Hyfforddwyr crefftau ymladd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn

Roedd sefydliad crefftau ymladd Voimisteluseura Keski-Uusimaa ry yn Tuusula yn y Ffindir eisiau cynnig hyfforddiant crefftau ymladd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Ond doedd dim grwpiau na hyfforddwyr crefftau ymladd cadair olwyn addas ar gael yn unman yn y rhanbarth. Drwy weithio gyda phartneriaid rhyngwladol, cafodd pedwar o hyfforddwyr eu hyfforddi, ac fe ddatblygodd y sefydliad ganllaw ymarferol i hyfforddwyr ar gyfer y dyfodol. Gosododd hyn y seiliau ar gyfer rhaglen hyfforddi hygyrch ac achrededig y gellid ei rhoi ar waith ledled y Ffindir ac Ewrop.

Gwledydd a gymeroodd ran:

Y Ffindir, Sweden, Yr Almaen

Cyfnod:

2024-25

Cyllid:

€14,230

Math o brosiect:

Symudeddau i Hyfforddwyr a Staff Chwaraeon

Cefndir

I lawer, mae crefftau ymladd yn dipyn mwy na ffordd o ddysgu ymladd yn unig. Mae’n ffordd o fagu hyder a meithrin annibyniaeth, ffitrwydd corfforol, ac ymdeimlad o berthyn. Ond i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, mae ffeindio cyfle i ymarfer crefftau ymladd yn gallu bod yn eithriadol o anodd.

Yn ne-orllewin y Ffindir, doedd dim grŵp crefftau ymladd ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn unman. Ac roedd cyfleodd yn y maes y brin iawn yng ngweddill y wlad hefyd, gyda nifer fach iawn o ymarferwyr unigol yn hyfforddi mewn clybiau yma a thraw. Ac roedd bwlch arall yn y ddarpariaeth; doedd dim rhaglen ffurfiol i hyfforddwyr crefftau ymladd oedd am hyfforddi defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Gwnaeth y sefydliad gais i Erasmus+ am gyllid i’w helpu i newid y sefyllfa.

Amcanion

Prif amcan y prosiect oedd datblygu’r gronfa o sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol i sefydlu grwpiau crefftau ymladd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn lleol; a thrwy hynny, yn y pendraw, y bwriad oedd creu model hyfforddi y gellid ei rannu gyda chlybiau a hyfforddwyr ledled y Ffindir ac Ewrop.

Roedd datblygu rhaglen hyfforddi i hyfforddwyr yn rhan allweddol o’r prosiect. Roedd angen gwneud mwy na dysgu am lond llaw o addasiadau ar hap i hyfforddwyr. Roedd angen creu strwythur a dull gweithredu proffesiynol ar gyfer crefftau ymladd cadair olwyn.

Rhoi’r prosiect ar waith

Aeth tîm y prosiect ar ddau ymweliad â chlybiau partner dramor i gael profiad ymarferol a dysgu gan sefydliadau oedd eisoes yn gweithio ym maes addasu crefftau ymladd.

Yn ystod yr ymweliad cyntaf, â Lund yn Sweden, cymerodd y tîm ran yng nghymal cyntaf rhaglen i hyfforddwyr Crefftau Ymladd o Bob Dull (MAAS). Roedd y rhaglen yn cyfuno theori hyfforddi a dulliau dysgu ymarferol. Cafodd yr hyfforddwyr gyfle i edrych ar wahanol ddulliau dysgu, addysgeg, hunan-ddatblygiad, a dulliau asesu. Cawsant gyfle i weld a defnyddio enghreifftiau go iawn i ddysgu a deall am addasu dulliau hyfforddi crefftau ymladd.

Aeth y tîm i’r Almaen ar gyfer yr ail ymweliad. Yno, roedd crefftau ymladd cadair olwyn a hunan-amddiffyn yn rhan o’r hyfforddiant. Profodd yn gyfle gwerthfawr i ddysgu am gadeiriau olwyn, ystyriaethau iechyd, a’r gwahanol ffyrdd y gall anableddau a chyflyrau meddygol effeithio ar symudiad corfforol.

Roedd profiadau ymarferol yr ymweliadau hyn yn arbennig o bwysig. Treuliodd y tîm bron i dridiau’n hyfforddi a symud o gwmpas mewn cadeiriau olwyn. Rhoddodd hyn gyfle iddynt brofi crefftau ymladd o safbwynt defnyddwyr cadeiriau olwyn, gan gynnwys sut i symud, hyfforddi, ymladd, ac amddiffyn eu hunain.

Canlyniadau ac effaith

Daeth pwysigrwydd cyfleusterau ac offer yn amlwg iawn drwy’r prosiect. O ganlyniad, daeth staff clybiau crefftau ymladd yn llawer mwy ymwybodol o’r trefniadau ymarferol sydd eu hangen i sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi crefftau ymladd yn wirioneddol hygyrch.

Nod hirdymor y fenter yw troi’r holl wybodaeth a’r gwersi a ddysgwyd yn rhaglen hyfforddi achrededig i hyfforddwyr crefftau ymladd cadair olwyn. Bydd achrediad ffurfiol yn sicrhau bod hyfforddwyr yn derbyn hyfforddiant cyson. Drwy hynny, gall dysgwyr fod yn hyderus fod eu hyfforddwyr wedi bodloni gofynion safon hyfforddi swyddogol.

Bydd yr elfen theori yn rhan o’r rhaglen hyfforddi hefyd, drwy gwrs ar-lein. Bydd y darpar hyfforddwyr yn cwblhau’r cwrs yma cyn symud ymlaen i gyflawni hyfforddiant ymarferol, gan sicrhau bod cael mynediad i’r rhaglen yn rhwydd - o unrhyw ran o’r wlad.

Ac mae gan y fenter weledigaeth hirdymor ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn sydd am hyfforddi hefyd. Wrth iddyn nhw symud drwy system raddio crefftau ymladd, bydd cyfle iddyn nhw ddod yn hyfforddwyr cynorthwyol, ac ymhen amser yn hyfforddwyr llawn. Bydd hyn yn creu llwybr i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a rhoi cyfle iddynt gymryd yr un cyfleoedd a chyfrifoldebau a’r dysgwyr eraill.

Mae’r prosiect eisoes wedi cyflawni’r amcanion a osodwyd ar y dechrau.

Bellach, mae pedwar o hyfforddwyr yn gymwys i hyfforddi crefftau ymladd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac i hyfforddi hyfforddwyr ychwanegol. Nawr, mae gan y clwb gronfa o wybodaeth ac arbenigedd i sefydlu grwpiau crefftau ymladd a chynnal cyrsiau hunan-amddiffyn i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Hefyd, mae canllaw ysgrifenedig ar gael i hyfforddwyr. Mae cynlluniau ar y gweill i’w gyhoeddi fel llyfr ac ar ffurf cwrs ar-lein.

Ond efallai’n bwysicach oll, mae’r prosiect wedi gosod seiliau i sicrhau bod crefftau ymladd cadair olwyn yn gallu tyfu’r tu hwnt i un clwb neu ranbarth. Mae’r sefydliad yn bwriadu parhau i rannu ei gronfa o wybodaeth ac arbenigedd gyda chlybiau a hyfforddwyr eraill, a chefnogi mentrau cydweithio rhyngwladol.

Mae’r prosiect yn dangos yr hyn sy’n bosibl drwy fabwysiadu dull gweithredu ymarferol a chydweithredol. Mae’n helpu i chwalu rhwystrau, datblygu hyfforddwyr newydd, a rhoi cyfle go iawn i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ymarfer crefftau ymladd, meithrin annibyniaeth, a dod yn rhan o’r gymuned grefftau ymladd ehangach.

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.

Hyfforddwyr crefftau ymladd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn | Erasmus +