
AirNet: Dod â dysgwyr at ei gilydd drwy bŵer yr awyr
Daeth prosiect AirNet â dysgwyr 14-18 oed o chwech o ysgolion Ewropeaidd at ei gilydd i archwilio’r thema ‘aer’ drwy wyddoniaeth, technoleg, cerddoriaeth a chelf.
Drwy chwech o gyfarfodydd rhyngwladol, cafodd y dysgwyr gyfle i ddysgu, creu, a pherfformio gyda’i gilydd - gan fagu hyder a meithrin goddefgarwch, a datblygu sgiliau newydd wrth wneud ffrindiau a chreu atgofion a ymestynodd ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Gwledydd a gymerodd ran: | Ffrainc, Yr Almaen, Slofenia, Sbaen, Y DU |
|---|---|
Cyfnod: | 2014 - 2017 |
Cyllid: | €219,560 |
Math o brosiect: | Partneriaethau Strategol ar gyfer Ysgolion |
Cefndir
Creodd prosiect AirNet gysylltiadau rhwng ysgolion yn Sindelfingen (Yr Almaen), Dronfield (Lloegr), Malaga a Barcelona (Sbaen), Idrija (Slofenia) a Kourou (Guiana Ffrengig). Dewiswyd y thema ‘aer’ yn fwriadol oherwydd, er ei fod yn hanfodol i'n hamgylchedd, mae'n aml yn cael ei ystyried yn llai o flaenoriaeth nag elfennau fel dŵr.
Roedd hefyd yn cynnig rhywbeth i bawb. Roedd cyfle i ddysgwyr ystyried gwahanol agweddau o ‘aer’ drwy wyddoniaeth a thechnoleg, neu ddefnyddio cerddoriaeth a chelf. Cafodd pob ysgol ddewis ei ffocws a’i ddehongliad ei hun o’r thema. Yn eu tro, cafodd yr ysgolion drefnu gweithgareddau ar gyfer y grŵp rhyngwladol cyfan – yn adlewyrchu eu ffocws a’u dehongliad penodol nhw o’r thema.
Amcanion
O’r cychwyn, roedd y prosiect yn amcanu i fod yn fwy na chyfrwng i ddysgu ffeithiau’n unig. Nod AirNet oedd helpu dysgwyr i fod yn fwy agored eu meddwl, ac yn fwy goddefgar, hyderus a huawdl; a’u hannog i sefyll ar eu traed eu hunain wrth ehangu eu canfyddiad o’r thema a’u gwybodaeth amdano, a datblygu eu sgiliau iaith, a’u creadigrwydd.
Yn ogystal, roedd y prosiect am roi cyfle i’r dysgwyr ehangu eu gorwelion a datblygu sgiliau a allai fod yn werthfawr ar gyfer eu haddysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol
Rhoi’r prosiect ar waith
Cafodd y prosiect ei gynllunio o gwmpas chwe chyfarfod rhyngwladol wythnos o hyd. Cafodd y cyfarfodydd hyn eu cynnal – yn eu tro – gan yr ysgolion oedd yn cymryd rhan. Roedd y dysgwyr yn gweithio mewn timoedd cymysg, gan gyfuno gwahanol ieithoedd, diwylliannau, diddordebau, a galluoedd.
Cafodd amrywiaeth o weithgareddau cydweithio gwyddonol, ymweliadau diwylliannol, gweithgareddau chwaraeon a hamdden, drama, celf, a phrosiectau creadigol eu cynnal ar draws y chwe chyfarfod. Roedd cyfle hefyd i’r dysgwyr ddewis sut yr oeddent am gyflwyno canlyniadau’r gweithgareddau, gan ddefnyddio fideo, sain, delweddau, gwefannau ac apiau digidol.
Roedd athrawon y gwahanol ysgolion yn cyfathrebu drwy gydol cyfnod y prosiect drwy ebyst a grŵp WhatsApp. Roedd y dysgwyr yn cadw mewn cysylltiad drwy ebyst a chyfryngau cymdeithasol. Bu cyfarfodydd cynllunio a gynhaliwyd yn Sindelfingen, Idrija and Malaga yn help i athrawon gydlynnu gweithgareddau a chynnal momentwm y prosiect.
Roedd natur ryngwladol y prosiect yn hollbwysig. Roedd rhaid i’r dysgwyr ffeindio ffyrdd o gyfathrebu - hyd yn oed os nad oedd ieithoedd cyffredin ganddynt. Fe ddysgon nhw i wrando, cyfaddawdu, rhannu syniadau, a gweithio gyda phobl yr oeddent newydd eu cyfarfod. Drwy’r broses, fe dyfodd yr holl grwpiau gwahanol yn un tîm.
Canlyniadau ac effaith
Roedd canlyniadau uniongyrchol y prosiect yn cynnwys arddangosfa “Pictures in Motion”, ap ffôn clyfar, gwefan barhaus ar gyfer y prosiect, a nifer o ddarnau creadigol yn plethu celf, cerddoriaeth, a hediad.
Roedd arddangosfa ‘Pictures In Motion’ yn casglu gwaith a phrofiadau pob un o’r gwledydd a gymerodd ran ynghyd, gan eu cyflwyno mewn fformat digidol a gweledol. Roedd y wefan, a oedd yn cael ei diweddaru’n barhaus, hefyd yn adlewyrchu holl waith y dysgwyr a’r prosiect yn gyffredinol. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am y prosiect, yn ogystal â deunyddiau addysgol y gellid eu defnyddio gan athrawon a dysgwyr yn y dyfodol.
Ond roedd canlyniadau pwysicaf y prosiect yn dipyn mwy anodd eu mesur. Nododd yr athrawon bod y dysgwyr a gymerodd ran wedi tyfu’n fwy hyderus, annibynnol, a pharod i fynegi eu hunain. Datblygodd sgiliau iaith y dysgwyr (yn Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg) law yn llaw â’u sgiliau gwyddonol, creadigol a digidol.
Bu’r prosiect yn help i ddatblygiad proffesiynol yr athrawon hefyd. Fe wnaethon nhw gofleidio heriau newydd, arbrofi gyda gwahanol weithgareddau, a rhannu syniadau ac adnoddau gyda chydweithwyr yn yr ysgolion eraill – gan greu adnoddau addysgol a fydd yn dal i gael eu defnyddio ar ôl i brosiect AirNet ddod i ben.
Tu hwnt i’r prosiect
Roedd effaith AirNet yn fwy na gwella cyrhaeddiad y dysgwyr yn unig. Cawsant brofiad uniongyrchol o ddiwylliannau gwahanol gan wneud ffrindiau newydd ar draws ffiniau. Cawsant gyfle i weld llefydd newydd, profiad o amgylcheddau anghyfarwydd, a chyfle i ddarganfod beth y gallent ei gyflawni wrth weithio fel rhan o dîm rhyngwladol.
Roedd rhai profiadau’n arbennig o gofiadwy: ymweld â phorth gofod Ewropeaidd, a gwylio lansiad byw i’r gofod yn Guiana Ffrengig; anturio ar ‘Ynys y Diafol’; profi system ysgol wahanol yn Slofenia; darganfod rhannau llai twristaidd o Malaga; a gweithio gyda dysgwyr yn y Deutsche Schule yn Barcelona.
I’r athrawon, roedd y prosiect yn brofiad llawn mor arwyddocaol. Mae wedi creu cyfeillgarwch oes rhwng pobl, yn ogystal â rhwydwaith broffesiynol ryngwladol - gan ddangos yr hyn sy’n bosibl pan fo addysgu a dysgu’n symud y tu hwnt i welydd yr ystafell ddosbarth draddodiadol.
Ond efallai mai gwaddol mwyaf nodedig y prosiect yw’r ffaith bod o leiaf un dysgwr o bob haen o’r prosiect wedi mynd i fyw a gweithio mewn gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd. Gwnaeth Airnet fwy nag addysgu’r dysgwyr am ‘aer’, Ewrop, a diwylliannau gwahanol. Bu’n help iddyn nhw ddychmygu – a chymryd – eu lle mewn byd ehangach.
Fel y dywedodd un o’r athrawon: “Gofynnwch iddyn nhw os ydyn nhw’n cofio eu gwersi gwyddoniaeth, ac efallai y byddan nhw’n meddwl am gwpl o wersi hwyliog. Ond gofynnwch iddyn nhw am y prosiectau hyn, ac mae eu llygaid yn goleuo, ac maen nhw’n gwenu.”
I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.
“Ewch amdani. Ac yna ewch amdani eto pan fydd y cyllid yn cael ei ymestyn. Ewch amdani dros y dysgwyr, ewch amdani drosoch chi’ch hun, ac ewch amdani dros ein dyfodol ar lwyfan y byd.”
Howard Horsfall, Cynghorydd Cysylltiadau Rhyngwladol, Ysgol Dronfield Henry Fanshawe