Gwyliwch Nawr: Cam Gweithredu Allweddol 1 Addysg Oedolion
- Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf, 11:00 - 12:00 GMT+1
- Math o ddigwyddiad: Ar-lein
Eisiau gwybod sut i gymryd rhan yn Erasmus+? Gwyliwch y recordiad i gael trosolwg craff o raglen Cam Gweithredu Allweddol 1 (KA1) Erasmus+ ar gyfer y sector Addysg Oedolion.
Byddwn yn egluro sut mae’r rhaglen KA1 yn gweithio, pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais, a'r gwahanol opsiynau sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau o fewn prosiect, fel cysgodi swyddi, cyrsiau hyfforddi a symudedd grŵp.