Ffeindio partner
Cyn mynd i ormod o fanylder wrth ddatblygu eich prosiect Erasmus+, mae'n bwysig eich bod yn nodi'r partner(iaid) yr hoffech weithio â nhw. Mae sefydlu eich partneriaeth yn gynnar yn rhoi cyfle i chi ddatblygu'r prosiect ar y cyd â'ch partner(iaid), a sicrhau ei fod yn adlewyrchu eich amcanion, arbenigedd(au) a gofynion cyffredin.

Efallai bod gyda chi gysylltiadau â sefydliadau yn Ewrop yn barod. Gall Erasmus+ eich helpu i adeiladu ar y cysylltiadau hyn a datblygu'r cydweithio ymhellach. Os ydych chi'n dechrau o'r dechrau, mae llawer o ffyrdd o ffeindio a chysylltu â darpar bartner(iaid).
Wrth chwilio am bartner(iaid) posibl, ystyriwch:
- pa themâu neu bynciau rydych am weithio arnynt
- a yw eich syniad yn cefnogi o leiaf un o flaenoriaethau Erasmus+
- pa fath o sefydliad neu arbenigedd rydych yn chwilio amdano
- beth gall eich sefydliad ei gynnig i'r bartneriaeth.
Gall yr adnoddau canlynol helpu sefydliadau i ffeindio partner(iaid) neu bostio eu syniadau am y math o brosiect maent yn dymuno gweithio arno:
- Ysgolion a Cholegau Addysg Bellach: Bas data ffeindio partner y British Council
- Addysg Oedolion: EPALE Partner Search
- Grwpiau Ieuenctid: SALTO-YOUTH