Newyddion a straeon
Yma, cewch y newyddion diweddaraf am Erasmus+ a straeon i’ch ysbrydoli gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen o’r blaen.
Newyddion diweddaraf
Straeon i’ch ysbrydoli
Rydyn ni wedi casglu detholiad ysbrydoledig o astudiaethau achos o brosiectau o wahanol sectorau - gydag gwahanol wledydd yn cydweithio mewn partneriaethau. Gallwch chwilio’r bas data cyfan o brosiectau Erasmus+ yma.

Hamavaaz-Polyffonig
Defnyddiodd partneriaeth Ham'avaaz gerddoriaeth fel cyfrwng dysgu i wneud addysg oedolion yn fwy cynhwysol a chreadigol, gan greu adnoddau ymarferol i addysgwyr a dysgwyr.

Cenhadaeth : Sport 4 All
Helpodd y fenter weithwyr chwaraeon proffesiynol i ddysgu dulliau newydd o gefnogi integreiddio cymdeithasol a phroffesiynol pobl ifanc drwy chwaraeon.

Gŵyl ffilm - Siwrnai Ewropeaidd
Defnyddiodd y prosiect ffilm i archwilio diwylliant, traddodiadau, yr amgylchedd naturiol a llenyddiaeth wrth wella ansawdd addysg drwy gydweithredu rhyngwladol.

dm4res - Hybu gwytnwch ffoaduriaid drwy ddatblygu sgiliau marchnata digidol
Cefnogodd prosiect dm4res ffoaduriaid sy'n oedolion drwy hyfforddiant marchnata digidol wedi'i dargedu, mentora ac achredu ymarferol ar draws tair gwlad.

Interniaeth ryngwladol mewn gastronomeg
Gwnaeth y prosiect wella sgiliau proffesiynol, ieithyddol a digidol myfyrwyr drwy interniaethau rhyngwladol a chefnogi athrawon drwy gysgodi swyddi.

Mentrau addysg i ffoaduriaid
Datblygodd y prosiect hwn rwydwaith o raglenni addysg uwch a hyfforddiant eiriolaeth mewn gwledydd a oedd newydd dderbyn nifer fawr o ffoaduriaid.

Strategaethau datblygu cynaliadwy ar gyfer sefydliadau addysg uwch
Nod y prosiect oedd helpu sefydliadau addysg uwch i ymgorffori Amcanion Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ar draws addysg, ymchwil, llywodraethiant a gweithgareddau campws.

YN: atgyfnerthu cynhwysiant trwy chwaraeon
Teithiodd pump aelod o staff o Sbaen i Rwmania i archwilio sut y gellir defnyddio chwaraeon i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol drwy gysgodi swyddi a dysgu ymarferol.

Entrepreneuriaeth a grymuso ieuenctid
Hyrwyddodd y prosiect rymuso pobl ifanc, entrepreneuriaeth a chynhwysiant cymdeithasol drwy ddysgu gydol oes, hyfforddiant a chefnogaeth cyflogaeth.

Prosiect yn seiliedig ar fyd natur i hybu datblygiad synhwyraidd plant ag anghenion arbennig
Gwnaeth y prosiect wella arferion datblygu synhwyraidd i blant ag anghenion arbennig drwy ddysgu'n seiliedig ar fyd natur, cefnogi athrawon a chryfhau cydweithredu traws-sector.

System raddio ansawdd ar gyfer darparwyr addysg oedolion
Creodd y prosiect hwn system raddio strwythuredig a thryloyw ar gyfer sefydliadau addysg oedolion ar draws y gwledydd a gymerodd ran.

Theatr ddogfennol: geiriau sy'n cyfrif!
Daeth y prosiect â phobl ifanc o bob rhan o Ewrop ynghyd i greu theatr gair-am-air yn archwilio gwahaniaethu, allgáu ac araith gasineb.

Canolfan Menywod Kilcooley
Mae Canolfan Menywod Kilcooley yn gwasanaethu ystâd o dai a godwyd i gartrefu pobl a gafodd eu disodli o Belfast yn ystod cyfnod ‘Y Trafferthion’ yng Ngogledd Iwerddon. Wrth weld fod prinder mentoriaid yn y gymuned, defnyddiodd y ganolfan gyllid Erasmus+ ar gyfer Prosiect Mentora Safon Uchel Arolesol i Hybu Cynhwysiant Cymdeithasol

Coleg East Sussex Coast
Cafodd myfyrwyr ar gyrsiau Adeiladu ac Arlwyo gyfle unigryw i newid eu bywydau diolch i gyllid rhaglen Erasmus+. Cawsant gyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol a magu hyder drwy fanteisio ar brofiadau o fywyd go iawn yn Ffrainc.

Dise: Diploma in Sporting Excellence
Rhoddodd ymweliad pythefnos i Sbaen gyfle i athletwyr ifanc talentog o gefndiroedd llai breintiedig o Goleg South Gloucestershire and Stroud (SGS) i fagu hyder, cael profiad gwaith byd go-iawn, a datblygu sigliau parod ar gyfer gyrfa wrth iddynt gasglu tystiolaeth werthfawr ar gyfer eu cymhwysterau Diploma Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (DiSE).

Prosiect Shanarani dan arweiniad pobl ifanci
Mae stereoteipiau rhywedd yn siapio ein bywydau o gyfnod cynnar gan ein bod yn cael ein geni i gymdeithas sy’n llawn disgwyliadau, syniadau, a strwythurau sy’n effeithio a dylanwadu ar ein bywydau. Gan gweithio gyda phobl ifanc o’r DU, Gwlad Groeg, Yr Eidal, Rwmania a Sbaen, nod Prosiect Shanarani Dan Arweiniad Pobl Ifanc oedd herio’r drefn bresennol.

Hyfforddwyr crefftau ymladd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
Roedd sefydliad crefftau ymladd yn y Ffindir eisiau cynnig hyfforddiant crefftau ymladd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.. Drwy weithio gyda phartneriaid rhyngwladol, cafodd pedwar o hyfforddwyr eu hyfforddi, ac fe ddatblygodd y sefydliad ganllaw ymarferol i hyfforddwyr ar gyfer y dyfodol.

Airnet
Mae dysgwyr o chwe ysgol Ewropeaidd yn dod ynghyd i archwilio thema 'aer' trwy wyddoniaeth, technoleg, cerddoriaeth, a chelf fagu hyder a meithrin goddefgarwch, a datblygu sgiliau newydd wrth wneud ffrindiau a chreu atgofion a ymestynodd ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

RNLI
Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) yn dibynnu ar gefnogaeth gwirfoddolwyr ymroddgar i gynnal gwasanaeth chwilio ac achub 24ain awr. Ond gan mai dim ond un o bob deg o’r gwirfoddolwyr hynny sydd â phrofiad proffesiynol o weithio ar y môr, mae hyfforddiant galwedigaethol yn hanfodol, ac mae rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau ar draws Ewrop yn fuddiol iawn.

MetaCoin
Roedd META-COIN yn brosiect 36 mis, yn helpu pobl ifanc ac oedolion ledled Ewrop i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i addasu a chydweithio mewn byd sy’n fwyfwy cymleth. Drwy ddull gweithredu oedd yn canolbwyntio ar bobl roedd y prosiect yn cynnig cyfle i gyfranogwyr fagu hunan-ymwybyddiaeth, dysgu meddwl yn feriniadaol, a meithrin sgiliau arweinyddiaeth, cydweithio, ac addasu – sgiliau hanfodol yn oes Deallusrwydd Artiffisial a thrawsnewid digidol.

City-kids
Daeth chwe deg o bobl ifanc o ardaloedd trefol difreintiedig mewn pedair gwlad yn Ewrop at ei gilydd yn Bucharest i ddatblygu sgiliau personol, hybu cynhwysiant cymdeithasol, a gwella eu cyfleoedd i gael gwaith.

