
Prosiect Shanarani Dan Arweiniad Pobl Ifanc
Mae stereoteipiau rhywedd yn siapio ein bywydau o gyfnod cynnar gan ein bod yn cael ein geni i gymdeithas sy’n llawn disgwyliadau, syniadau, a strwythurau sy’n effeithio a dylanwadu ar ein bywydau. Gan gweithio gyda phobl ifanc o’r DU, Gwlad Groeg, Yr Eidal, Rwmania a Sbaen, nod Prosiect Shanarani Dan Arweiniad Pobl Ifanc oedd herio’r drefn bresennol.
Gwledydd a gymerodd ran: | Gwlad Groeg, Yr Eidal, Rwmania, Sbaen, Y DU |
|---|---|
Cyfnod: | 2020-22 |
Cyllid: | €198,758 |
Math o brosiect: | Partneriaeth Strategol ar gyfer Ieuenctid |
Cefndir
Datblygodd y Prosiect Shanarani Dan Arweiniad Pobl Ifanc yma o’r hyn a ddysgwyd drwy brosiect Shanarani cynharach yn 2017. Roedd ein man cychwyn yn syml: os ydyn ni eisiau newid sy’n mynd i bara, rhaid gweithio GYDA phobl ifanc, yn hytrach na THROS bobl ifanc.
Daeth y prosiect â phartneriaid o’r DU, Gwlad Groeg, Yr Eidal, Rwmania, a Sbaen at ei gilydd i weld sut gallai gweithio dan arweiniad pobl ifanc wneud sgyrsiau am stereoteipiau rhywedd yn fwy perthnasol ac ystyrlon. Roedd osgoi dulliau sydd ond yn ystyried gwahaniaethu ar sail rhywedd yn hollbwysig. Yn hytrach, cafodd pawb oedd yn cymryd rhan eu hannog i geisio deall sut mae stereoteipiau’n gyffredinol yn effeithio ar bawb, a sut maen nhw’n gallu dylanwadu ar ddewisiadau, perthnasoedd, addysg, a chyfleoedd bob dydd.
Roedd y prosiect hefyd yn cydnabod fod pobl ifanc yn cael eu hamgylchynu a’u dylanwadu gan bob math o gyfryngau bob dydd. Er bod ffilmiau, rhaglenni teledu, cerddoriaeth, hysbysebion, a chyfryngau cymdeithasol yn gallu atgyfnerthu stereoteipiau, maen nhw hefyd yn fan cychwyn da i’r broses o ddechrau eu cwestiynu.
Cafodd y bobl ifanc oedd yn cymryd rhan eu hannog i arwain y ffordd drwy ystyried ac asesu eu canfyddiadau eu hunain am stereoteipiau rhywedd. Drwy hynny, roedd y bobl ifanc yn chwarae rhan weithredol yn eu twf a’u datblygiad, yn hytrach dim ond gwylio a derbyn gwybodaeth. Cafodd y bobl ifanc eu grymuso gan y prosiect i herio stereoteipiau rhywedd drwy adnoddau addysgol blaengar. Gyda’n gilydd, fe wnaethom ni greu cwricwlwm i weithwyr ieuenctid gan ddefnyddio ffilm a theatr, gêm ar-lein ryngweithiol, ap i ffonau clyfar, ac e-lyfr cynhwysfawr.
Rhoi’r prosiect ar waith
Parodd y prosiect am 24 mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe wnaeth ein sefydliadau partner gyfarfod yn Modena (Yr Eidal), Vélez-Málaga (Sbaen) a Llundain (Y DU) i gydweithio, rhannu adnoddau, a hyfforddi addysgwyr.
Cafodd y prosiect ei rannu’n 4 Cymal.
Cymal 1: Cwricwlwm a Gweithdai (Medi 2020 – Awst 2022). Fe wnaethom ni ddiweddaru ymchwil cenedlaethol ar stereoteipiau rhywedd a chydweithio i lunio cwricwlwm dan arweiniad pobl ifanc gan ddefnyddio sinema, theatr, teledu, cerddoriaeth, a hysbysebu. Cafodd yr adnoddau eu cyfieithu i 5 iaith (Saesneg, Groeg, Eidaleg, Rwmaneg a Sbaeneg); llwyddodd y gweithdai lleol i gysylltu â 138 o weithwyr ieuenctid a 166 o bobl ifanc.
Cymal 2: Creu Platfform Digidol a Gêm Ryngweithiol (Medi 2021 – Awst 2022). Fe wnaethom ni greu platform rhyngweithiol - Shanarani Walker Journey – oedd yn cynnwys 5 o barthau rhithwir gydag elfennau o chwalu mythau, dadansoddi cyfryngau, tasgau myfyrio, a wal rithwir. Cafodd y platfform ei addasu i greu 5 fersiwn cenedlaethol, a chafodd ei brofi gan 100+ o ddefnyddwyr.
Cymal 3: Digwyddiadau Rhannu a Lledaenu (Mai 2022 – Awst 2022). Cafodd gweithdai eu trefnu yn Reggiolo, Modena, Granada, Torre del Mar, Craiova, Athens, a Llundain - gyda sesiynau i gyflwyno’r platfform i weithwyr ieuenctid, athrawon, myfyrwyr, rhieni a rhanddeiliaid polisi. Llwyddodd ein hymgyrchoedd digidol (cyfryngau cymdeithasol, y wasg, radio) i gyrraedd dros 19,000 o fuddiolwyr anuniongyrchol.
Cymal 4: E-Lyfr a Chyfuno Polisi. Cafodd ein holl ymchwil, yr hyn a ddysgwyd drwy’r gweithdai, y gwerthuso, a’r argymhellion polisi eu casglu yngyd mewn e-lyfr mynediad agored. Mae’n cynnwys penodau cenedlaethol mewn 5 o ieithoedd ynghyd â chrynodeb cymharol yn Saesneg.
Roedd pobl ifanc yn helpu i lunio, profi, a gwerthuso gweithgareddau’r prosiect drwy Fwrdd Cynghori Pobl Ifanc, i sicrhau bod yr adnoddau’n adlewyrchu eu bywydau a’u profiadau go iawn.
Lluniwyd y dull yma’n benodol i roi dewis i addysgwyr a gweithwyr cymdeithasol o wahanol ffyrdd o ymgysylltu â phobl ifanc; drwy hyfforddiant uniongyrchol wyneb i wyneb dan arweiniad pobl ifanc, gêm ar-lein, neu app ffôn clyfar.
Roedd creu platfform ar-lein ar ffurf gêm ryngweithiol - Shanarani Walker Journey - yn un o ganlyniadau nodedig y prosiect. Roedd yn herio defnyddwyr i deithio drwy bum parth rhithwir. Ar hyd y ffordd, roedd cyfle i’r defnyddiwr herio mythau, ystyried ac asesu negeseuon y cyfryngau, a chnoi cil ar eu profiadau eu hunain.
Cafodd app ffôn clyfar a dau e-lyfr mynediad agored eu datblygu a’u cyfieithu i 5 iaith. Drwy gyfres o ddigwyddiadau rhannu a lledaenu, gweithdai rhyngweithiol uniongyrchol, ac ymgyrchoedd digidol ar draws Ewrop, fe wnaethom ni hyfforddi 138 o weithwyr ieuenctid a 166 o bobl ifanc, a chymerodd dros 100 o ddefnyddwyr ran yn y gwaith o brofi’r adnoddau digidol. Llwyddodd adnoddau’r prosiect i gyrraedd tua 20,000 o bobl drwy rannu a lledaenu anuniongyrchol.
Canlyniadau ac effaith
Dangosodd y canlyniadau fod ein dull gweithredu dan arweiniad pobl ifanc wedi gwneud gwahaniaeth amlwg.
I bobl ifanc, fe wnaeth y prosiect gynyddu ymwybyddiaeth o wahaniaethu ar sail rhywedd a helpu cyfranogwyr i adnabod stereoteipiau mewn sefyllfaoedd cyffredin yn eu bywydau bob dydd. Nododd 94% o’r bobl ifanc a gymerodd ran eu bod wedi meithrin sgiliau i nodi gwahaniaethu ar sail rhywedd; a dywedodd 87% eu bod wedi dysgu i sylwi ar ragfarnau rhywedd mwy cynnil yn y cyfryngau.
Fe wnaeth gweithwyr ieuenctid a gweithwyr proffesiynol eraill feithrin sgiliau ymarferol hefyd. Fe ddysgon nhw sut i adnabod gwahaniaethu ar sail rhywedd, gan wella eu gallu i gefnogi pobl ifanc mewn perygl wrth ddefnyddio methodoleg a gafodd ei gymeradwyo gan gyrff Datblygu Proffesiynol Parhaus. Roedd eu hymateb yn arbennig o gadarnhaol: Dywedodd 99.6% o’r gweithwyr proffesiynol a holwyd y byddent yn defnyddio adnoddau Shanarani yn eu gwaith yn y dyfodol.
Gwaddol parhaol y prosiect
Efallai mai llwyddiant mwyaf y prosiect oedd newid y ffordd roedd stereoteipiau rhywedd yn cael eu trafod. Drwy roi pobl ifanc wrth galon y prosiect, llwyddodd y prosiect i greu profiad dysgu naturiol a pherthnasol, yn hytrach na phrofiad dysgu gorfodol.
Bu’r bartneriaeth yn ffordd o hybu cydweithredu rhwng sefydliadau, addysgwyr, a chymunedau ledled Ewrop - gan greu rhwydwaith ryngwladol i rannu syniadau ac arfer da.
Mae’r adnoddau a grewyd ar gael o hyd i sefydliadau eu defnyddio - gan ymestyn bywyd y prosiect y tu hwnt i’r cyfnod ariannu. Yn fwy na hynny, mae'r profiad wedi dangos bod modd i bobl ifanc fod yn llais pwerus mewn trafodaethau am gydraddoldeb, hawliau dynol, a newid cymdeithasol pan fyddwn yn ymddiried ynddyn nhw i arwain y ffordd.
Mae neges Shanarani’n syml: peidiwch â llunio atebion ar gyfer pobl ifanc heb eu cynnwys - gweithiwch gyda nhw i lunio a chreu.
I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.
“Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am gyllid Erasmus+, peidiwch oedi – ewch amdani. Mae’n llawer mwy na grant yn unig; mae’n daith sy’n gallu newid bywydau’r sefydliadau a’r unigolion sy’n cymryd rhan.
“Mae'r sgiliau a'r hyder a gewch drwy Erasmus+ yn cael effaith pellgyrhaeddol. Maent yn gwella’r ffordd mae eich tîm yn gweithio gyda'i gilydd, ac yn rhoi gwedd fwy cadarn a phroffesiynol i chi yng ngolwg rhanddeiliaid allanol, partneriaid, a'r gymuned dych chi’n ei gwasanaethu.”
Barbara Grazzini, Cyd-sylfaenydd | Prif Weithredwr | Rheolwr Prosiect yn InEuropa Srl Yr Eidal