Cwestiynau Cyffredin
Hello, sut gallwn ni helpu?
Eisiau gwybod mwy am raglen Erasmus+ yn y DU, neu angen mwy o wybodaeth gyffredinol am Erasmus+?
Yma, rydyn ni wedi casglu rhestr o gwestiynau cyffredin am Erasmus+. Os nad oes ateb i’ch cwestiwn yn ein rhestr isod, cysylltwch â ni.
Byddwn yn darparu gwybodaeth fanylach am ddyddiadau, ariannu, a’r broses ymgeisio yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 sy’n debygol o gael ei gyhoeddi tua mis Tachwedd 2026.
Cofrestrwch nawr i dderbyn cylchlythyr Erasmus+ i sicrhau eich bod gyda’r cyntaf i wybod pan fydd y canllaw ar gael: Cofrestru i dderbyn cylchlythyr Erasmus+
Cwestiynau Cyffredinol
Yn ôl i’r brigRhaglen yr Undeb Ewropeaidd sy’n cefnogi addysg, hyfforddiant, ieuenctid, a chwaraeon yn Ewrop yw Erasmus+. Mae’n ariannu symudeddau rhyngwladol a phrosiectau partneriaeth rhwng sefydliadau.
O 2027 ymlaen, bydd sefydliadau yn y DU yn gallu cymryd rhan lawn yn Erasmus+ yn sgil cysylltiad newydd y DU â’r rhaglen. Mae mwy o wybodaeth gyffredinol am Erasmus+ ar gael yma: https://erasmus-plus.ec.europa.eu/.
Mae Erasmus+ yn canolbwyntio ar bedair blaenoriaeth:
- Cynhwysiant ac amrywiaeth
- Yr amgylchedd a gweithredu ar yr hinsawdd
- Trawsffurfio digidol
- Cymryd rhan mewn bywyd dinesig.
Dylai eich prosiect roi sylw i o leiaf un o’r blaenoriaethau hyn.
Mae strwythur rhaglen Erasmus+ wedi’i seilio ar y Camau Gweithredu canlynol:
- Cam Gweithredu 1 (KA1) – Symudeddau dysgu i unigolion
- Cam Gweithredu 2 (KA2) – Cydweithredu rhwng mudiadau a sefydliadau
- Cam Gweithredu 3 (KA3) – Cefnogi Datblygu Polisi a Chydweithredu
- Camau Gweithredu Jean Monnet – Gweithgareddau dysgu perthnasol i’r Undeb Ewropeaidd
- Chwaraeon – Prosiectau chwaraeon llawr gwlad.
Gall cyfranogwyr deithio i unrhyw un o 27 Aelod-wladwriaethau’r UE, yn ogystal ag i’r ‘trydydd gwledydd’ sy'n gysylltiedig â'r rhaglen sef: Norwy, Gwlad yr Iâ, Lichtenstein, Twrci, Gogledd Macedonia, a Serbia. Nid yw’r Swistir yn wlad gysylltiedig ar hyn o bryd.
Mae Cyngor Federal y Swistir wedi datgan bwriad i geisio dod yn wlad gysylltiedig o 2027 ymlaen, ond nid yw’r trefniant hwn wedi cael ei gadarnhau eto.
Oes. Gan ddibynnu ar y math o brosiect dan sylw, gallwch anfon cyfranogwyr o’ch sefydliad dramor yn ogystal â chroesawu cyfranogwyr o wledydd eraill i’ch sefydliad. Mewn rhai achosion, efallai mai dim ond y naill neu’r llall fydd yn bosibl, ond mewn eraill byddwch yn gallu gwneud y ddau. Byddwn yn cadarnhau manylion llawn y trefniadau hyn yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Yr Asiantaeth Genedlaethol sy’n gyfrifol am gyflawni rhaglen Erasmus+ yn y DU. Mae hynny’n cynnwys rheoli’r galwadau am gyllid, asesu ceisiadau, monitro prosiectau, a chefnogi sefydliadau drwy’r broses ymgeisio a chylchred oes eu prosiectau. Mae’r British Council wedi cael ei benodi yn Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Rhaglen Erasmus+.
Mae cysylltiad y DU ag Erasmus+ yn golygu fod sefydliadau’n gallu cymryd rhan lawn yn y rhaglen, gan gynnwys ceisio am gyllid ac arwain prosiectau. Mae’n hybu a chefnogi cydweithredu rhyngwladol a chyfleoedd symudedd.
O 2027 ymlaen, bydd y DU yn dod yn un o’r ‘trydydd gwledydd’ (third countries) sy’n gysylltiedig â’r rhaglen. Mae hynny’n golygu y bydd y DU yn gallu cymryd rhan yn y rhaglen ar yr un sail ag Aelod-wladwriaethau’r UE a’r gwledydd cysylltiedig eraill.
Bydd y DU yn dechrau cymryd rhan yn rhaglen Erasmus+ yn 2027. Disgwylir i’r broses ymgeisio agor tua diwedd 2026 - yn amodol ar Ganllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Cyllid
Yn ôl i’r brigMae maint y cyllid y gallwch geisio amdano’n dibynnu ar y math o brosiect ac amodau’r alwad am geisiadau benodol dan sylw. Byddwn yn cadarnhau’r manylion llawn yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Disgwylir i’r broses ymgeisio agor ym mis Tachwedd 2026 a chau rhwng Chwefror ac Ebrill 2027, gan ddibynnu ar y cam gweithredu perthnasol, ac yn amodol ar Ganllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Mae hyd unrhyw brosiect yn dibynnu ar natur gweithgaredd y prosiect; e.e. gall bara am fwy na blwyddyn academaidd.
Gall y cyllid gyfrannu at gostau fel:
- teithio
- llety a chynhaliaeth
- cymorth sefydliadol a gweinyddol
- gwaith paratoi
- cymorth ar gyfer cynhwysiant ac anghenion ychwanegol.
Mae'r costau sy'n cael eu cynnwys yn dibynnu ar y math o brosiect a gweithgaredd dan sylw. Byddwn yn cadarnhau’r manylion llawn am gostau cymwys yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Na. Ni fydd myfyrwyr ar leoliad Erasmus+ yn gorfod talu ffioedd dysgu na ffioedd cofrestru yn eu sefydliad lletyol, ond efallai y bydd rhaid iddynt dalu ffioedd i'w sefydliad cartref.
Nod cyllid Erasmus+ yw cyfrannu at gostau prosiect, ac efallai na fydd yn ddigon i dalu am yr holl dreuliau.
Bydd lefelau cyllido a chostau cymwys yn cael eu cadarnhau yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau, disgwylir i’r cyllid cyntaf gael ei ddyfarnu yn Haf 2027. Mae amserlen derfynnol y broses eto i’w chadarnhau.
Rydyn ni’n awyddus i annog ceisiadau gan bobl sy’n wynebu rhwystrau i gymryd rhan, gan gynnwys pobl ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol, neu bobl sy’n cael llai o gyfleoedd. Felly, mae’n bosibl y bydd cefnogaeth ychwanegol ar gael. Gall hyn gynnwys cyllid i sicrhau hygyrchedd, cynhwysiant, a chostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chymryd rhan.
Ymgeisio
Yn ôl i’r brigBydd yr Asiantaeth Genedlaethol yn darparu canllawiau, digwyddiadau rhannu gwybodaeth, gweminarau, a deunyddiau cefnogol i helpu sefydliadau baratoi a chyflwyno eu ceisiadau. Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion pan fydd y cyfleoedd am gyllid yn agor.
Nawr yw’r amser perffaith i ddechrau meddwl am eich cais. Gallwch:
- nodi darpar bartneriaid
- datblygu syniad am brosiect
- ystyried sut mae eich prosiect yn cydfynd â blaenoriaethau Erasmus+
- bwrw golwg ar brosiectau Erasmus+ blaenorol
- cofrestru i dderbyn y newyddion diweddaraf a chanllawiau.
Gall gweithgareddau gynnwys:
- astudio neu hyfforddiant dramor
- cysgodi swydd
- addysgu neu hyfforddi
- mentrau cyfnewid ieuenctid
- prosiectau partneriaeth.
Gallwch gynnal eich gweithgaredd(au) wyneb yn wyneb, ar-lein, neu drwy gyfuniad o’r ddau – yn dibynnu ar amodau’r cam gweithredu perthnasol.
Ydy. Gall Erasmus+ gefnogi gweithgareddau datblygu staff fel cyrsiau hyfforddi, cysgodi swydd, a chyfleoedd addysgu – yn dibynnu ar amodau’r cam gweithredu perthnasol.
Nac oes. Nid oes rhaid i brosiectau gynnwys cyfnewid cyfartal neu symudedd dwyffordd bob amser.
Bydd y trefniadau hyn yn dibynnu ar gynllun y prosiect ac amodau’r cam gweithredu perthnasol.
Disgwylir i brosiectau sy’n cael eu hariannu fel rhan o alwad 2027 ddechrau o Hydref 2027 ymlaen, gan ddibynnu ar amodau’r cam gweithredu perthnasol.
Gall symudeddau Addysg Uwch ddechrau mor gynnar â mis Mehefin 2027.
Bydd angen i chi ddefnyddio system ymgeisio ffurfiol Erasmus+ i gyflwyno eich cais am gyllid. I wneud hynny, bydd gofyn i sefydliadau gofrestru, cael Rhif Adnabod Sefydliad (OID), a llenwi’r ffurflen gais berthnasol ar gyfer eich prosiect arfaethedig. Bydd manylion llawn am y broses ymgeisio, gofynion cymhwysedd, a dyddiadau cau yn cael eu cadarnhau yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Gyda mwyafrif y camau gweithredu, disgwylir i un sefydliad gyflwyno’r cais – naill ai ar gyfer ei brosiect ei hun, neu ar ran grŵp o sefydliadau sy’n cymryd rhan gyda’i gilydd mewn prosiect arfaethedig.
Bydd y broses ymgeisio yn dibynnu ar y math o gam gweithredu sy’n berthnasol i’r prosiect arfaethedig. Bydd hyn yn cael ei amlinellu yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Ydych. Gall un cais gynnwys nifer o weithgareddau neu symudeddau – yn dibynnu ar gynllun y prosiect.
Bydd y gofynion llawn yn cael eu cadarnhau yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Oes. Yn gyffredinol mae gofyn i sefydliadau gofrestru a chael Rhif Adnabod Sefydliad (OID) cyn cyflwyno cais. Bydd y gofynion ymgeisio ar gyfer rhaglen 2027 yn cael eu cadarnhau pan fyddwn yn cyhoeddi’r canllaw.
Bydd y trefniadau cofrestru ar gyfer sefydliadau sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen Erasmus+ o’r blaen yn cael eu cadarnhau pan fyddwn yn cyhoeddi’r canllaw.
Cymhwysedd
Yn ôl i’r brigMae cyllid Erasmus+ ar gael yn bennaf i sefydliadau sy’n gweithio yn y sectorau cymwys canlynol: Addysg Uwch, Ysgolion, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET), Addysg Oedolion, Ieuenctid, a Chwaraeon.
Mae gofynion cymhwysedd yn amrywio yn ôl y cam gweithredu perthnasol, a dylai sefydliadau gyfeirio at Ganllaw Rhaglen Erasmus 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen) i gael manylion llawn.
Yn gyffredinol, mae unigolion yn cymryd rhan yn y rhaglen drwy sefydliad, yn hytrach na thrwy gyflwyno cais uniongyrchol eu hunain.
Mae Erasmus+ yn cefnogi:
- Addysg Uwch
- Ysgolion
- Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET)
- Addysg Oedolion
- Ieuenctid
- Chwaraeon.
Ydyn. Mae sefydliadau’n gallu ceisio ar gyfer gwahanol sectorau – yn dibynnu ar y gweithgareddau y byddant yn eu cyflawni.
Bydd y rheolau llawn yn cael eu cadarnhau yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Ydyn. Does dim angen profiad blaenorol o raglen Erasmus+ arnoch i wneud cais.
Ydyn. Fel rhan o alwad 2027, bydd ysgolion annibynnol yn y DU yn gymwys i wneud cais am gyllid i raglen Erasmus+, yn amodol ar ateb gofynion y cam gweithredu perthnasol a’r rheolau a amlinellir yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Yn arferol, bydd angen i chi wneud cais drwy eich prifysgol, canolfan hyfforddi, neu sefydliad arall. Mae eich sefydliad yn gwneud y cais am grant i gynnal prosiect Erasmus+, ac mae’r grant hwnnw’n ariannu eich cyfranogiad.
Fel gwlad gysylltiedig, disgwylir y bydd sefydliadau yn y DU yn gallu arwain prosiectau Erasmus+. Mae hyn yn amodol ar gael ei gadarnhau yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Oes. Mae angen achrediad Siarter Addysg Uwch Erasmus (ECHE) dilys ar ddarparwyr Addysg Uwch sydd am gymryd rhan mewn prosiectau symudedd neu brosiectau cydweithredu Erasmus+.
Mae 163 o Ddarparwyr Addysg Uwch yn y DU wedi cael achrediad Siarter Addysg Uwch Erasmus (ECHE), ac felly’n gallu cymryd rhan yng ngalwad gyllido 2027. Ni fydd sefydliadau heb achrediad Siarter Addysg Uwch Erasmus yn gymwys i gymryd rhan yng ngalwad gyllido 2027 ar gyfer Erasmus+.
Gwiriwch y rhestr o sefydliadau achrededig am fwy o fanylion.
Partneriaid
Yn ôl i’r brigMae angen sefydliad partner arnoch ar gyfer rhai camau gweithredu, tra bod camau gweithredu eraill yn caniatáu ceisiadau gan sefydliadau unigol.
Bydd y gofynion o ran sefydliadau partner yn cael eu cadarnhau yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Ydych. Gellir defnyddio partneriaethau sy’n bodoli’n barod fel sail i brosiect Erasmus+, ar yr amod eu bod yn ateb gofynion y cam gweithredu perthnasol.
Ydy. Mae’r Asiantaeth Genedlaethol yn darparu canllawiau ac adnoddau, gan gynnwys digwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio. Cofrestrwch (ar ein gwefan) i dderbyn ein cylchlythyr am fwy o wybodaeth.
Arall
Yn ôl i’r brigOes. Gall sefydliadau wneud cais i raglen Erasmus+ ochr yn ochr â chynlluniau cyllido eraill, ar yr amod eich bod yn gwneud cais ar gyfer gweithgaredd gwahanol – ni ellir ariannu’r un gweithgaredd ddwywaith.
Nid oes gan yr Asiantaeth Genedlaethol fynediad eto i adolygu ceisiadau am Rifau Adnabod Sefydliad. Byddwn yn anfon diweddariadau at ymgeiswyr os bydd angen cymryd camau pellach.
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer camau gweithredu a reolir yn ganolog yn uniongyrchol i’r Asiantaeth Weithredol Ewropeaidd dros Addysg a Diwylliant (EACEA).
Bydd manylion pellach am hyn yng Nghanllaw Rhaglen Erasmus+ 2027 (ar gael o hydref 2026 ymlaen).
Mae gan raglen Erasmus+ 2021-2027 gyllideb tipyn mwy, ac mae’n rhoi pwyslais cryfach ar gynhwysiant ac amrywiaeth, trawsnewid digidol, a chynaliadwyedd. Hefyd, mae’r rhaglen hon yn cynnig ffyrdd mwy hyblyg i gymryd rhan - gyda phrosesau ymgeisio symlach a fformatau symudedd mwy amrywiol (gan gynnwys symudeddau cymysg).