Paratoi i wneud cais

Darganfod pa sefydliadau sy’n gymwys ar gyfer cyllid Erasmus+ a’r camau sydd angen i chi eu cymryd i baratoi ar gyfer eich taith Erasmus+.

Sut ydw i’n paratoi ar gyfer Erasmus+?

Os ydy rhaglen Erasmus+ yn gwbl newydd i chi neu os nad ydych chi’n hollol sicr eto mai dyma’r rhaglen i chi, dyma rai opsiynau i’ch helpu ar hyd y ffordd:

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Mae cyllid ar gael ar gyfer lleoliadau a phartneriaethau rhyngwladol i sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am gyllid gan sefydliadau cymwys sy’n gweithio ym maes addysg, hyfforddiant, ieuenctid neu chwaraeon. Er enghraifft, prifysgol, ysgolion a cholegau, grwpiau ieuenctid neu glybiau chwaraeon.

Dyddiadau Allweddol

Dyddiad

Gweithgaredd

Tachwedd 2026

Galwad am geisiadau am gyllid Erasmus+ yn agor

Chwefror / Mawrth 2027

Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau am gyllid

Mehefin - Awst 2027

Canlyniadau'r broses gyllido