

Mae drysau Erasmus+ ar agor!
Mae dros £400 miliwn o gyllid grant ar gael i sefydliadau yn y DU ym meysydd addysg, hyfforddinat, ieuenctid, a chwaraeon. Gwnewch gais am grantiau iddysgu, hyfforddi, a chydweithio mewn 30+ o wledydd yn Ewrop a thu hwnt.
Mae Erasmus+ yn cynnig cyllid i astudio, hyfforddi, a meithrin profiad rhyngwladol yn Ewrop
Mae Erasmus+ yn agor y drws i gyfleoedd newydd i bobl o bob rhan o’r DU ennill profiad a gwybodaeth drwy astudio neu hyfforddi dramor. Mae cyllid ar gael ar gyfer lleoliadau a phartneriaethau rhyngwladol i sefydliadau ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid, a chwaraeon.
Mae’n gyfle i gyfranogwyr ddarganfod eu talentau, ymestyn eu gorwelion, a chael ymdeimlad o berthyn – a’r cyfan wrth fagu hyder a dysgu sgiliau newydd i’w paratoi ar gyfer llwyddiant personol a phroffesiynol yn y dyfodol.

‘Dw i’n eithriadol o frwd am Erasmus+ ac fe fyddwn i’n annog unrhyw sefydliad i ystyried datblygu neu ymuno â phartneriaeth. Mae’n brofiad gwych. Mae’n rhoi cyfle i chi rannu arfer da, archwilio dulliau arloesol, a dysgu gan bartneriaid sy’n wynebu’r un heriau mewn gwledydd eraill.’
Susan Russam | ITER (Improving Transitions, Enabling Results)

