Diwrnod Gwybodaeth Erasmus+ Ieuenctid Cymru

  • Dyddiad: Dydd Mercher, 2 Rhagfyr, 9:00 – 14:00 GMT
  • Lleoliad: Cymru

Ymunwch â ni ar 2 Rhagfyr 2026 yn Urdd Gobaith Cymru, Bae Caerdydd, ar gyfer Diwrnod Gwybodaeth Erasmus+ Ieuenctid Cymru, a fydd yn dod â phobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a sefydliadau ynghyd i archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer symudedd rhyngwladol, cydweithredu a chyfranogiad ieuenctid drwy Erasmus+.

Rydym yn falch iawn y bydd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol yn ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn.

Bydd y diwrnod yn cyflwyno rhaglen Erasmus+ Ieuenctid a'r cymorth sydd ar gael drwy Hwb Erasmus+ Ieuenctid Cymru, a ddarperir gan Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS), gyda sesiynau gwybodaeth penodol ar Gyfnewidiadau Ieuenctid, Symudedd Gweithwyr Ieuenctid, Gweithgareddau Cyfranogiad Ieuenctid, DiscoverEU Cynhwysiant a Phartneriaethau Cydweithredu (KA2).


P'un a ydych yn gwbl newydd i Erasmus+ neu eisoes yn ystyried eich prosiect nesaf, dyma gyfle i gael gwybodaeth, rhannu eich syniadau a chysylltu ag eraill ar draws y sector ieuenctid yng Nghymru.