Sesiwn Ffeindio Ysgol Bartner Erasmus+ (Y DU ac Ewrop)

Sesiynau ar gael

  • Dyddiad: Hydref 1
  • Dyddiad: Hydref 15

Bydd y sesiwn ar-lein ryngweithiol yma’n dod ag ysgolion cynradd, uwchradd, ac ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol o’r DU ac Ewrop sydd â diddordeb mewn creu partneriaethau at ei gilydd, gyda golwg ar yr alwad am geisiadau o’r DU ar gyfer Erasmus+ 2027.

Byddwn yn canolbwyntio ar edrych ar syniadau ar gyfer prosiectau Cam Allweddol 1. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y broses, gan ddefnyddio astudiaeth achos i ddangos ffyrdd ymarferol o gynllunio, datblygu, a chynnal prosiect cydweithredu rhyngwladol ystyrlon.

Mae hon yn sesiwn i ysgolion sydd am ddechrau meithrin partneriaethau rhyngwladol cynhwysol cryf yn gynnar, a datblygu syniadau am brosiectau ansawdd uchel ar y cyd, yn barod ar gyfer galwad 2027. Mae’r sesiwn yn cael ei chynnal gan y British Council, sef Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+.


Ar gyfer pwy mae’r sesiwn yma?

  • Ysgolion o’r DU ac Ewrop sydd am ffurfio partneriaeth
  • Sefydliadau sydd â diddordeb yng Ngham Gweithredu 1(KA1) a Cham Gweithredu 2 (KA2)


Noder mai yn Saesneg y cynhelir y sesiwn yma.

Sesiwn Ffeindio Ysgol Bartner Erasmus+ (Y DU ac Ewrop)

Dyddiad: Dydd Iau, 1 Hydref, 16:30 - 17:30 GMT+1

Math o ddigwyddiad: Ar-lein

Dyddiad: Dydd Iau, 15 Hydref, 16:30 - 17:30 GMT+1

Math o ddigwyddiad: Ar-lein