
Mynd â thalent y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth: Myfyrwyr Diploma Rhagoriaeth Chwaraeon yn ffeindio’u traed yn Tenarife
Rhoddodd ymweliad pythefnos i Sbaen gyfle i athletwyr ifanc talentog o gefndiroedd llai breintiedig o Goleg South Gloucestershire and Stroud (SGS) i fagu hyder, cael profiad gwaith byd go-iawn, a datblygu sigliau parod ar gyfer gyrfa wrth iddynt gasglu tystiolaeth werthfawr ar gyfer eu cymhwysterau Diploma Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (DiSE).
Gwledydd a gymerodd ran: | Lloegr, Sbaen |
|---|---|
Cyfnod: | 2019 - 2022 |
Cyllid: | €191,118.00 |
Math o brosiec: | Symudedd Hyfforddiant ac Addysg Galwedigaethol (VET) i ddysgwyr a staff |
Cefndir
I athletwyr ifanc a dawnus, mae cyrraedd lefel elît yn galw am ymroddiad, disgyblaeth, a gwytnwch. Ond yn aml, nid yw talent yn unig yn ddigon i sicrhau eich bod yn cael cyfle cyfartal i ddatblygu eich llawn botensial.
Nod prosiect Coleg SGS oedd rhoi cyfle i fyfyrwyr dawnus ond llai breintiedig oedd yn astudio ar gyfer Diploma Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (DiSE) yn y coleg i gyfuno eu datblygiad fel athletwyr elît â phrofiad gwaith go iawn, dysgu diwylliannol, a thwf personol mewn amgylchedd rhyngwladol.
Cafodd y fenter ei chynnal gyda chymorth cyllid grant symudedd Erasmus+, ac mewn partneriaeth ag Academi Ryngwladol FU yn Tenarife. Roedd y lleoliad pythefnos yma’n cynnig amgylchedd diogel, strwythuredig, a heriol, lle gallai myfyrwyr ddatblygu sgiliau hyfforddi, cyfathrebu, ac arweinyddiaeth, yn ogystal â magu annibyniaeth a meithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol.
Amcanion
I bobl ifanc sy'n ceisio cydbwyso astudio academaidd â gofynion chwaraeon elît, roedd y lleoliad pythefnos yn Tenerife yn cynnig rhywbeth gwahanol. Roedd y myfyrwyr yn hyfforddi a mentora plant mewn ysgolion lle’r oedd adnoddau’n brin, gan ennill profiad ymarferol gwerthfawr wrth gasglu tystiolaeth asesu byd go iawn tuag at eu cymhwyster DiSE - yn ogystal â pharhau â'r hyfforddiant sy’n angenrheidiol ar gyfer llwybr perfformiad elît yn Lloegr.
Roedd y prosiect yn edrych y tu hwnt i chwaraeon hefyd. Gan mai cyfran fach o athletwyr fydd yn llwyddo i gael gyrfa ym myd chwaraeon proffesiynol, roedd SGS am roi cyfle i’r myfyrwyr edrych ar bosibiliadau a chyfleoedd ehangach mewn meysydd fel hyfforddi a gwyddor chwaraeon, addysg, rheoli, ac agweddau eraill o’r sector chwaraeon.
Yn ogystal ag ennill profiad gwaith ymarferol, bu’r myfyrwyr yn hyfforddi gyda hyfforddwyr profiadol ac athletwyr eraill – gan gynnwys sesiynau hyfforddiant ar uchder ar Mount Teide. Cawsant gyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel CrossFit, tenis padel, a gwersi iaith Sbaeneg yn ogystal â gweithgareddau diwylliannol gan gynnwys dawnsio salsa a flamenco, coginio Sbaenaidd, a syllu ar y sêr.
Rhoi’r prosiect ar waith
Mae llwyddiant y prosiect yma wedi’i seilio ar bartneriaeth gadarn. Mae Coleg SGS ac Academi Ryngwladol FU wedi bod y gweithio gyda’i gilydd ers dros 17 mlynedd, gan feithrin cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol, a chreu amgylchedd diogel a strwythuredig i bobl ifanc ffynnu ynddo.
Cafodd y myfyrwyr gefnogaeth gan staff Academi Ryngwladol FU drwy gydol y lleoliad. Fe wnaethon nhw ddarparu gwersi Sbaeneg, hebrwng grwpiau i weithgareddau, a chynnig help gyda materion ieithyddol, diwylliannol, a lles. Mae’r berthynas hirdymor yma’n golygu fod y prosiect yn gallu cynnig profiad ymarferol o weithle go iawn i’r myfyrwyr, yn hytrach nag ymweliad astudio’n unig.
Dysgodd y myfyrwyr sut i edrych yn feirniadol ar eu perfformiad eu hunain, rhoi adborth adweithiol i eraill, a gwella eu dulliau hyfforddi ar gyfer y dyfodol. Bydd y rhain yn sgiliau amhrisiadwy ym myd chwaraeon elît ac mewn amgylcheddau gwaith proffesiynol yn y dyfodol, lle mae'r gallu i ystyried, addasu, ac ymateb yn gadarnhaol i adborth yn hanfodol. Drwy greu eu llyfrau gwaith lleoliad unigol eu hunain, roedd y myfyrwyr yn gallu olrhain eu cynnydd a’u llwyddiannau yn ogystal â nodi meysydd lle’r oedd angen gwelliant.
Trwy fanteisio ar gyfuniad o sesiynau myfyriol dyddiol, cefnogaeth barhaus, ac asesiad cyson gan staff profiadol, fe ddysgodd y myfyrwyr i weld a deall eu twf a’u datblygiad eu hunain. Roedd y dull gweithio yma’n rhoi cyfleoedd gwych i’r myfyrwyr gasglu tystiolaeth ar gyfer unedau cwrs y Diploma Rhagoriaeth mewn Chwaraeon sy’n cwmpasu hyfforddi, cyfathrebu, gwerthoedd, ffordd o fyw, gosod nodau, iechyd a diogelwch, a rheoli risg.
Canlyniadau ac effaith
Roedd canlyniadau’r prosiect yn dipyn mwy cynhwysfawr na chasglu tystiolaeth ar gyfer gwaith cwrs yn unig. Dychwelodd y myfyrwyr gyda mwy o hyder, annibyniaeth, gwytnwch, a hunan-ymwybyddiaeth.
Roedd hyfforddi plant o wahanol gefndiroedd yn heriol. Bu’n rhaid i’r myfyrwyr addasu eu dulliau hyfforddi, ffeindio ffyrdd o gyfathrebu’n glir a hyderus, a datblygu atebion creadigol i ateb gofynion plant o wahanol alluoedd mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddau dysgu. Cryfhaodd y profiadau hyn eu sgiliau arweinyddiaeth a chyfathrebu - sgiliau eithriadol o werthfawr, nid yn unig ym myd chwaraeon ond hefyd ar gyfer byd gwaith yn gyffredinol yn y dyfodol.
Wrth fod dramor, roedd yn rhaid i’r myfyrwyr wthio eu hunain y tu hwnt i’r hyn oedd yn gyfarwydd iddynt. Wrth ddefnyddio Sbaeneg, gweithio gyda phlant lleol, a dod i arfer â diwylliant gwahanol bu’n rhaid iddyn nhw addasu a dod yn fwy hyblyg ac agored eu meddwl, yn ogystal â thyfu’n fwy annibynol.
Mae’r profiad hefyd wedi helpu’r myfyrwyr i fagu mwy o hunan-ddisgyblaeth, gwytnwch, a'r gallu i ddelio â sawl peth ar unwaith. Mae’r her o gydbwyso’r profiad gwaith gyda’u hastudiaethau coleg a’u hyfforddiant chwaraeon elît wedi gwella eu sgiliau rheoli amser a gwella eu gallu i drefnu, gosod, a chyrraedd nodau personol. Mae’r myfyrwyr wedi dysgu mwy amdanynt eu hunain ac am bwysigrwydd hunan-gymhelliant a gwytnwch, a sut i ddelio â heriau a dal ati dan bwysau.
Y peth mwyaf gwerthfawr i’r myfyrwyr oedd cael cyfle i hyfforddi mewn amgylchedd chwaraeon elît wrth ochr cyd-athletwyr cenedlaethol a rhyngwladol, a chael arweiniad a chefnogaeth gan hyfforddwyr a mentoriaid profiadol.
I athletwyr ifanc sydd wedi ymrwymo’n llwyr i gynrychioli Lloegr ar y llwyfan rhyngwladol, roedd y profiad yn gyfle amhrisiadwy i ddysgu’n uniongyrchol gan arbenigwyr mewn amgylchedd wedi’i greu’n unswydd i sicrhau’r datblygiad athletaidd gorau posibl.
Effaith barhaol
Efallai mai llwyddiant mwyaf y prosiect oedd helpu’r myfyrwyr i weld eu hunain fel mwy nag athletwyr. Cawsant brofiad o waith go iawn, cyfle i gasglu tystiolaeth ar gyfer eu gwaith cwrs, cyfle i ddatblygu sgiliau addasadwy at sawl pwrpas, a chyfle hefyd i ystyried llwybrau gyrfa posibl sydd ar gael iddyn nhw pan fydd eu hamser yn y byd chwaraeon cystadleuol yn dirwyn i ben.
Drwy’r cyfuniad o ddatblygiad athletaidd, profiad gwaith, trochiad diwylliannol, myfyrio a hunan-asesu, cafodd y myfyrwyr gyfle i fanteisio ar brofiad dysgu gwirioneddol drawsnewidiol. Fel mae myfyrwyr blaenorol wedi disgrifio’r trip a’r lleoliad; roedd “yn brofiad unwaith mewn oes”.
I Goleg SGS, roedd y prosiect hefyd yn dangos yn glir mor werthfawr yw symudedd rhyngwladol fel ffordd o hybu dysgu drwy brofiad. Mae'r neges i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i raglen Erasmus+ yn syml: rhowch amser i gynllunio’n ofalus, dewiswch fyfyrwyr a staff ymroddedig, gofalwch gynnwys rhieni a gofalwyr o'r cychwyn cyntaf, a gwnewch yn siwr bod cysylltiad agos rhwng cyfleoedd symudedd, cymwysterau perthnasol, a nodau gyrfa’r cyfranogwyr. Drwy hynny, gall symudeddau rhyngwladol feithrin hyder drwy gynnig cyfleoedd a phrofiadau i bobl ifanc a fydd yn aros gyda nhw am weddill eu hoes.
I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.