Cwynion
Mae cyflwyno cwyn yn ffordd o fynegi anfodlonrwydd gydag ansawdd, safon, neu ddarpariaeth gwasanaethau, cyfathrebiadau, prosesau, neu weithgareddau gweinyddol yr Asiantaeth Genedlaethol.
Nid ddylid defnyddio’r weithdrefn gwynion i herio penderfyniadau cyllido, asesiadau achredu, na phenderfyniadau ffurfiol eraill sy’n ymwneud â’r rhaglen. Bydd manylion am sut i gyflwyno ceisiadau i adolygu neu apelio penderfyniadau sy’n ymwneud â’r rhaglen yn cael eu cyhoeddi ar wahân maes o law, ar wefan Erasmus+ UK.
Os yw eich cwyn yn ymwneud â dull gweithredu neu wasanaethau sefydliad sy’n cael ei gyllido drwy raglen Erasmus+, argymhellir eich bod yn cyflwyno’ch cais yn gyntaf drwy weithdrefn gwynion y sefydliad hwnnw. Lle bo’n briodol, gall yr Asiantaeth Genedlaethol ystyried materion sy’n ymwneud â chydymffurfiad y sefydliad hwnnw â gofynion grant neu raglen Erasmus+.
Sut i Gyflwyno Cwyn
Gellir cyflwyno cwyn drwy ddefnyddio Ffurflen Gwynion yr Asiantaeth genedlaethol.
Rydym yn anelu i gydnabod eich cwyn o fewn tri diwrnod gwaith, a chyflwyno ymateb sylweddol i’r gwyn o fewn 15 diwrnod o’i dderbyn.
Os yw cwyn yn gymleth neu os oes angen ymchwilio’n fanylach i’r mater, mae’n bosibl y bydd angen mwy o amser arnom i ymateb yn llawn. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn cysylltu â chi i’ch hysbysu pryd y gellir disgwyl ymateb; yn y cyfamser, byddwn yn parhau i’ch hysbysu am gynnydd y broses.
Hygyrchedd ac Addasiadau Rhesymol
Mae’r gweithdrefnau hyn ar gael mewn fformatau hygyrch. Gwneir addasiadau rhesymol lle bo angen i sicrhau bod pawb yn gallu cyrchu a defnyddio gweithdrefn gwynion yr Asiantaeth Genedlaethol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am weithdrefn gwynion yr Asiantaeth Genedlaethol, cysylltwch ag Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ yn y DU drwy ddefnyddio’r manylion cysylltu ar ein gwefan.