An orange life saving boat is out at sea with a crew member on deck

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) – datblygu sgiliau i achub bywydau ar y môr

Mae’r RNLI yn achub dros 400 o fywydau bob blwyddyn ac mae’n dibynnu ar gefnogaeth gwirfoddolwyr ymroddgar i ddarparu gwasanaeth chwilio ac achub 24ain awr. Ond, dim ond un o bob deg o’r gwirfoddolwyr hynny sydd â phrofiad proffesiynol o weithio ar y môr

Gwledydd a gymerodd ran:

Denmarc, Y Ffindir, Yr Almaen, Gwlad yr Iâ, Yr Iseldiroedd, Norwy, Sweden, Y Deyrnas Unedig

Cyfnod:

2015-2017

Cyllid:

€24,660,00

Math o brosiect:

Symudedd Staff Addysg Oedolion

Mae gwasanaethau chwilio ac achub ar y môr ledled Ewrop yn wynebu’r un heriau. Gyda chefnogaeth rhaglen Erasmus+ cafodd gwirfoddolwyr yr RNLI gyfle i ddatblygu ymhellach y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i achub bywydau ar y môr. Roedd y prosiect symudedd addysg oedolion, ‘Cyfnewid Criwiau Badau Achub Ewropeaidd’, yn darparu profiad unigryw i wirfoddolwyr; gan roi cyfle iddynt gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid dramor ar gyfer gwasanaethau achub am hyd at saith diwrnod.

Roedd y rhaglen yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau technegol, cysgodi arbenigwyr o wledydd Ewropeaidd eraill wrth eu gwaith, a manteisio ar hyfforddiant y gellid ei rannu â gwirfoddolwyr yn eu criwiau lleol ar ôl dychwelyd i’r DU.

Achub bywydau yn y DU

Roedd Callum Robinson wedi bod yn aelod o griw ei fad achub lleol yn Rhyl ers dros 10 mlynedd. Cafodd ei ysbrydoli i ymuno gan ei dad a oedd wedi bod yn wirfoddolwr yn yr orsaf ers cyn i Callum gael ei eni.

Roedd Callum yn un o’r grŵp o wirfoddolwyr y RNLI a gafodd gyfle i deithio i Oslo yn Norwy i gymryd rhan mewn prosiect symudedd a ariannwyd gan Erasmus+. Ar ôl dychwelyd, aeth Callum i weithio gyda’r tîm achub llifogydd cenedlaethol, yn ogystal â gwasanaethu gyda chriw Gorsaf Bad Achub Rhyl – un o’r gorsafoedd prysuraf yng Nghymru am alwadau brys.

'Roedd y rhaglen gyfnewid yn werthfawr dros ben. Ces i gyfle nid yn unig i ddysgu sgiliau newydd ond hefyd sut i wneud defnydd mwy effeithiol o’r offer sydd gyda ni’n barod.' – Callum Robinson

Yn ystod y cyfnewid cafodd Callum gyfle i ddysgu am dechnegau ac offer newydd sy’n cael eu defnyddio gan dimau chwilio ac achub brys yn Norwy. Roedd hynny’n cynnwys dysgu am ddulliau ymladd tân o fwrdd llong, ac adnodd hyfforddi newydd sy’n ail-greu damwain hofrennydd yn y dŵr, ac offer unigryw ar gyfer torri dillad pobl sydd wedi cael niwed difrifol mewn damweiniau.

'Rwy’n gallu cyfeirio’n ôl at beth ddysgais i a dweud: ‘yn Norwy roedden nhw’n gwneud hyn - ac roedd e’n gweithio’n dda’. Mae rhannu sgiliau a thechnegau fel hyn yn hanfodol.'

Rhoi’r prosiect ar waith

Gyda chyllid Erasmus+ roedd tîm y prosiect yn gallu:

  • Cynllunio’r wythnos gyfnewid ar y cyd â sefydliadau partner yn Norwy.
  • Dewis aelodau o wahanol griwiau bad achub a’u paratoi ar gyfer y cyfnewid.
  • Talu costau teithio’r grŵp i Norwy, a chostau llety a theithio yn Norwy ar gyfer yr hyfforddiant a’r cysgodi swyddi.
  • Gwerthuso’r cyfnewid, a rhoi gwelliannau ar waith o ran hyfforddiant a/neu drefniannau.
  • Rhannu adborth gan y cyfranogwyr â chyd-weithwyr a sefydliadau lleol, a rhannu a lledaenu canlyniadau’r cyfnewid a’r wybodaeth a’r gwersi a ddysgwyd.
  • Sicrhau bod y prosiect yn cydymffurfio â gofynion rhaglen Erasmus+.

Effaith ehangach

O ran y sefydliad, bu’r prosiect symudedd yn gyfrwng i helpu gwirfoddolwyr i ddatblygu'n broffesiynol; gan eu helpu i ddatblygu eu galluoedd - fel aelodau o dimau gwasanaethau achub brys yn ogystal ag yn eu bywydau bob dydd.

Esboniodd cydlynydd y prosiect, Oliver Mallinson, fod y prosiect hefyd wedi helpu i ddatblygu dull dilysu i nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar wirfoddolwyr yn y DU ac yn rhyngwladol. 'Mae’r cydweithredu rhwng sefydliadau chwilio ac achub brys ar y môr ar draws Ewrop yn ein galluogi i rannu arfer gorau ar gyfer achub bywydau’n rhyngwladol, a'n helpu i ddal gafael ar wirfoddolwyr ymroddedig.'

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.