
Awgrymiadau Defnyddiol: Sut ydw i’n dechrau cynllunio fy mhrosiect Erasmus+?
Mae’r awgrymiadau hyn yn cynnwys cyngor gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen Erasmus+ o’r blaen, yn eu geiriau eu hunain, yn ogystal â chyfraniadau gan ein harbenigwyr ar wahanol rannau o’r rhaglen. Mae’r rhan yma’n edrych ar sut i ddewis pa fath o brosiect sy’n siwtio eich sefydliad, a sut mae cael cyfranogwyr i gofrestru i gymryd rhan.
1. Dewis y bobl iawn i gymryd rhan
'Mae cael y person iawn i arwain y broses ymgeisio a’r gwaith o gyflawni’r prosiect yn allweddol. Dylai’r person yna fod yn chwarae rhan ganolog yn y prosiect, ac mae angen sicrhau bod dealltwriaeth gadarn ganddynt o’r amcanion - i sicrhau dilysrwydd ac ansawdd y broses, a bodloni holl feini prawf y rhaglen yn llawn.
“Mae’n hollbwysig hefyd fod yr ymgeisydd yn cael cefnogaeth lawn ac ymrwymiad gan y corff maen nhw’n ei gynrychioli, i sicrhau bod y prosiect yn cael yr adnoddau priodol, ei fod yn ddiogel, ac yn cael ei reoli’n effeithiol.
Mae dewis aelodau staff ymrwymedig i gydweithio ar y prosiect yn gwbl hanfodol i lwyddiant y prosiect. Mae angen sicrhau bod gan staff yr amser, gallu, arbenigedd, a’r brwdfrydedd sy’n angenrheidiol i gefnogi’r cyfranogwyr drwy’r holl brofiadau’r prosiect. Er bod y rôl yma’n gallu bod yn heriol ac yn gofyn llawer gan yr unigolyn, mae’n wirioneddol werth chweil. Mae’n gyfle gwerthfawr i gael effaith hirdymor go iawn ar ddatblygiad personol ac academaidd pobl ifanc, yn ogystal ag ar eu gyrfaoedd ym maes chwaraeon.
Gwnewch yn siwr eich bod yn dewis cyfranogwyr ymroddgar sy’n frwdfrydig ac yn gallu manteisio’n llawn ar gyfleoedd y prosiect. Dylid grymuso’r cyfranogwyr i fod yn rhan o’r broses o ddiffinio eu nodau a’u hamcanion personol, a sicrhau bod eu dyheadau personol yn cydfynd ag amcanion ehangach y rhaglen.
Mae sicrhau bod rhieni a gofalwyr (i ddysgwyr iau) yn rhan o’r broses yn gynnar yn gwbl allweddol. Mae darparu gwybodaeth glir a chael eu cefnogaeth yn helpu i sicrhau bod yr anogaeth, dealltwriaeth, a chefnogaeth ymarferol angenrheidiol gan y cyfranogwyr. Bydd hynny’n sicrhau eu bod yn gallu manteisio’n llawn ar y profiad.' South Gloucestershire and Stroud College – prosiect ar gyfer myfyrwyr cwrs Diploma Rhagoriaeth Mewn Chwaraeon (DiSE)
'Os ydych chi’n ystyried gwneud cais, fy nghyngor i fyddai: adeiladwch rwydwaith gadarn o bartneriaid, gwnewch yn siwr fod y bobl ifanc yn rhan o’r cynllun o’r cychwyn cyntaf, a byddwch yn uchelgeisiol. Mae Erasmus+ yn rhoi’r fframwaith i chi wella eich bywyd a gwneud ffrindiau am oes.' Rheolwr Gyfarwyddwr | IVOLO
2. Byrlymu syniadau – a chynnwys eich cynulleidfa darged yn y broses
‘Dechreuwch gyda’r syniad neu’r syniadau ar gyfer eich prosiect. Ceisiwch gael cymaint o adborth, barnau, ac awgrymiadau â phosibl - gan gynnwys mewnbwn oddi wrth y bobl ifanc sy’n ‘grŵp targed’ i’r prosiect. Beth ydych chi am ei gyflawni? Yna, edrychwch i weld sut mae eich syniadau’n cydfynd â blaenoriaethau’r UE ar gyfer rhaglen Erasmus+ - yn ogystal â blaenoriaethau eich tîm. Yna, edrychwch ar sut mae'ch syniadau ar gyfer y prosiect yn cyd-fynd ag amcanion eich sefydliad a pholisïau cenedlaethol neu leol perthnasol. Yna dechreuwch lunio’r cynllun ar gyfer eich prosiect. Defnyddiwch eich fformat eich hunan, gan ychwanegu manylion am ganlyniadau arfaethedig, targedi, mesurau, a sut rydych yn bwriadu rhannu’r canlyniadau. Rhowch sylw arbennig i sut y bydd pobl ifanc sy’n cael llai o gyfleoedd yn gallu cymryd rhan ac elwa ar weithgarwch eich prosiect. Ar ôl cyrraedd y pwynt yma, gallwch ddechrau meddwl am ba fath o brosiect sydd gyda chi mewn golwg (Cam Gweithredu 1 neu Gam Gweithredu 2), beth fydd prif weithgarwch y prosiect, ac am faint y bydd yn para. Cysylltwch â’r British Council am gefnogaeth a chyngor, ond ystyriwch ffynonellau cymorth eraill hefyd, fel Inter>Com (https://www.intercom.org.uk/erasmusplus-2).' Ray Kirtley | Global Learning Association
3. Gwnewch yn siwr fod eich partneriaid prosiect yn rhan o’r cynllunio
'Cofiwch y bydd angen sefydliadau partner yn yr UE arnoch i wireddu’r prosiect, felly gwnewch yn siwr fod y sefydliadau eraill hynny’n rhan o’r sgwrs - o gamau cynllunio cynnar y prosiect. Mae bas data ar gael i’ch helpu i ffeindio darpar bartneriaid addas.' Ray Kirtley | Global Learning Association
4. Gwnewch yn siwr fod gan eich prosiect amcanion clir
'Lle bo modd, dylai bod cyswllt clir rhwng y prosiect â nodau’r cymwysterau perthnasol; a dylai gael ei arwain gan staff sydd â’r cymwysterau cywir, gan gynnwys aseswyr lle bo angen. Bydd hynny’n sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddysgu, casglu tystiolaeth, ac asesu mewn ffordd ddilys.' South Gloucestershire and Stroud College – prosiect ar gyfer myfyrwyr cwrs Diploma Rhagoriaeth Mewn Chwaraeon (DiSE)
5. Canolbwyntio ar anghenion eich cyfranogwyr
‘Fe wnaethom ni gynllunio ein prosiect drwy ganolbwyntio ar anghenion ein dysgwyr sy’n oedolion, a’r meysydd lle gallai dysgu rhyngwladol fod o fantais i’n gwaith o’u cefnogi. Nodwyd cynhwysiant digidol, llythrennedd rhyngwladol, a dysgu cymunedol fel blaenoriaethau. Felly aethom ati i chwilio am gyfleoedd hyfforddiant rhyngwladol oedd yn cydfynd â’r amcanion hynny. Fe wnaethom ni ymgysylltu â phlatfformau dysgu’r Cenhedloedd Unedig, platfform e-Ddysgu Sefydliad Masnach y Byd (WTO) a rhaglenni arloesedd digidol Comisiwn Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Gorllewin Asia (ESCWA) gan eu bod yn cynnig cynnwys ansawdd uchel a oedd yn berthnasol i’n cenhadaeth.’ Cwmni Buddiant Cymunedol Waltham Forest Adult Skills Centre
6. Gwnewch yn siwr fod pawb yn deall eu rôl
'Mae rheolaeth amser a threfniadaeth effeithiol yn hanfodol o’r cychwyn cyntaf. Mae gwaith cynllunio cynhwysfawr cyn i’r prosiect ddechrau yn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn deall eu rolau, cyfrifoldebau, a’r disgwyliadau arnynt - gan leihau risgiau posibl a sicrhau cyflawni’r prosiect yn llyfn a llwyddiannus.' South Gloucestershire and Stroud College – prosiect ar gyfer myfyrwyr cwrs Diploma Rhagoriaeth Mewn Chwaraeon (DiSE)
Mae tîm yr Asiantaeth Genedlaethol yma i’ch helpu. Ymunwch ag un o’n digwyddiadau a chofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf, neu cysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych.
“Dechreuwch gyda’r syniad neu’r syniadau ar gyfer eich prosiect. Ceisiwch gael cymaint o adborth, barnau, ac awgrymiadau â phosibl - gan gynnwys mewnbwn oddi wrth y bobl ifanc sy’n ‘grŵp targed’ i’r prosiect.”
Os ydych chi wedi cymryd rhan mewn prosiect Erasmus+ yn y gorffennol, beth am rannu eich awgrymiadau chi gyda ni?