Darganfod mwy am gyfleoedd ar gyfer eich sefydliad

Mae cyfleoedd cyllido Erasmus+ yn cael eu trefnu fesul sector.

Bydd rhai sefydliadau'n gymwys i wneud cais am gyllid mewn mwy nag un sector. Er enghraifft, gallai coleg addysg bellach gyflwyno ceisiadau o dan y sector ysgolion, addysg a hyfforddiant galwedigaethol, addysg oedolion neu addysg uwch - yn ddibynol ar y math o gyrsiau a rhaglenni a gynigir ganddynt.

Menyw hapus yn tynnu hunlun gyda menyw hn trwy ffôn clyfar wrth eistedd wrth fwrdd bwyta yn yr ardd gefn.

Addysg Oedolion 

Cyfleoedd dysgu a datblygu rhyngwladol i ddysgwyr a staff – gyda thua £20 miliwn o gyllid ar gael ar gyfer sefydliadau addysg oedolion yn y DU.

Menyw yn siarad ar ffôn symudol o flaen Porth Brandenburg.

Addysg Uwch 

Cyfleoedd i feithrin cysylltiadau cryfach gyda phartneriaid Ewropeaidd ac ehangu eich rhwydweithiau rhyngwladol gyda grant Erasmus+.

Myfyrwyr benywaidd ifanc yn codi eu dwylo mewn ystafell ddosbarth.

Ysgolion 

Agor y drws i gyfleoedd i bawb drwy raglenni cyfnewid a phartneriaethau; mae gwerth tua £70 miliwn o gyllid ar gael i ysgolion yn y DU.

Dyn ifanc yn dal pêl-droed mewn parc.

Clybiau Chwaraeon 

Cyfle i roi sbardun newydd i fentrau cydweithio rhyngwladol ym maes chwaraeon llawr gwlad ledled y DU. Am y tro cyntaf, mae gwerth tua £2 miliwn o gyllid grant Erasmus+ ar gael i sefydliadau chwaraeon yn y DU.

Technegydd mewn lifrai a het galed yn gweithio ar beiriant.

Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol 

Cyfle i ffurfio partneriaethau gyda sefydliadau ledled Ewrop, gan roi cyfle i fyfyrwyr a staff fanteisio ar brofiadau ymarferol uniongyrchol dramor. Mae tua £100 miliwn o gyllid grant ar gael ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn y DU.

Menywod ifanc yn gwenu ac yn edrych allan o ddrws trên agored.

Ieuenctid 

Cyfleoedd i bobl ifanc deithio, cyfnewid syniadau a chydweithio â grwpiau ieuenctid eraill.