Sut i wneud cais am gyllid i raglen Erasmus+

Beth yw'r meini prawf i sefydliadau sydd am wneud cais am gyllid Erasmus+ a beth sydd ei angen arnoch i ddechrau eich taith Erasmus+ ?

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Mae cyllid ar gael ar gyfer lleoliadau a phartneriaethau rhyngwladol i sefydliadau sy'n gweithio ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon.

Dim ond sefydliadau cymwys sy'n gweithio ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid neu chwaraeon sy'n cael gwneud cais am gyllid. Er enghraifft, prifysgolion, ysgolion a cholegau, grwpiau ieuenctid neu glybiau chwaraeon. Ni chaiff myfyrwyr unigol neu aelodau staff unigol wneud cais yn uniongyrchol i'r rhaglen. Dylai unrhyw unigolion sydd am gymryd rhan mewn prosiect Erasmus+ gysylltu â'u prifysgol, ysgol neu grŵp.

Paratoi i gymryd rhan yn Erasmus+?

Er na fydd yr alwad am geisiadau yn agor tan November 2026, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i baratoi ymlaen llaw ar gyfer eith taith Erasmus+:

  • Cofrestru i dderbyn cylchlythyr Erasmus+ UK i wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd y rhaglen.
  • Dilyn Erasmus+UK ar gyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, LinkedIn a X.
  • Mynychu gweminarau ar gyfer eich sector i ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael a chanllawiau ar sut i gyflwyno cais am gyllid.
  • Dod yn gyfarwydd â rhaglen Erasmus+ a phenderfynu ar y math o brosiect yr hoffech ei gyflawni - prosiect symudedd neu brosiect partneriaeth. Gallwch bori drwy ddisgrifiadau o brosiectau blaenorol am ysbrydoliaeth ar cronfa ddata Erasmus+. Ystyriwch sut mae eich prosiect yn cefnogi blaenoriaethau Erasmus+.
  • Nodi darpar bartneriaid o'r tu hwnt i'r DU yr hoffech weithio â nhw.

Dyddiadau Allweddol

DyddiadGweithgaredd
Tachwedd 2026Galwad am geisiadau am gyllid Erasmus+ yn agor
Chwefror / Mawrth 2027Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau am gyllid
Mehefin - Awst 2027Canlyniadau'r broses gyllido