Y British Council yn paratoi i fod yn Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Erasmus+
Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai’r British Council fydd Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer rhaglen Erasmus+.
Dydd Gwener 17 Ebrill 2026
Ar 17 Rhagfyr 2025, daeth y DU a'r UE i gytundeb y byddai'r DU yn ail-ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Bellach, mae'r cytundeb hwnnw wedi cael ei ffurfioli'n gyfreithiol dan amodau'r Cytundeb Masnach a Chydweithio rhwng yr UE a'r DU.
Dywedodd Scott McDonald, Prif Weithredwr y British Council: “Fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Erasmus+, bydd y British Council yn gweithio’n agos gydag Adran Addysg Llywodraeth y DU, llywodraethau datganoledig y DU, a’r Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd mae’r rhaglen yn eu cynnig i’r DU.
“Mae gan Erasmus+ hanes profedig o newid bywydau, agor drysau i brofiadau dysgu, cynnig dealltwriaeth o ddiwylliannau, a meithrin dinasyddiaeth fyd-eang – nid yn unig i fyfyrwyr a staff sefydliadau addysg uwch, ond hefyd i ysgolion ac ym meysydd addysg anffurfiol, addysg dechnegol, addysg a hyfforddiant galwedigaethol, a chwaraeon.
“Bydd amrywiaeth eang o bobl o bob math o gefndiroedd ledled y DU yn elwa’n fawr o’r rhaglen. Bydd yn cynnig persbectif byd-eang i gyfranogwyr, ac ystod fawr o sgiliau a fydd yn cyfoethogi eu bywydau nhw, a bywyd y DU yn gyfffredinol.”
Mae gan y British Council ymrwymiad tymor hir i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Roedd yn bartner arweiniol yn Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ y DU rhwng 2014 a 2020 - cyfnod a welodd gyfraniad arwyddocaol gan Erasmus+ i gysylltiadau diwylliannol y DU. Rhwng 2014 a 2020 cafodd 8,091 o brosiectau eu cyllido gan Erasmus+, gan roi cyfle i 583,757 o gyfranogwyr o’r DU i gymryd rhan. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd oddeutu €1.1 biliwn ei ddyranu i sefydliadau yn y DU.
Mae mwy o wybodaeth am raglen Erasmus+ ar gael yma: Funding for Study, Training and Partnerships | Erasmus +