
All means All!
Prif nod prosiect All Means All! oedd trawsnewid addysg athrawon drwy fynd i’r afael ag anfanteision strwythurol a meithrin cynhwysiant. Roedd y prosiect hefyd yn anelu i ddatblygu Gwerslyfr Agored modiwlaidd yn cynnwys 60 o benodau, cynhyrchu podlediad dadlenol, cefnogi rhaglenni astudio ar bwysigrwydd addysg gynhwysol ym maes hyfforddiant cychwynnol athrawon, a grymuso darlithwyr yn eu sefydliadau partner.
| Gwledydd a gymerodd ran | Yr Almaen, Iwerddon, Yr Eidal |
|---|---|
| Cyfnod | 2022-24 |
| Cyllid | €386,057 |
| Math o brosiect | Partneriaethau Cydweithredu – Addysg Uwch |
Cefndir:
Yn draddodiadol, mae rhaglenni hyfforddi athrawon wedi tueddu i drin gwahanol agweddau o amrywiaeth - rhywedd, anabledd, hil, crefydd, dosbarth, iaith, a chyfeiriadedd rhywiol – fel pethau ar wahân, yn hytrach nag fel elfennau sy’n rhan o fframwaith unedig. Weithiau, yn eu bywydau bob dydd, mae pobl yn profi sawl un o’r elfennau hyn ar yr un pryd. Yn aml, nid yw ysgolion a phrifysgolion yn arfogi athrawon a myfyrwyr i ddeall hyn, na’u paratoi i ymdrin â sgil effeithiau hynny.
Cafodd prosiect All Means All! ei greu i fynd i’r afael â’r broblem hon. Cafodd y prosiect ei gydlynu gan Brifysgol Bremen yn yr Almaen, gyda phartneriaid o Brifysgol Maynooth yn Iwerddon, a Libera Università di Bolzano yn yr Eidal. Nod y prosiect oedd creu adnodd ymarferol ac agored a fyddai’n ymdrin ag anfantais strwythurol ym maes addysg a hyfforddiant athrawon.
Amcanion:
Prif nod prosiect All Means All! oedd trawsnewid addysg athrawon drwy fynd i’r afael ag anfanteision stwythurol a meithrin cynhwysiant. Aeth y prosiect ati i greu Gwerslyfr Agored modiwlaidd gyda 60 o benodau. Roedd pob pennod yn gyfuniad o destun manwl, fideo diddorol, a phodlediad dadlenol. Roedd y ffocws ar gyflwyno enghreifftiau byd go iawn o eithrio, ac arferion cynhwysol effeithiol.
Nod y prosiect oedd cyfuno safbwyntiau amrywiol 144 o gyfrannwyr (gan gynnwys 63 o hunan-eiriolwyr) o 28 o wledydd. Roedd adrannau penodol ar ddulliau gweithredu yn Iwerddon a’r Eidal - i adlewyrchu gwahanol gyd-destunau cenedlaethol. Roedd y gymysgedd yma’n ganolog i bwrpas y prosiect. Tra bod gwybodaeth academaidd yn gallu egluro systemau a pholisïau, gall profiadau bywyd go iawn pobl ddangos gwir effaith y systemau hynny, a sut mae hynny’n gwneud i bobl deimlo.
Yn ogystal â’r cynnwys yma, roedd y prosiect hefyd yn anelu i gryfhau sgiliau addysgu digidol, annog cydweithio rhwng sefydliadau mewn gwahanol wledydd, a darparu adnoddau ymarferol a gwybodaeth wedi’i seilio ar dystiolaeth i addysgwyr, i hybu tegwch yn eu hystafelloedd dosbarth.
Rhoi’r prosiect ar waith:
Cafodd gwaith y prosiect ei drefnu drwy gyfres o weithdai rhyngwladol a gynhaliwyd yn yr Eidal yn 2022, yn Iwerddon yn 2023, ac yn yr Almaen yn 2024. Roedd pob gweithdy’n para pythefnos, gyda chyfranogwyr yn ymuno am wythnos ar y tro, gan weithio mewn timau bach o bump o bobl.
Roedd y timau’n defnyddio dull booksprint: proses o gydweithredu ac ysgrifennu dwys a chyflym lle mae awduron yn datblygu’r gwaith gyda’i gilydd dros gyfnod byr. Yn hytrach nag ysgrifennu penodau ar eu penau eu hunain, a rhannu’r gwaith gyda chydweithwyr fisoedd yn ddiweddarach, mae’r cyfranogwyr yn trafod syniadau wyneb yn wyneb, croni arbenigedd, a llunio’r cynnwys gyda’i gilydd.
Helpodd y dull gweithredu yma i feithrin cysylltiadau rhwng pobl ar draws disgyblaethau, gwledydd a phrofiadau. Roedd hefyd yn caniatáu i’r cyfranogwyr ddatblygu swmp sylweddol o deunydd wrth gadw’r ffocws ar gydweithio. Yna, defnyddiwyd sesiynau dilynol ar Zoom i fireinio’r penodau a chwblhau’r gwaith sicrhau ansawdd. Sicrhaodd adolygiadau, prawf ddarllen, a golygu proffesiynol gan gydweithwyr bod yr adnodd terfynol yn gywir, yn glir, a darllenadwy.
Canlyniadau ac effaith:
O ganlyniad i waith y prosiect, cynhyrchwyd Gwerslyfr Agored sydd ar gael am ddim i bawb. Mae’n cynnwys 59 o benodau, ynghyd â fideos a phodlediadau sy’n cyflwyno enghreifftiau byd go iawn o anfantais strwythurol ym maes addysg a hyfforddiant athrawon. Cafodd yr adnodd ei gyfoethogi gan y gymysgedd o gyfranwyr a’r amrywiaeth o wahanol arbenigeddau.
Mae’r gyfres o bodlediadau’n rhannu syniadau ymarferol ar gyfer addysgu a dysgu cynhwysol a digidol ar draws Ewrop. Ym mhob pennod mae casgliad o arbenigwyr yn trafod yr hyn sy’n gweithio ac arfer lwyddiannus, enghreifftiau o’r prosiect, a ffyrdd ymarferol y gall ysgolion a phrifysgolion hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, ac addysg o’r ansawdd uchaf.
Mae’r fideos yn dangos prif ganlyniadau’r prosiect mewn cyfres o glipiau cryno a chlir. Mae pob fideo’n cyflwyno enghreifftiau ymarferol o ddulliau dysgu newydd, adnoddau digidol, ac ymarfer cynhwysol mewn ysgolion a phrifysgolion. Mae canlyniadau gwaith y prosiect yn dangos sut mae cydweithredu’n newid addysg ar draws Ewrop.
Mae’r Gwerslyfr Agored ar gael mewn fformatau addasadwy ar blatfform Pressbooks, sy’n ei gwneud yn haws i brifysgolion a darlithwyr ddefnyddio ac ymgorffori’r deunydd a’r adnoddau yn eu systemau rheoli eu hunain.
Y tu hwnt i’r llyfr, bu’r prosiect yn gyfrwng i greu rhwydwaith gydweithredol trawswladol o 144 o gyfranwyr o 28 o wledydd, gan gynnwys tua 60 o hunan-eiriolwyr. Cafodd holl ddeunydd y prosiect ei ryddhau dan drwydded agored, sy’n golygu y gellir ehangu’r defnydd a wneir o’r adnodd yn ogystal â’i ddatblygu ledled Ewrop.
I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+: https://erasmus-plus.ec.europa.eu/projects/search/details/2021-1-DE01-KA220-HED-000031119