Three adults work on a laptop sharing ideas and making notes

META-COIN: Meithrin y sgiliau i ffynnu mewn byd sy’n newid

Roedd META-COIN yn brosiect 36 mis, yn helpu pobl ifanc ac oedolion ledled Ewrop i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i addasu a chydweithio mewn byd sy’n fwyfwy cymleth. Drwy ddull gweithredu oedd yn canolbwyntio ar bobl roedd y prosiect yn cynnig cyfle i gyfranogwyr fagu hunan-ymwybyddiaeth, dysgu meddwl yn feriniadaol, a meithrin sgiliau arweinyddiaeth, cydweithio, ac addasu – sgiliau hanfodol yn oes Deallusrwydd Artiffisial a thrawsnewid digidol.

Gwledydd a gymerodd ran:

Gwlad Belg, Y Ffindir, Ffrainc, Yr Almaen, Hwngari, Yr Eidal, Y DU

Cyfnod:

2022-25

Cyllid:

€400,000

Math o brosiect:

Partneriaethau Cydweithredu ym maes Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol

Cefndir

Mae byd gwaith yn newid yn gyflym. Mae grymoedd digideiddio, globaleiddio, newid demograffig, a symudedd rhyngwladol yn creu amgylcheddau gwaith sy’n fwyfwy amrywiol ac amhosibl eu rhagweld. Yn ogystal, mae digwyddiadau diweddar, gan gynnwys y pandemig a’r rhyfel yn nwyrain Ewrop, wedi dangos mor gyflym y gall amgylchiadau newid.

Ym maes Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET), mae hyn yn golygu bod angen mwy na sgiliau technegol neu sgiliau swydd-benodol ar bobl. Mae angen sgiliau meta arnynt hefyd, fel: dysgu sut i ddysgu; dysgu meddwl yn feirniadol; dulliau creadigol o ddatrys problemau; bod yn barod am newid; a meithrin agwedd gadarnhaol wrth feddwl am y dyfodol o ran gweithio gyda gwahanol bobl ac ymateb yn gadarnhaol i newid.

Ymateb i’r angen hwn oedd sbardun prosiect META-COIN (daw’r enw o: META-COmpetencies for INternational Working Environments). Daeth y prosiect â phartneriaid o Wlad Belg, Y Ffindir, Ffrainc, Yr Almaen, Hwngari, Yr Eidal a’r DU at ei gilydd i sicrhau bod sgiliau meta yn elfen fwy amlwg ac ymarferol o Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol a dysgu gydol oes.

Manteisiodd y bartneriaeth ar gydweithredu Ewropeaidd a fu ar waith ers tro. Roedd rhai o’r partneriaid wedi bod yn cymryd rhan mewn mentrau cydweithio rhyngwladol ers degawdau, gan gynnwys gweithio gyda’i gilydd ar raglenni Ewropeaidd blaenorol. O ganlyniad, roedd ymddiriedaeth yn y prosiect o’r dechrau, gan ei gwneud yn haws i ddod â'r gymysgedd iawn o brofiad ac arbenigedd at ei gilydd ar gyfer META-COIN.

Amcanion:

Roedd gan y prosiect uchelgais clir: cryfhau gallu systemau addysg a hyfforddiant galwedigaethol i ymateb i amgylcheddau gwaith mwyfwy amrywiol - yn enwedig mewn marchnadoedd llafur dinesig lle ceir lefelau uchel o symudedd ac amrywiaeth eang yn natur grwpiau o ddysgwyr. Un o’r prif amcanion oedd chwalu rhwystrau i ddysgu a chyflogaeth ar sail gwahaniaethu diwyllianol, ieithyddol, cymdeithasol, a digidol.

Nodwyd deuddeg o sgiliau meta allweddol drwy ddadansoddiad o’r farchnad lafur a chyfweliadau â chyflogwyr a rhanddeiliaid eraill. Rhoddwyd ystyriaeth i elfennau fel sgiliau personol a chymdeithasol, ymwybyddiaeth ddiwylliannol, dysgu a datrys problemau er mwyn gwella cyflogadwyedd; gwytnwch; a throsglwyddo sgiliau a newid swyddi.

Roedd META-COIN yn amcanu i:

  • datblygu a meithrin meta-sgiliau ymhlith pobl ifanc a dysgwyr sy'n oedolion trwy ddysgu rhyngweithiol, cyfranogol, a dulliau’n seiliedig ar brofiad
  • cryfhau gallu addysgwyr a hyfforddwyr i hwyluso gweithgareddau myfyriol sy’n gynhwysol ac yn canolbwyntio ar y dysgwr, gan ddefnyddio dulliau digidol a dulliau nad ydynt yn ddigidol
  • cefnogi sefydliadau a chyrff i gynnwys datblygu sgiliau meta yn eu strategaethau addysgu, cwricwla, a’u fframweithiau ansawdd
  • hybu cyfle teg a mynediad drwy sicrhau fod pob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr o gefndiroedd llai breintiedig, yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu blaengar
  • cyfrannu at flaenoriaethau’r Undeb Ewropeaidd – fel y Cynllun Gweithredu Addysg Ddigidol, yr Agenda Sgiliau i Ewrop, a Datganiad Osnabrück – drwy fabwysiadu ecosystemau addysg sy’n gynhwysol, yn barod yn ddigidol, ac yn gydnerth.

Rhoi’r prosiect ar waith:

Cyfunodd META-COIN arloesedd digidol gyda rhywbeth lawn mor bwysig: y cysylltiad rhwng pobl.

Cafodd y cyfranogwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol, gweithgareddau grŵp, efelychiadau, ac ymarferion myfyriol. Roedd adnoddau fel cardiau emosiwn, gweithgareddau hunan-ddarganfod, a dysgu wedi’i seilio ar sefyllfaoedd yn help i’r dysgwyr gysylltu sgiliau haniaethol â sefyllfaoedd go iawn. Drwy weithgareddau’n ymwneud ag emosiynau, hunan-ymwybyddiaeth, gwaith tîm, ymwybyddiaeth ofalgar, ac ymwybyddiaeth gorfforol, cafodd y cyfranogwyr eu hannog nid yn unig i feddwl am yr hyn roedden nhw’n gallu ei wneud, ond hefyd i ystyried sut maen nhw’n dysgu a gweithio gydag eraill.

Roedd yr amgylchedd ddysgu hyblyg ar-lein yn golygu bod deunyddiau ac adnoddau ar gael yn hawdd i’r dysgwyr a’r hyfforddwyr yn ôl y galw. Roedd modd defnyddio’r adnoddau’n annibynnol neu’u haddasu ar gyfer sesiynau yn yr ystafell ddosbarth, sesiynau ar-lein, neu sesiynau cyfunol.

Defnyddiodd META-COIN ddulliau monitro trwyadl a chynhwysol drwy gydol y prosiect. Roedd y cyfarfodydd cydlynu misol, gwerthusiadau bob chwe mis, ac adolygiadau ansawdd mewnol yn sicrhau bod unrhyw heriau’n cael eu nodi wrth iddynt godi, a’u datrys ar y cyd.

Canlyniadau ac effaith:

Roedd canlyniadau’r prosiect yn arwyddocaol. Cymerodd 475 o fyfyrwyr a dysgwyr sy’n oedolion ran yn y gweithgareddau peilot, ynghyd â 101 o athrawon a hyfforddwyr, a 19 o gwmnïau.

I’r dysgwyr, roedd effaith y prosiect yn fwy na dysgu gwybodaeth yn unig. Nododd cyfranogwyr eu bod wedi tyfu’n fwy hyderus wrth drin adnoddau digidol, wedi gweld gwelliant yn eu sgiliau gwaith tîm, ac wedi meithrin ymwybyddiaeth gryfach o’r fordd roeddent yn dysgu. Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol yn seiliedig ar brofiad, dywedodd y dysgwyr fod y sgiliau meta’n teimlo’n berthnasol - yn hytrach na’n rhywbeth haniaethol yn unig.

I’r addysgwyr, roedd META-COIN yn cynnig ffyrdd newydd o wneud dysgu’n broses mwy myfyriol, cynhwysol, a diddorol. I gyflogwyr, roedd yr adnoddau'n cynnig dulliau ymarferol a phersbectif newydd ar feysydd fel cyfathrebu, gwaith tîm, ac ail-sgilio.

Cafodd set gynhwysfawr o adnoddau eu cynhyrchu gan brosiect META-COIN, gan gynnwys modiwlau hyfforddi, adnodd hunan-asesu, a chanllaw arfer da. Mae’r cyfan ar gael am ddim, mewn chwe iaith - Saesneg, Ffrangeg, Ffinneg, Almaeneg, Hwngareg ac Eidaleg. Bydd yr adnoddau’n parhau ar-lein tan 2030 –  i’w defnyddio’n ôl y gofyn gan ddarparwyr Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET), prifysgolion, cwmnïau, a sefydliadau eraill.

Efallai mai llwyddiant mwyaf prosiect META-COIN oedd ei fod wedi creu mwy na set o adnoddau hyfforddi’n unig. Fe lwyddodd i greu dull ymarferol a throsglwyddadwy i helpu pobl dyfu’n fwy hyderus, gwydn, a pharod i barhau i ddysgu drwy gydol eu bywydau.

Mae’r neges i sefydliadau sy’n ystyried mentrau cydweithio Ewropeaidd yn syml: ewch amdani. Gall prosiectau cydweithredu Erasmus+ ddarparu’r adnoddau, arbenigedd, a phartneriaethau rhyngwladol sydd eu hangen i beilota syniadau newydd a’u troi’n newid parhaol.

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+. 

'Un o fuddion mwyaf cyllid Erasmus+ yw ei fod yn cynnig cefnogaeth ariannol sylweddol ar gyfer datblygu, peilota, hyfforddi, a rhannu - gan leihau pwysau ariannol a rhoi cyfle i sefydliadau gynnal prosiectau uchelgeisiol sy’n edrych tua’r dyfodol.'

Jim Anderson, Rheolwr Prosiect, 36.6 Competence Centre (Scotland)

Meta coin | Erasmus +