Cynhwysiant ac Amrywiaeth yn rhaglen Erasmus+
Mae Erasmus+ am sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i gymryd rhan yn ein holl raglenni drwy ddileu rhwystrau i gyfranogwyr sydd â llai o gyfleoedd, a rhoi cefnogaeth i sefydliadau greu amgylcheddau dysgu cynhwysol a hygyrch ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid, a chwaraeon.
Blaenoriaeth rhaglen Erasmus+
I wneud hynny, mae Erasmus+ yn cynnig opsiynau hyblyg, cyllid pwrpasol, a chyngor a chefnogaeth i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu manteisio ar gyfleoedd y rhaglen i agor drysau newydd. Rydyn ni’n awyddus iawn i gefnogi pobl sy’n wynebu amrywiaeth o wahanol rwystrau, yn ogystal â’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw.
Mae cynhwysiant ac amrywiaeth yn flaenoriaethau allweddol i lywodraethau datganoledig y DU wrth iddyn nhw weithio i dorri’r cysylltiad rhwng cefndir pobl a’u cyfleoedd i lwyddo.
Mae’n bwysig fod sefydliadau’n meddwl am gynhwysiant mor eang â phosibl — gan ymgysylltu â’u cymunedau, cynllunio prosiectau cynhwysol, ac ystyried rhwystrau ac anghenion cymorth o gam cynllunio cyntaf unrhyw brosiect arfaethedig.
Mae rhwydwaith SALTO-Youth (Support, Advanced Learning and Training Opportunities for Youth) yn rhan o Strategaeth Hyfforddi’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae’n cefnogi cynhwysiant pobl ifanc sydd â llai o gyfleoedd mewn prosiectau ieuenctid rhyngwladol, yn ogystal â helpu gweithwyr ieuenctid feithrin sgiliau i ddelio â phob math o amrywiaeth.
Dyma rai adnoddau dysgu anffurfiol defnyddiol gan SALTO-Youth:
Canllawiau Addysgu a Dysgu Cynhwysol SALTO
SALTO-YOUTH - Cynhwysiant ac Amrywiaeth
Pa gyllid ychwanegol sydd ar gael ar gyfer pobl sydd â llai o gyfleoedd?
Mae Erasmus+ yn defnyddio’r term ‘pobl sydd â llai o gyfleoedd’ i ddisgrifio unigolion sy’n wynebu rhwystrau neu heriau sy’n ei gwneud yn anoddach iddyn nhw fanteisio ar gyfleoedd rhyngwladol. Gall y rhwystrau hynny fod yn gysylltiedig ag anabledd neu gyflwr iechyd, amgylchiadau ariannol, heriau addysgol, cyfrifoldebau gofalu, ethnigedd, diwylliant, iaith, daearyddiaeth, gwahaniaethu, cefndir teuluol, neu nifer o ffactorau eraill. Nid yw’r rhwystrau sy’n atal person rhag gallu manteisio ar gyfleoedd rhyngwladol bob amser yn amlwg, ac mae’n bosibl y gall person fod yn wynebu sawl rhwystr ar yr un pryd.
Mae cyllid ychwanegol ar gael i bobl sydd â llai o gyfleoedd. Mae hynny’n cynnwys pobl sy’n ofalwyr di-dal, pobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd llai breintiedig, a phobl sy’n wynebu rhwystrau daearyddol fel byw mewn ardaloedd anghysbell neu wledig.
Gal cymorth yn seiliedig ar gostau go iawn dalu am anghenion ychwanegol, fel addasiadau ar gyfer teithio, llety, gofal plant, neu gymorth personol.
Pa fath o opsiynau hyblyg sydd ar gael?
Nod Erasmus+ yw ei gwneud hi’n haws i bobl sydd â llai o gyfleoedd gael mynediad i’r rhaglen ac elwa ohoni. Mae hynny’n cynnwys: symudeddau hyblyg a byr (fel y gall pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu neu ariannol gymryd rhan); rhaglenni addysg uwch dwys sy’n cyfuno dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein; cyllid ar gyfer ymweliadau cwmpasu ymlaen llaw i gael darlun o amgylchedd y symudedd arfaethedig, a’r gefnogaeth sydd ar gael yno; a chyllid ar gyfer cymorth iaith.
Mae camau Gweithredu Cynhwysiant DiscoverEU yn rhaglen sy’n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc (rhwng 18-21 oed) sydd â llai o gyfleoedd i gynllunio a theithio i Ewrop.
Nod y Partneriaethau graddfa fach ar gyfer cydweithredu sydd ar gael o dan Gam Gweithredu 2 Erasmus+ yw ei gwneud yn haws i fwy o sefydliadau llawr gwlad a chymunedol, sydd efallai â chapasiti cyfyngedig, i gymryd rhan yn y rhaglen.
Beth sydd angen i mi ei ystyried i sicrhau bod fy mhrosiect yn gynhwysol?
Mae Erasmus+ yn gwybod fod talent, potensial, ac uchelgais i’w gael ym mhobman, ond nad yw hi bob amser yr un mor hawdd i bawb gael mynediad at gyfleoedd.
Fel Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+, bydd y British Council yn eich helpu i ystyried anghenion eich cyfranogwyr o ran cynhwysiant ac amrywiaeth. Gallwn gynnig arweiniad ar: sut i geisio am gyllid ychwanegol gan Erasmus+ i ddileu rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan yn eich prosiect; cynllunio eich prosiect gyda golwg ar nodau cynhwysol, a chyrraedd cymunedau sydd heb gael yr un cyfleoedd; a’ch helpu i greu profiadau rhyngwladol ystyrlon sy’n adlewyrchu amrywiaeth y DU.
Yn eich cais, dylech ddangos pa gamau rydych yn bwriadu eu cymryd a’r cyllid ychwanegol sydd ei angen arnoch i sicrhau bod eich prosiect yn hygyrch ar gyfer pob un o’ch cyfranogwyr.
Beth yw’r diffiniad o ‘bobl sydd â llai o gyfleoedd’?
Ddim yn siwr os yw ‘pobl sydd a llai o gyfleoedd’ yn berthnasol i chi neu’ch cyfranogwyr? Mae’r diffiniad yn eang – yn fwriadol felly. Gall pobl sydd â llai o gyfleodd fod yn wynebu rhwystrau’n ymwneud ag un neu fwy o’r canlynol:
- Anabledd. Cyflwr iechyd hirdymor, neu gyflwr iechyd meddwl
- Anfantais cymdeithasol-economaidd, neu rwystrau ariannol
- Rhwystrau ym maes addysg neu lefelau is o lwyddiant addysgol
- Ethnigedd, hil, cefndir diwylliannol, neu brofiad o wahaniaethu
- Rhwystrau ieithyddol
- Byw mewn cymunedau gwledig, anghysbell, arfordirol, neu gymunedau llai breintiedig lle mae gwasanaethau a chyfleoedd yn brin
- Mudwyr, ffoaduriaid, neu geiswyr lloches
- Dyletswyddau gofalu am berson arall
- Amgylchiadau teuluol neu eithrio cymdeithasol
- Rhywedd, hunaniaeth rhywedd, neu gyfeiriadedd rhywiol
- Crefydd neu gredo
- Amgylchiadau personol, cymdeithasol, neu amgylcheddol eraill sy’n ei gwneud hi’n anodd cymryd rhan.
Os yw eich sefydliad yn gweithio gyda phobl sy’n wynebu’r rhwystrau hyn neu rwystrau eraill, gall Erasmus+ gynnig cymorth ychwanegol i’ch helpu i greu cyfleodd cynhwysol ac ystyrlon i bobl gymryd rhan mewn symudedd rhyngwladol. Gallwch wneud cais hefyd am gyllid ar gyfer partneriaethau cydweithredu sy’n canolbwyntio ar eich blaenoriaethau cynhwysiant ac amrywiaeth. Bydd angen nodi'r gofyniad am gyllid hwn yn glir yn eich cais.
Pa fath o gymorth sydd ar gael ar gyfer symudedd rhyngwladol?
O ran prosiectau symudedd rhyngwladol (h.y. prosiectau sy’n cael eu cyllido dan drefn Cam Gweithredu 1), mae dau fath o gymorth cyllidol i hybu cynhwysiant ar gael:
- Cymorth Cynhwysiant i Gyfranogwyr: Mae hwn ar gael ar gyfer pob un o chwe sector y rhaglen. Gellir defnyddio’r cyllid yma i dalu am 100% o gostau ychwanegol cymwys sydd eu hangen arnoch i sicrhau bod pobl yn gallu cymryd rhan. Pwrpas y cymorth yma yw delio ag anghenion penodol a fyddai fel arall yn atal pobl rhag cymryd rhan. Gall hyn gynnwys:
- costau teithio ychwanegol, er enghraifft i gyfranogwyr sy’n byw mewn lleoliad daearyddol anghysbell
- costau trefniadau teithio hygyrch
- gwasanaethau cefnogaeth arbenigol
- gweithwyr cymorth neu ofalwyr / cymdeithion
- costau gofal plant neu ddibynyddion
- offer arbenigol
- anghenion meddygol neu ofynion yn ymwneud ag iechyd
- cyfarpar neu ddillad angenrheidiol ar gyfer cyrsiau hyfforddiant
- cymorth teithio – ar gyfer pethau fel bagiau, pasbortau, fisas
- costau rhesymol eraill sy’n gysylltiedig ag amgylchiadau person.
Mae ceisiadau am gymorth ychwanegol yn cael eu hasesu fesul achos gan yr Asiantaeth Genedlaethol. Ein nod yw bod yn hyblyg wrth ymateb i anghenion unigol. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw gyfranogwr, gan gynnwys dysgwyr a staff.
- Cymorth Cynhwysiant i Sefydliadau: Mae’r cyllid yma’n cydnabod yr ymdrech ychwanegol sydd ei angen i gefnogi cyfranogwyr sydd â llai o gyfleoedd. Mae’r cymorth yma ar gael i’r holl sectorau sy’n cymryd rhan. Pwrpas y cyllid yma yw helpu sefydliadau i feithrin a darparu prosiectau symudedd mwy cynhwysol a sicrhau nad yw’r angen i ddarparu cymorth ychwanegol yn rhwystro pobl rhag cymryd rhan. Ar gyfer Addysg Uwch, mae’r cyllid ychwanegol yma ar gael ar sail cost uned - ar gyfer yr holl gyfranogwr sy’n gymwys i gael cymorth cynhwysiant i unigolion.
Yn y sector Addysg Uwch, mae myfyrwyr a hyfforddeion sydd â llai o gyfleoedd hefyd yn gymwys i geisio am grantiau ychwanegol addysg uwch i fyfyrwyr a hyfforddeion (300,167 beit). Mae’r grant yma ar gael i fyfyrwyr addysg uwch a myfyrwyr graddedig cymwys sy’n cymryd rhan mewn symudedd Erasmus+. Nid yw’r grant yma ar gael i staff. Mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y grantiau ychwanegol hyn yn cael eu pennu’n genedlaethol, i adlewyrchu cyd-destun a blaenoriaethau penodol y gwledydd sy’n cymryd rhan yn Erasmus+.
Mae ein huchelgais yn syml: sicrhau bod Erasmus+ yn hybu cynhwysiant ac amrywiaeth ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid, a chwaraeon yn y DU a sicrhau bod pobl o bob cefndir, beth bynnag yw’r rhwystrau sy’n eu hwynebu, yn gallu manteisio’n llawn ar gyfleoedd i ddysgu, gweithio, cysylltu, a chydweithredu gydag Ewrop a thu hwnt.
Darllenwch ein strategaeth Cynhwysiant ac Amrywiaeth. (1.03 MB)