Cyhoeddi Darpar Gyfarwyddwr Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+
Cyfarwyddwr Addysg y British Council yn cael ei phenodi’n Ddarpar Gyfarwyddwr Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+
Dydd Iau 25 Mehefin 2026
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar fod y British Council ar fin dod yn Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer rhaglen Erasmus+ yn y DU, mae’r British Council yn falch o gyhoeddi fod Cyfarwyddwr Addysg y British Council, Maddalaine Ansell, wedi cael ei phenodi’n Ddarpar Gyfarwyddwr Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+.
Bydd Cyfarwyddwr Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ a thîm ehangach yr Asiantaeth Genedlaethol yn gweithio’n agos gydag Adran Addysg Llywodraeth y DU, llywodraethau datganoledig y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau ein bod yn manteisio’n llawn ar y cyfleoedd mae’r rhaglen yn eu cynnig i’r DU.
Dywedodd Darpar Gyfarwyddwr Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+, Maddalaine Ansell: “Mae’n amlwg i bawb bod angen gweithlu â sgiliau byd-eang ar y DU - i negodi, cysylltu, a masnachu’n rhyngwladol. Bydd ymuno â’r rhaglen yn cynnig rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc sy’n byw yn y DU i gael profiadau rhyngwladol.
Bydd Erasmus+ yn creu cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn ogystal â chyfle i ddatblygu sgiliau bywyd – nid yn unig i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr mewn addysg uwch neu bellach yn y DU, ond hefyd i filoedd o brentisiaid, dysgwyr sy’n oedolion, a staff sy’n gweithio ym maes addysg, pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, a gweithwyr proffesiynol yn y sector chwaraeon.
“Bydd Erasmus+ yn dod â budd enfawr i filoedd o bobl o gefndiroedd gwahanol ledled y DU, yn ogystal â’r rheini sy’n gweithio gyda nhw, gan roi persbectif byd-eang iddyn nhw ynghyd ag amrywiaeth o sgiliau a fydd yn fanteisiol iddyn nhw, darpar gyflogwyr, a’r DU yn gyffredinol.”
Mae gan Maddalaine gyfoeth o brofiad arweinyddiaeth ym meysydd polisi addysg, cydweithredu rhyngwladol, a strategaeth y sector cyhoeddus. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Addysg y British Council ers Tachwedd 2018 gan arwain portffolio strategaeth a pholisi addysg byd-eang y sefydliad. Mae hefyd wedi arolygu’r gwaith o gyflawni amrywiaeth eang o raglenni a phrosiectau Addysg ar gyfer Llywodraeth y DU a chyllidwyr a phartneriaid rhyngwladol.
Cyn ymuno â’r British Council, Maddalaine oedd Prif Weithredwr University Alliance, sy’n cynrychioli prifysgolion proffesiynol a thechnegol. Hefyd, treuliodd 11 mlynedd yng Ngwasanaeth Sifil y DU gan gymryd rolau amrywiol mewn sawl adran, gan gynnwys yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Y Swyddfa Gartref, Y Trysorlys, a Rhif 10.
Yn ei gyrfa cyn hynny, hyfforddodd a gweithiodd fel cyfreithiwr corfforaethol gyda chwmnïau rhyngwladol mawr, Freshfields Bruckhaus Deringer a Sullivan & Cromwell.
Mae ei chefndir a’i gyrfa wedi cyfuno arweinyddiaeth strategol, dealltwriaeth ddofn o gydweithredu addysgol rhyngwladol, a’r gallu i feithrin partneriaethau ar draws y llywodraeth a’r sector addysg, a gyda rhanddeiliaid rhyngwladol.
Mae mwy o wybodaeth am raglen Erasmus+ yma: Funding for Study, Training and Partnerships | Erasmus +