Symudedd Wythnos Addysg Oedolion

Daeth Symudedd Wythnos Addysg Oedolion â dysgwyr, ymarferwyr, a staff o Gymru at ei gilydd i edrych ar ddulliau addysgu a dysgu oedolion ar draws Ewrop. Roedd ymweliadau astudio wedi gwella dulliau digidol o hyrwyddo Wythnos Addysg Oedolion a chyflwyno ffyrdd newydd o gyrraedd cymunedau. Bu’r fenter yn help i gyfranogwyr fagu hyder a meithrin cysylltiadau rhyngwladol, ac fe helpodd hefyd i greu dull gweithredu ar gyfer addysg oedolion yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.

Gwledydd a gymerodd ranLloegr, Iwerddon, Yr Iseldiroedd, Slofenia, Y DU
Cyfnod2018-20
Cyllid€22,260
Math o brosiectSymudedd staff addysg oedolion

Cefndir: 

Mae Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru wedi bod yn gyfle pwysig ers tro i hybu addysg oedolion a chyfleoedd i oedolion feithrin sgiliau. Ond, dangosodd adolygiad o’r ymgyrch gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith bod angen ail ystyried y dulliau o hyrwyddo’r fenter. 

Roedd y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru’n awyddus i feithrin cysylltiad agosach gyda’i ddysgwyr - i wrando ar eu lleisiau a defnyddio eu profiadau i lywio polisi ac ymarfer ar gyfer y dyfodol. Fe welon nhw fod cyfle hefyd i gyrraedd unigolion, teuluoedd, a chymunedau nad ydynt efallai wedi manteisio ar gyfleoedd dysgu yn y gorffenol. Drwy ddefnyddio wynebau cyfarwydd i gyflwyno negeseuon yn hybu addysg oedolion, credwyd y byddai mwy o bobl yn fwy tebygol o wrando, ymddiried, a chael eu cyffroi gan y neges am y cyfleoedd sydd ar gael. 

Yn ogystal, gwelodd y sefydliad y gallai enillwyr eu Gwobrau Ysbrydoli wneud cyfraniad amhrisiadwy i’r gwaith o hyrwyddo a hybu addysg oedolion. Gan fod enillwyr y gwobrau hyn wedi manteisio ar addysg i newid eu bywydau, ni allech gael gwell lleisiau i hyrwyddo addysg oedolion yn eu cymunedau eu hunain. Ac yn hytrach na defnyddio eu straeon a’u profiad ar gyfer ymgyrch gyhoeddusrwydd untro’n unig, aeth y sefydliad ati i helpu’r enillwyr i ddatblygu eu sgiliau i ddod yn Llysgenhadon Dysgu yn eu cymunedau. 

Ar yr un pryd, roedd yr hinsawdd o gwmpas gwasanaethau addysg oedolion yn anodd a heriol. Roedd ariannu cyhoeddus yn gwasgu, ac roedd hynny’n golygu llai o wasanaethau a llai o staff. Roedd angen i’r Sefydliad Dysgu a Gwaith ffeindio ffordd newydd o weithio - i gyrraedd y cymunedau lle’r oedd angen mwyaf o gymorth gyda dysgu a meithrin sgiliau newydd. 

Bu’r prosiect hefyd yn gyfle i feithrin sgiliau dysgwyr, staff, a gweithwyr eraill y sefydliad, gan ddarparu cyfleoedd datblygu a rhoi lle ac amser i feddwl mewn ffordd ffres a gwahanol, nodi problemau, a ffeindio atebion. 

Amcanion: 

Roedd gan y prosiect ddau brif amcan. 

Yn gyntaf, cynyddu gallu staff a phartneriaid y Sefydliad Dysgu a Gwaith i ddatblygu ymgyrchoedd hyrwyddo mwy effeithiol. Roedd angen i’r ymgyrchoedd hyn ddenu mwy o bobl i ddysgu a meithrin sgiliau newydd, yn enwedig yn y cymunedau hynny lle’r oedd yr angen mwyaf am gymorth. 

Yn ail, roedd y prosiect am ehangu a manteisio ar y rhan y gallai Llysgenhadon Dysgu ei chwarae yn eu cymunedau i hybu dysgu a meithrin sgiliau newydd. Drwy ddysgu gan bartneriaid yn Ewrop, y nod oedd helpu i baratoi dysgwyr i rannu eu profiadau a helpu eraill i ffeindio cyfleoedd dysgu addas. 

Rhoi’r prosiect ar waith 

Ar gyfer y prosiect, ffurfiodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith bartneriaeth gyda nifer o sefydliadau yn Ewrop: AONTAS yn Iwerddon; Canolfan Andragoski Republike Slovenije yn Slofenia; Learn for Life yn yr Iseldiroedd; a sefydliad addysg oedolion yn Estonia. Ond, oherwydd pandemig coronafeirws nid oedd modd cynnal ymweliad astudio ag Estonia. Ystyriwyd y posibiliad o gynnal ymweliad rhithwir, ond ni lwyddwyd i drefnu hyn am nad oedd nifer o’r sefydliadau ar gael. 

Cafodd tri ymweliad astudio eu cynnal – yn Iwerddon, Slofenia, a’r Iseldiroedd. Aeth chwe chyfranogwr o Gymru ar bob ymweliad astudio, yn gymysgedd o ddysgwyr, ymarferwyr, a staff cenedlaethol. Cafodd yr ymweliadau eu cynllunio ar y cyd rhwng y sefydliadau lletyol a’r cyfranogwyr gan sicrhau bod y fenter yn manteisio i’r eithaf ar rannu a chyfnewid profiad ac arbenigedd. 

Yn Iwerddon, edrychodd y grŵp ar y rhan y gall Llysgenhadon Dysgu ei chwarae wrth rannu a lledaenu gwybodaeth a hyrwyddo addysg oedolion; bu’r grŵp hefyd yn edrych ar fframwaith y rhaglen Dysgwyr fel Arweinwyr. 

Yn Slofenia, cafodd cyfranogwyr gyfle i weld sut roedd yr Ŵyl Dysgu Gydol Oes yn defnyddio ‘Gorymdeithiau Dysgu’ a dulliau newydd o hyrwyddo ar gyfryngau digidol a chymdeithasol i gynyddu ac ehangu cyfranogiad mewn addysg oedolion. 

Yn yr Iseldiroedd, bu’r grŵp yn edrych ar y ffordd mae gwirfoddolwyr a llysgenhadon iaith yn cael eu dathlu a’u cefnogi. Drwy edrych ar waith rhaglen The ABC Ambassador cawsant gyfle i weld y rôl allweddol mae dysgwyr yn ei chwarae wrth hyrwyddo cyfleoedd, a chyfeirio pobl yn y gymuned ac yn y gweithle. Yn ddiweddarach, trefnodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith ymweliad dwyochrog i roi cyfle i ymarferwyr yng Nghymru archwilio’r syniadau hyn ymhellach. 

Canlyniadau ac effaith: 

Daeth y prosiect â budd i unigolion, sefydliadau, a’r ymgyrch addysg oedolion ehangach 

Bu’r ymweliad ag Iwerddon yn sail i sefydlu strwythur cadarnach i raglen Llysgenhadon Dysgu yng Nghymru. 

Arweiniodd yr ymweliad â Slofenia at ddatblygu platfform Wythnos Addysg Oedolion newydd, ac at wneud mwy o ddefnydd o Facebook i hyrwyddo a threfnu digwyddiadau. Yn ogystal, cafodd sawl podlediad, fel ‘Change Your Story’, ei lansio ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion 2020. 

Cafodd yr ymweliad â’r Iseldiroedd ddylanwad ar ffyrdd o feddwl am y ddarpariaeth Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru, a'r potensial i ehangu hyfforddiant gwirfoddolwyr. 

I lawer o’r dysgwyr, roedd y profiad yn un a newidiodd eu bywydau. Bu’r cyfle i deithio ac ymgysylltu â phartneriaid rhyngwladol yn fodd i fagu hyder a thanlinellu bod ganddynt amrywiaeth fawr o sgiliau a chyfraniad gwerthfawr i’w wneud i waith ymgyrchu'r sefydliad. 

Yn ogystal, cafodd cysylltiadau parhaol eu ffurfio rhwng y cyfranogwyr o Gymru a’r partneriaid Ewropeaidd. Mae’r cysylltiadau hynny wedi para i ddatblygu y tu hwnt i’r prosiect, gan arwain at fentrau cydweithredu pellach.

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+: https://erasmus-plus.ec.europa.eu/projects/search/details/2018-1-UK01-KA104-047462