Cyflwyniad i Erasmus+ Ar Gyfer Ysgolion
Sesiynau ar gael
- Dyddiad: Medi 29
- Dyddiad: Hydref 21
Bydd y sesiwn ar-lein ryngweithiol yma’n dod ag ysgolion cynradd, uwchradd, ac ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol o’r DU ac Ewrop sydd â diddordeb mewn creu partneriaethau at ei gilydd, gyda golwg ar yr alwad am geisiadau o’r DU ar gyfer Erasmus+ 2027.
Byddwn yn canolbwyntio ar edrych ar syniadau ar gyfer prosiectau Cam Allweddol 1. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y broses, gan ddefnyddio astudiaeth achos i ddangos ffyrdd ymarferol o gynllunio, datblygu, a chynnal prosiect cydweithredu rhyngwladol ystyrlon.
Mae hon yn sesiwn i ysgolion sydd am ddechrau meithrin partneriaethau rhyngwladol cynhwysol cryf yn gynnar, a datblygu syniadau am brosiectau ansawdd uchel ar y cyd, yn barod ar gyfer galwad 2027. Mae’r sesiwn yn cael ei chynnal gan y British Council, sef Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn yma?
- Ysgolion o’r DU ac Ewrop sydd am ffurfio partneriaeth
- Sefydliadau sydd â diddordeb yng Ngham Gweithredu 1(KA1) a Cham Gweithredu 2 (KA2)
Noder mai yn Saesneg y cynhelir y sesiwn yma.