
City Kids: Defnyddio gwirfoddoli yn y gymuned i helpu pobl gael gwaith a thaclo unigrwydd cymdeithasol mewn dinasoedd a threfi
Daeth chwe deg o bobl ifanc o ardaloedd trefol difreintiedig mewn pedair gwlad yn Ewrop at ei gilydd yn Bucharest i ddatblygu sgiliau personol, hybu cynhwysiant cymdeithasol, a gwella eu cyfleoedd i gael gwaith.
Gwledydd a gymerodd ran: | Estonia, Ffrainc, Rwmania, y DU |
|---|---|
Cyfnod: | 2020-2022 |
Cyllid: | €51,200.00 |
Math o brosiect: | Symudedd Ieuenctid |
Cafodd menter Cyfnewid Ieuenctid Erasmus+ yn Rwmania ei gychwyn gan y bobl ifanc eu hunain, i rymuso pobl o gefndiroedd anodd i fagu hyder, teimlo’n rhan o’u cymuned, a chymryd camau i greu newid cadarnhaol yn eu hamgylcheddau trefol lleol.
Cefndir:
Dechreuodd y prosiect drwy sgwrs rhwng pobl ifanc oedd yn cymryd rhan ym mhrosiect Big City Youth. Roedden nhw am archwilio sut y gallai ffyrdd newydd o feddwl ac agwedd fentergar helpu pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd trefol difreintiedig i chwalu rhwystrau a gwella eu cyfleoedd at y dyfodol. Gan weithio gyda phartneriaid o faes cynhwysiant cymdeithasol a chyflogadwyedd pobl ifanc o ardaloedd trefol difreintiedig, aeth y tîm ati i ddiffinio amcanion y prosiect.
Amcanion y prosiect: Troi syniadau pobl ifanc yn weithredu
Gan ganolbwyntio ar bobl ifanc yn Estonia, Ffrainc, Rwmania a’r DU o gymunedau sy’n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd sylweddol, roedd y prosiect yn hybu gwirfoddoli fel man cychwyn a ffordd i mewn i fyd gwaith. Roedd y prosiect am rymuso pobl ifanc drwy ddangos fod y gallu gan bob un ohonynt i ysgogi newid. At hynny, roedd y prosiect hefyd yn anelu i ddod â’r sector gwirfoddoli a’r farchnad swyddi yn nes at ei gilydd, ac annog pobl ifanc i fod yn fwy amlwg a gweithredol yn eu cymunedau.
Datblygodd tîm y prosiect weithgareddau i sbarduno meddwl yn greadigol i helpu’r bobl ifanc oresgyn yr ofnau a’r digalondid maen nhw’n ei deimlo wrth wynebu rhwystrau addysgol, cymdeithasol, neu wrth chwilio am waith. Edrychon nhw ar sut mae gwaith tîm, cyfathrebu, trefnu, a datrys problemau yn gallu meithrin profiadau gwerthfawr a chryfhau CV. Cafodd y cyfranogwyr gyfle i ddefnyddio offer ymarferol i greu syniadau, llunio strategaethau, a dysgu hanfodion rheoli prosiect – i’w galluogi i sefydlu mentrau i daclo heriau trefol. Bu’r profiadau hyn nid yn unig yn hwb mawr i’w datblygiad personol, ond hefyd yn ffordd o osod sylfeini ar gyfer prosiectau dan arweiniad pobl ifanc yn y dyfodol a ffurfio partneriaethau trawsffiniol newydd.
Rhoi’r prosiect ar waith: datblygu sgiliau i fanteisio ar gyfleoedd go iawn
Roedd pedwar prif gymal i’r prosiect: paratoi, Ymweliad Cynllunio Ymlaen Llaw (APV), y Cyfnewid Ieuenctid yn Bucharest, a gweithgareddau i rannu gwybodaeth a gwersi a ddysgwyd. Cafodd yr holl weithgareddau eu llunio i hybu goddefgarwch, gwaith tîm, cydweithredu, dysgu drwy brofiad, arloesi, a meddwl yn feirniadol.
Yn ystod y cymal paratoi, aeth partneriaid y prosiect ati i godi ymwybyddiaeth yn lleol, gwneud ymchwil, cynnal cyfarfodydd rhwydweithio ar-lein, cadarnhau cynllun gwaith y prosiect, a sefydlu sianeli cyfathrebu, rhestr o gyfrifoldebau ac amserlenni.
Cymerodd dau gynrychiolydd o bob sefydliad partner ran yn yr Ymweliad Cynllunio Ymlaen Llaw yn Bucharest, yn Rwmania. Yn y cyfarfodydd hynny, cawsant gyfle i drafod logisteg y rhaglen, archwilio’r ganolfan, trafod gwahanol elfennau’r rhaglen, a chynnal asesiadau risg trylwyr ar gyfer y cyfnod ar ôl y pandemig.
Yn ystod y Cyfnewid Ieuenctid daeth 60 o bobl ifanc a 12 o arweinyddion grŵp at ei gilydd ar gyfer cyfres o weithdai yn edrych ar sgiliau meddal, arloesi, cyflogadwyedd a chynhwysiant cymdeithasol. Roedd y cyfranogwyr yn cynrychioli cymunedau trefol sy’n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (y DU), La Bocca yn Cannes (Ffrainc), ardaloedd dinesig yn Bucharest (Rwmania) a Telliskivi yn Tallin (Estonia).
Roedd llawer ohonynt yn ymdopi â’r heriau o fod ‘heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant’ (NEET); roedd pob un o’r cyfranogwyr yn gwybod pa mor galed gall bywyd trefol fod i berson ifanc. Iddyn nhw, roedd y prosiect yn cynnig ymyrraeth gynnar drwy ddysgu anffurfiol a gwirfoddoli.
Roedd y Cyfnewid yn dilyn tri cham syml.
- Bu’r cyfranogwyr yn ystyried pam fod sgiliau meddal a sgiliau trosglwyddadwy yn bwysig ar gyfer ffeindio gwaith, ac ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol.
- Fe wnaethon nhw nodi eu cryfderau eu hunain a’r meysydd lle gallent wella, cyn rhoi’r sgiliau hyn ar waith drwy weithdai a gwirfoddoli.
- Fe ddefnyddion nhw’r hyn roeddent wedi’i ddysgu i greu strategaethau cyflogaeth personol.
Cafodd pob cyfranogwr gyfle i ddatblygu eu Map i Gyflogadwyedd personol eu hunain, i’w helpu i nodi eu camau realistig nesaf i gyrraedd addysg bellach, gwaith cyflogedig, neu hunan-gyflogaeth. Hefyd, fe wnaethon nhw greu CVs Europass, fel bod ganddynt adnodd a ffordd glir i ddisgrifio eu sgiliau a’u profiad i ddarpar gyflogwyr.
Un o uchafbwyntiau’r Cyfnewid oedd y cyfle a gafodd y cyfranogwyr i gynllunio a chyflwyno eu mentrau gwirfoddoli cymunedol eu hunain. Roedd y rhain yn cynnwys: ‘Bwydo’r Tlawd’, ‘Dawnsio i Godi Calon’, ‘Amser Ymarfer Corff’, ‘Cadw’r Lle’n Daclus’, ac ‘Cadw ar ôl Darllen’
Rhoddodd y mentrau hyn gyfle iddyn nhw ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau lleol yn Bucharest, cael profiad byd go iawn o effaith eu mentrau, a gweld sut y gallai eu gwaith roi pleser a chefnogaeth i bobl a hybu newid cadarnhaol. I lawer, dyma oedd eu profiad cyntaf o arwain gweithgaredd cyhoeddus, ac roedd y teimlad o lwyddiant yn enfawr.
Canlyniadau: Hyder, Cysylltiadau, a newid Parhaol
Roedd canlyniadau’r prosiect yn sylweddol. Nododd y cyfranogwyr eu bod wedi gweld gwelliant o ran: gweithio fel rhan o dîm; cyfathrebu; addasu; datrys problemau; meddwl yn feirniadol; creadigrwydd; rheoli amser; a gallu ‘gollwng gafael er mwyn dysgu o’r newydd’. Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth mawr ar y sgiliau hyn - hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu nodi’n uniongyrchol mewn disgrifiadau swydd (ac nid ydynt yn sgiliau sy’n cael eu dysgu’n aml fel rhan o addysg ffurfiol). Aeth dros hanner y cyfranogwyr yn eu blaenau i fanteisio ar gyfleoedd addysg bellach, gan gynnwys addysg alwedigaethol ac uwch, daliodd eraill ati i wirfoddoli, a llwyddodd sawl un i gael gwaith llawn amser.
Roedd yr ymgyrch i hybu sgiliau gwaith a drefnwyd gan y cyfranogwyr yn eu cymunedau lleol eu hunain ar ôl dychwelyd yn un o lwyddiannau nodedig y prosiect. Defnyddiodd y cyfranogwyr eu sgiliau newydd i annog cyfoedion di-waith wrth fod yn fodelau rôl a dangos y gall pob person ifanc weithio a chyrraedd eu nodau, os yw’r cymorth priodol ar gael.
Dangosodd y prosiect i’r bobl ifanc a gymerodd ran sut mae gwirfoddoli’n gallu trawsnewid bywydau, meithrin hyder, a dyfnhau ymgysylltiad cymunedol.
Yn gyffredinol, mae’r prosiect wedi cryfhau cyfleoedd bywyd y bobl ifanc a gymerodd ran, gan ehangu eu dyheadau a’u grymuso i gyfrannu a gweithredu i hybu newid cadarnhaol yn eu cymunedau.
Efallai mai’r canlyniad mwyaf pwerus oedd gweld pobl ifanc yn trawsffurfio, magu hyder, trechu ofnau, gwneud ffrindiau rhyngwladol, a darganfod eu bod yn gallu sbarduno newid.
I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.
'Mae cyllid Erasmus+ yn gatalydd pwerus i dwf, hyder, a chyfleoedd y gall pobl ifanc fanteisio arnynt. Mae’n rhoi cyfle i gyfranogwyr gamu y tu hwnt i’w hamgylchedd bob dydd, cwrdd â chyfoedion o bob rhan o Ewrop, a datblygu sgiliau go iawn ar gyfer bywyd, gwaith, a gweithredu yn eu cymunedau.'