Prosiect CARES: Creu Amgylcheddau Hygyrch a Pharchus mewn Ysgolion

Nod prosiect CARES oedd gwella cynhwysiant disgyblion oedd yn cael llai o gyfleoedd, hybu’r gwaith o ryngwladoli’r ysgol, a chryfhau ymwybyddiaeth Ewropeaidd yr ysgol. Roedd yn amcanu i ddatblygu sgiliau iaith y dysgwyr a’r staff, ac arloesi methodoleg addysgu. 

Gwledydd a gymerodd ranYr Eidal
Cyfnod2024-25
Cyllid€42,590
Math o brosiectProsiectau Symudedd Tymor Byr i ddysgwyr a staff ysgolion

Cefndir: Ysgol oedd yn barod am newid 

Roedd Istituto Comprensivo Statale Galileo Nicolini, ysgol wladol yn Capranica yn yr Eidal, wedi tyfu i fod yn sefydliad mwyfwy amrywiol. Roedd llawer mwy o ddysgwyr yr ysgol yn dod o gefndiroedd diwylliannol gwahanol, a gwelwyd cynnydd yn nifer y dysgwyr oedd yn cael llai o gyfleoedd i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol. Hefyd,  gan fod profiad rhyngwladol yr ysgol yn brin, roedd datblygu sgiliau iaith, meithrin cysylltiadau Ewropeaidd, a rhannu syniadau gydag ysgolion y tu hwnt i’r Eidal yn anodd. 

Roedd yn amlwg na ddylid trin cynhwysiant fel prosiect ar wahân neu’n rhywbeth i’w ystyried yn achlysurol yn unig. Roedd angen i gynhwysiant fod yn rhan o fywyd bob dydd yr ysgol gyfan: yn rhan o’r ffordd roedd athrawon yn addysgu, y ffordd roedd dysgwyr yn gweithio gyda’i gilydd, a’r ffordd roedd yr ysgol yn gweld ei lle yn Ewrop. 

Roedd prosiect CARES yn ymateb i angen am feithrin agwedd fwy rhyngwladol, gwella sgiliau iaith, a mabwysiadu dulliau addysgu a dysgu mwy cynhwysol a blaengar. Drwy gysylltu â chymunedau addysgol ledled Ewrop, aeth yr ysgol ati i greu cyfleoedd i’w dysgwyr a’i staff dyfu, dysgu, a ffynnu mewn byd rhyng-gysylltiedig. 

Amcanion: Troi gwerthoedd yn weithredoedd 

Un o brif amcanion y prosiect oedd gwella cynhwysiant dysgwyr oedd â llai o gyfleoedd, a sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu a chymryd rhan lawn ym mywyd a gweithgareddau’r ysgol. Roedd tîm y prosiect hefyd yn awyddus i gryfhau ymwybyddiaeth ryngwladol yr ysgol a helpu dysgwyr a staff i feithrin ymdeimlad cryfach o hunaniaeth Ewropeaidd. 

Roedd dysgu ieithoedd yn elfen bwysig arall o’r prosiect. Byddai gwell sgiliau iaith yn rhoi mwy o hyder i’r dysgwyr a’r staff wrth gyfathrebu â phobl o wledydd eraill, cymryd rhan mewn symudeddau, a ffurfio partneriaethau rhyngwladol. Roedd tîm y prosiect hefyd yn awyddus i annog defnyddio dulliau addysgu newydd, yn enwedig dulliau mwy hyblyg o ran ymateb i wahanol anghenion dysgu a chefndiroedd gwahanol y dysgwyr. 

Roedd ffocws prosiect CARES ar ddysgu drwy gyfnewid. Trwy weithgareddau symudedd gydag ysgolion mewn gwledydd eraill yn Ewrop, cafodd staff a dysgwyr yr ysgol gyfle i weld gwahanol ddulliau ar waith, ystyried ac asesu eu dulliau eu hunain, a dod â syniadau defnyddiol yn ôl i gymuned yr ysgol. 

Rhoi’r prosiect ar waith 

Cafodd y prosiect ei gynnal rhwng Mehefin 2024 a Thachwedd 2025, gan gynnwys tri o symudeddau i staff a dysgwyr. 

Y symudedd cyntaf: Aeth staff i Malta ar gyfer hyfforddiant datblygu proffesiynol uwch mewn sgiliau rheoli dosbarth. Cafodd athrawon ac aelodau o staff cyffredinol yr ysgol gyfle i edrych ar fethodoleg sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, strategaethau cynhwysol ar gyfer grwpiau amrywiol o ddysgwyr, adnoddau ymarferol ar gyfer rheoli dosbarth, a thechnegau ymgysylltu sy’n cydfynd â byd addysg y 21ain ganrif. Gan fod Malta’n Aelod-wladwriaeth lle siaredir Saesneg, roedd yr ymweliad yn arbennig o ddefnyddiol. Bu’n gyfle i wella sgiliau Saesneg y cyfranogwyr drwy’r trochiad ieithyddol a gawsant mewn cyd-destun proffesiynol. Cafodd y staff gyfle i ddysgu am system addysg wahanol wrth ddatblygu sgiliau cyfathrebu a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer mentrau cydweithio rhyngwladol yn y dyfodol. 

Yr ail symudedd: Roedd y symudedd hwn yn canolbwyntio ar gysgodi swyddi yn Awdurdod Lleol Storfos yn Sweden. Mae gan system addysg Sweden enw am roi pwyslais ar gynhwysiant, ecwiti, ymreolaeth dysgwyr, a datblygiad holistig - egwyddorion sy’n cydfynd yn agos â gwerthoedd prosiect CARES. Cafodd athrawon a staff ategol gyfle i wylio cydweithwyr wrth eu gwaith, ymuno â gweithgareddau cynllunio ar y cyd, a chymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol am sut y gall addysgu a dysgu cynhwysol fod yn rhan o arfer dyddiol ysgol. Roedd yn gyfle nid yn unig i wylio a dysgu, ond hefyd i rannu a chyfnewid methodoleg, cymharu dulliau addysgu a dysgu, a meithrin cysylltiadau proffesiynol gyda chydweithwyr Ewropeaidd. 

Y trydydd symudedd: Roedd y dysgwyr yn ganolog i’r rhan yma o’r prosiect – drwy fenter cyfnewid grŵp yn Sbaen a gafodd ei chynnal gan Yr Ysgol Wladol Eidalaidd ym Madrid. Cafodd y dysgwyr a gymerodd ran gyfle i fynychu gwersi gyda chyfoedion Sbaenaidd a chymryd rhan mewn gweithgareddau cydweithio a oedd yn cysylltu ieithoedd, diwylliannau, a dysgu mewn dosbarth. Gan fod y dysgwyr yn aros gyda theuluoedd lleol, cawsant brofiad mwy personol o fywyd bob dydd mewn gwlad arall. Drwy hynny cawsant gyfle i fagu annibyniaeth, dysgu sut i addasu, a meithrin hyder rhyngddiwylliannol. Cafodd y dysgwyr lawer o brofiadau gwerthfawr drwy gyfres o weithgareddau diwylliannol a drefnwyd ym Madrid ar eu cyfer, gan roi profiad uniongyrchol iddynt o amrywiaeth Ewropeaidd y tu allan i’r ystafell ddosbarth. 

Cafodd y broses o ddewis dysgwyr i gymryd rhan yn y symudedd ei llunio i fod yn gynhwysol a thryloyw. Roedd hynny’n hollbwysig i sicrhau bod dysgwyr sy’n cael llai o gyfleoedd yn cael mynediad i brofiad a allai newid bywyd. 

Canlyniadau ac effaith 

Mae canlyniadau ac effaith prosiect CARES wedi ymestyn y tu hwnt i weithgareddau’r symudeddau’n unig. Nododd yr ysgol weld cynnydd a datblygiad o ran cynhwysiant ac ymwybyddiaeth rhyngddiwylliannol, yn ogystal â dealltwriaeth ddyfnach o werthoedd Ewropeaidd ymysg dysgwyr ac athrawon fel ei gilydd. Tyfodd y cyfranogwyr yn fwy hyderus wrth gyfathrebu mewn gwahanol ieithoedd ac wrth feithrin cysylltiadau ar draws gwahanol ddiwylliannau. 

Cafodd methodolegau cynhwysol newydd eu hymgorffori ym mywyd a gwaith dyddiol yr ysgol. Cafodd y dysgwyr fudd uniongyrchol wrth i arferion addysgu a dulliau rheoli dosbarth newydd gael eu cyflwyno drwy’r ysgol. Tyfodd y prosiect i fod yn fwy na chyfres o weithgareddau’n unig: fe helpodd i ddylanwadu ar ddulliau trefnu addysgu a dysgu yn yr ysgol yn ogystal â dulliau o gefnogi’r dysgwyr. 

Sefydlodd yr ysgol gysylltiadau cydweithio cryf gydag ysgolion Ewropeaidd, gan greu cyfleoedd parhaus ar gyfer cyfnewid a datblygu proffesiynol. Drwy greu amgylcheddau mwy hygyrch a pharchus dangosodd Istituto Comprensivo Statale Galileo Nicolini sut y gall symudeddau Erasmus+ arwain at newid parhaol. 

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+: https://erasmus-plus.ec.europa.eu/projects/search/details/2024-1-IT02-KA122-SCH-000242346