Paratoi i wneud cais i raglen Erasmus+
Pa sefydliadau sy’n gymwys ar gyfer cyllid Erasmus+?
Y camau i’w cymryd wrth baratoi ar gyfer eich taith Erasmus+.
Sut ydw i’n paratoi ar gyfer Erasmus+?
Os ydych chi’n newydd i Erasmus+, neu ddim yn siwr eto os taw dyma’r rhaglen i chi, dyma rai camau defnyddiol i ddechrau’r broses:
- Ymunwch ag un o’n gweminarau am ddim, neu gwyliwch recordiad o sesiwn sydd wedi digwydd yn barod – i ddarganfod mwy am y rhaglen. Gall bori drwy’r gweminarau sydd ar y gweill a gwylio recordiadau yma: https://www.erasmusplus.org.uk/cy/digwyddiadau
- Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf am bob agwedd o Erasmus+ gan Asiantaeth Genedlaethol y DU.
- Dilynwch Erasmus+ UK ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, LinkedIn a X.
- Cymerwch olwg ar brosiectau blaenorol i gael blas o’r hyn sy’n bosibl, a’r hyn y gallech chi ei wneud.
- Ffeindiwch ddarpar bartneriaid o’r tu hwnt i’r DU yr hoffech weithio â nhw, a dechrau cynllunio prosiect ar y cyd.
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Mae cyllid grant ar gael ar gyfer lleoliadau a phartneriaethau rhyngwladol i sefydliadau yn y DU sy’n gweithio ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon.
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am gyllid gan unrhyw sefydliad cymwys sy’n gweithio ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid, a chwaraeon. Er enghraifft, prifysgolion, colegau, ysgolion a cholegau, grwpiau ieuenctid neu glybiau chwaraeon.
Am wybodaeth fwy manwl, cymerwch olwg ar y tudalennau sy’n amlinellu’r cyfleodd sydd ar gael ar gyfer y sector sy’n berthnasol i chi.
Ydych chi’n chwilio am wybodaeth am sut i gofrestru grŵp anffurfiol o bobl ifanc? Bydd mwy o wybodaeth gyda ni am hyn yn fuan.
Dyddiadau Pwysig
Dyddiad | Gweithgaredd |
|---|---|
Tachwedd 2026 | Cyfnod ymgeisio am gyllid grant Erasmus+ yn agor |
11 Chwefror 2027 (11am, amser y DU) | Dyddiad cau i geisiadau ar gyfer prosiectau symudedd ieuenctid a chwaraeon (Cam Gweithredu Allweddol 1) |
18 Chwefror 2027 (11am, amser y DU) | Dyddiad cau i geisiadau ar gyfer grantiau symudedd i sefydliadau addysg uwch, darparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, addysg oedolion, ac ysgolion (Cam Gweithredu Allweddol 1) |
9 Mawrth 2027 (11am, amser y DU) | Dyddiad cau ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau am grantiau partneriaeth (Cam Gweithredu Allweddol 2) |
Mai – Awst 2027 | Hysbysu ymgeiswyr am ganlyniadau’r broses |

Gwneud Cais
Mwy o wybodaeth am sut i gofrestru, paratoi eich cais a’i gyflwyno

Awgrymiadau ar gyfer datblygu prosiect
Awgrymiadau defnyddiol gan bobl sydd wedi bod yn llwyddiannus o’r blaen

Angen help?
Cysylltu â thîm Asiantaeth Genedlaethol y DU

Cynhwysiant ac Amrywiaeth
Mae Erasmus+ am sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i gymryd rhan yn ein holl raglenni drwy ddileu rhwystrau i gyfranogwyr sydd â llai o gyfleoedd, a rhoi cefnogaeth i sefydliadau greu amgylcheddau dysgu cynhwysol a hygyrch ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid, a chwaraeon.