chyfnewid profiad ac arbenigedd hefyd yn cyfrannu at greu rhwydwaith Ewropeaidd o hyfforddwyr a staff chwaraeon. Bydd y cyllid yn cefnogi'r gallu sydd gan chwaraeon i hybu cynhwysiant, cydlyniad cymdeithasol a gwerthoedd cyffredin.

Pa gyfleoedd sydd ar gael?

Prosiectau symudedd (Cam Gweithredu 1)

Cyfle i hyfforddwyr ac aelodau staff eraill (gan gynnwys gwirfoddolwyr) i ennill profiad rhyngwladol gyda chyllid ar gyfer lleoliadau dramor. Mae ceisiadau ar gyfer prosiectau symudedd yn cael eu rheoli gan yr Asiantaeth Genedlaethol.

Cyfleoedd i staff a gwirfoddolwyr

Gall prosiect gynnwys un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol:

Cysgodi swydd a chyfnodau arsylwi

  • Beth mae hyn yn ei olygu? Treulio amser mewn sefydliad lletyol i ddysgu am arferion a syniadau newydd drwy arsylwi a sgyrsiau rhyngweithiol gyda chyd-weithwyr. 
  • Hyd: 2-14 diwrnod (ac eithrio diwrnodau teithio)

Aseiniadau hyfforddi ac ymarfer  

  • Beth mae hyn yn ei olygu? Treulio amser mewn sefydliad lletyol i rannu arferion gorau a datblygu persbectifau a sgiliau newydd.
  • Hyd: 7- 45 diwrnod (ac eithrio diwrnodau teithio) 

Yn ogystal â theithio i gymryd rhan, gellir cyfuno gweithgareddau symudeddau staff gyda sesiynau dysgu ar-lein. 

Pwy sy'n gallu manteisio ar symudedd chwaraeon?
  • Hyfforddwyr a staff chwaraeon eraill sy’n gweithio mewn sefydliadau chwaraeon ar lefel llawr gwlad neu gymunedol.
  • Staff sy’n gweithio ym maes chwaraeon llawr gwlad, gan gynnwys pobl sydd â gyrfaoedd deuol neu sy’n gweithio mewn sectorau eraill, lle gall eu cyfranogiad mewn symudedd fod o fudd i chwaraeon llawr gwlad.
  • Gwirfoddolwyr (ac eithrio hyfforddwyr) mewn sefydliadau chwaraeon.
Pa sefydliadau sy’n gallu gwneud cais am gyllid symudedd chwaraeon?
  • Sefydliadau cyhoeddus neu breifat ym maes chwaraeon neu weithgareddau corfforol ac sy’n trefnu chwaraeon a/neu weithgareddau corfforol ar lefel llawr gwlad (e.e. sefydliad nid er elw, awdurdod cyhoeddus lleol, clwb chwaraeon).
  • Sefydliadau chwaraeon nad ydynt yn sefydliadau llawr gwlad cyhyd â bod cyfraniad eu staff o fudd i chwaraeon llawr gwlad.

Cyfleoedd eraill ar gyfer Partneriaethau Chwaraeon Erasmus+ (Cam Gweithredu 2)

Mae Erasmus+ yn cynnig cyllid i sefydliadau chwaraeon feithrin partneriaethau gyda sefydliadau perthnasol mewn gwahanol wledydd - i gydweithio ar themâu ac amcanion cyffredin.

Mae’r gweithgareddau Chwaraeon Erasmus+ (Cam Gweithredu 2) canlynol ar gael yn uniongyrchol drwy’r Comisiwn Ewropeaidd (h.y. nid ydynt yn cael eu rheoli gan y British Council). Dylid cyflwyno ceisiadau i Awdurdod Gweithredol Addysg a Diwylliant Ewrop (EACEA).

  • Meithrin gallu ym maes chwaraeon – mae’r cam gweithredu yma’n cefnogi mentrau cydweithredu rhyngwladol sy’n anelu at gryfhau gallu sefydliadau chwaraeon llawr gwlad ac annog gweithgareddau chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn gwledydd sy’n gysylltiedig â’r EU a thrydydd gwledydd penodol; gan hybu cynhwysiant cymdeithasol drwy chwaraeon a hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol drwy chwaraeon (fel chwarae teg, goddefgarwch, ac ysbryd tîm).
  • Partneriaethau Cydweithredu – mae’r cam gweithredu yma’n cefnogi prosiectau ar y cyd rhwng o leiaf tair gwlad wahanol i ddatblygu arferion arloesol a chydweithio ar fentrau er budd y sector chwaraeon.
  • Partneriaethau Graddfa Fach – mae’r cam gweithredu yma’n cefnogi prosiectau gydag o leiaf ddau sefydliad o wledydd gwahanol i gydweithredu ar fentrau er budd y sector chwaraeon. Mae gofyn i gyfranogwyr fod yn sefydliadau llawr gwlad llai o faint a/neu’n sefydliadau sy’n newydd i Erasmus+. 
  • Digwyddiadau Chwaraeon Ewropeaidd Nid Er Elw – mae’r cam gweithredu yma’n cefnogi’r gwaith o drefnu digwyddiadau chwaraeon o wahanol faint sydd â dimensiwn Ewropeaidd.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma, ar Wefan y Comisiwn Ewropeaidd

Ysbrydoliaeth

Os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth, gallwch bori drwy brosiectau blaenorol ar: fas data prosiectau Erasmus+

Chwaraewyr pel-droed llawen yn sgwrsio ar gae chwaraeon.

YN: atgyfnerthu cynhwysiant trwy chwaraeon 

Teithiodd pump aelod o staff o Sbaen i Rwmania i archwilio sut y gellir defnyddio chwaraeon i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol drwy gysgodi swyddi a dysgu ymarferol.

Chwaraewr pel-fasged a'i gysgod

Cenhadaeth : Sport 4 All 

Helpodd y fenter weithwyr chwaraeon proffesiynol i ddysgu dulliau newydd o gefnogi integreiddio cymdeithasol a phroffesiynol pobl ifanc drwy chwaraeon.