Person yn dal pen a phapur yn gweithio mewn gweithdy.

Sut i wneud cais am grant Erasmus+

Mae Erasmus+ ar agor nawr! Gall sefydliadau yn y DU wneud cais am gyfran o werth dros £400 miliwn o grantiau.

Mae’r tudalennau hyn yn eich tywys drwy gamau gwneud cais, rhannu dolenni i gofrestru a gwybodaeth am feini prawf cymhwysedd, dolen i ganllaw rhaglen 2027, ac awgrymiadau am sut i ffeindio partner a chynllunio prosiect.

Os oes gennych unrhyw broblemau neu os oes angen mwy o help arnoch, cysylltwch â thîm Asiantaeth Genedlaethol y DU yma. Rydyn ni yma i helpu sefydliadau’r DU fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i newid bywydau mae rhaglen Erasmus+ yn eu cynnig.

Croeso i ddechrau eich taith Erasmus+!

Canllaw Rhaglen 2027

Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cael ei gyhoeddi’n flynyddol gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’n esbonio sut mae’r rhaglen gyllido’n gweithio, disgrifio’r math o weithgareddau sy’n gymwys, ac amlinellu’r broses ymgeisio. Gallwch ddarllen Canllaw Rhaglen 2027 ar-lein neu eu lawrlwytho fel pdf . 

Dros yr wythnosau nesaf bydd Asiantaeth Genedlaethol y DU yn cyhoeddi cyfres o lawlyfrau i helpu sefydliadau lywio’u ffordd drwy Ganllaw’r Rhaglen. Byddant hefyd yn cynnal gweminarau i helpu sefydliadau wrth iddynt weithio drwy’r Canllaw Rhaglen a pharatoi eu ceisiadau. Cymerwch olwg ar y digwyddiadau sydd ar gael.

A chofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i gael gwybod pan fydd y llawlyfrau ar gael.

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad

Digwyddiad

Tachwedd 2026

Galwad am geisiadau am gyllid Erasmus+ yn agor

Chwefror / Mawrth 2027

Dyddiad Cau i geisiadau am gyllid

Mehefin - Awst 2027

Cyhoeddi canlyniadau’r broses

Grŵp o bobl sy'n gwenu, o wahanol oedrannau a rhywiau, mewn swyddfa

Angen help? 

Cysylltu â thîm Asiantaeth Genedlaethol y DU

A group of professional people in conversation at an event

Gweminarau am ddim 

Os ydych yn newydd i’r broses neu’n ymgeisydd profiadol – mae gyda ni weminarau i bawb

Mae dau gydweithiwr yn sgwrsio'n fywiog mewn cyntedd swyddfa fodern

Awgrymiadau ar gyfer datblygu prosiect 

Awgrymiadau defnyddiol gan bobl sydd wedi bod yn llwyddiannus o’r blaen