Rhannwch eich stori!

Ydych chi wedi elwa o raglen Erasmus+? Ydych chi’n byw yn y DU ac wedi astudio dramor? Os felly, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Wrth i’r DU ymuno â rhaglen Erasmus+ yn 2027, rydyn ni eisiau rhannu straeon am fuddion symudedd rhyngwladol.

Os ydych chi neu’ch sefydliad wedi cymryd rhan, rydyn ni eisiau clywed eich stori. Rydyn ni eisiau clywed am bob math o brofiadau - does dim ots os cymeroch chi ran yn ddiweddar neu flynyddoedd yn ôl, rydyn ni eisiau clywed eich stori.

Mae rhannu eich stori’n gyfle i godi proffil eich sefydliad neu ychwanegu at eich CV. Bydd detholiad o astudiaethau achos yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan, a’u rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Erasmus+ UK.

Y cyfan sydd angen ei wneud yw llenwi ffurflen fer:  https://wkf.ms/4c7W1MC

Rhannwch eich stori! | Erasmus +