A brightly coloured float with Caribbean-style dancers takes part in the Edinburgh Jazz Festival parade

Awgrymiadau Defnyddiol: sut ydw i’n ffeindio partner neu bartneriaid?

Mae’r awgrymiadau hyn yn cynnwys cyngor gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen Erasmus+ o’r blaen, yn eu geiriau eu hunain, yn ogystal â chyfraniadau gan ein harbenigwyr ar wahanol rannau o’r rhaglen. Yn y rhan yma, rydyn ni’n edrych ar sut i ffeindio’r partner neu bartneriaid gorau i gydweithio â nhw.

1.    Dechreuwch gyda’r cysylltiadau sydd gyda chi’n barod

'Roedd dod o hyd i bartneriaid yn broses naturiol, gan ein bod wedi gallu manteisio ar gysylltiadau oedd gyda ni’n barod. Roeddem ni wedi gweithio gyda’n partneriaid o’r Eidal, Rwmania, Gogledd Iwerddon a Phortiwgal o’r blaen - ar brosiectau Erasmus+ eraill. Felly, roeddem ni’n ymddiried yn ein gilydd, ac roedd gyda ni ddealltwriaeth gyffredin am sut i gydweithio’n effeithiol. I gryfhau’r bartneriaeth ymhellach, gofynnwyd i Brifysgol Huddersfield ymuno â’r prosiect, i ychwanegu arbenigedd academaidd a phrofiad ymchwil. Ac fe wnaethom ni wahodd Békés Megyei Kormányhivata (awdurdod lleol cyhoeddus yn Hwngari) i ymuno hefyd - i ddod â phersbectif sector cyhoeddus i’r prosiect, ac ehangu cyrhaeddiad y prosiect i bumed gwlad.'  Susan Russam | ITER (Improving Transitions, Enabling Results) 

'Fe wnaethom ni ffeindio partneriaid drwy droi at ein rhwydwaith ryngwladol o sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd carnifal, celfyddydau ieuenctid, gwyliau, a sefydliadau cymunedol. Roedd y rhwydwaith wedi datblygu drwy gyfuniad o brosiectau blaenorol, rhaglenni cyfnewid diwylliannol, cysylltiadau proffesiynol, digwyddiadau rhyngwladol ac argymhellion gan gydweithwyr. Rhoddodd hynny gyfle i ni ddewis sefydliadau oedd â’r profiad perthnasol a chysylltiadau â’u cymunedau.' Rheolwr Carnifal a Chymuned | Gŵyl Jazz a Blues Caeredin / Carnifal Gŵyl Caeredin

'Sut wnes i benderfynu ar y prosiect yma a ffeindio partneriaid? Fe wnes i droi at fy rhwydwaith a dewis partneriaid ar sail yr amrywiaeth o wahanol brofiad oedd ganddynt. HKU (Prifysgol y Celfyddydau, Utrecht) oedd ein prif bartner; fe wnaethom ni droi atyn nhw am fod Ludodidactics yn faes astudio yno. Drwy hynny, roedd gan y prosiect fynediad uniongyrchol at sylfaen academaidd y fethodoleg.' Rheolwr Gyfarwyddwr | IVOLO 


2.    Ffeindio angen, pwrpas, ac amcanion cyffredin

'Cafodd ein prosiect ei ddatblygu mewn ymateb i angen cyffredinol am fwy o gyfleoedd i berfformwyr ifanc gymryd rhan mewn profiadau creadigol rhyngwladol ac amlddiwylliannol.

Fe ffeindion ni ein partneriaid drwy rwydweithiau diwylliannol, cysylltiadau proffesiynol, a sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd celfyddydau a pherfformio ieuenctid ledled Ewrop.

Roedd pob partner yn cyfrannu traddodiadau, profiad, a phersbectifau artistig yn ogystal â chefnogi anghenion eu cyfranogwyr. Bu’r sgyrsiau rhwng y partneriaid yn gynnar yn y broses yn help i sefydlu nodau cyffredin, deall beth y gallai bob sefydliad ei gynnig, a chytuno ar sut i rannu cyfrifoldebau’r prosiect.

Gyda’n gilydd, fe wnaethom ni gynllunio rhaglen chwe diwrnod yn adlewyrchu diddordebau a galluoedd 60 o berfformwyr ifanc o bum gwlad yn yr UE. Cyfrannodd y partneriaid i’r gwaith recriwtio, paratoi, rhoi trefniadau diogelu yn eu lle, paratoi cynlluniau teithio, a datblygu creadigol.

Roedd ein pwrpas cyffredin yn un o gryfderau mawr y bartneriaeth. Ond fe wnaethom ni’n siwr hefyd bod cyfle i bob sefydliad a phob grŵp o bobl ifanc ddod â’u hunaniaeth eu hunain i’r cyfnewid.

Bu’r cydbwysedd yma’n help i greu prosiect gwirioneddol gydweithredol ac amlddiwylliannol, yn hytrach na chyfres o berfformiadau rhyngwladol unigol.

Dewiswch bartneriaid sy'n rhannu eich gwerthoedd, sy’n cyfathrebu'n agored, ac sy’n dod â gwahanol fathau o brofiad i’r prosiect. Cytunwch ar gyfrifoldebau, trefniadau diogelu, cyllidebau, a disgwyliadau yn gynnar yn y broses. Rhowch ddigon o amser i’r trefniadau teithio, paratoadau’r cyfranogwyr, gofynion hygyrchedd, a threfniadau wrth gefn.' Rheolwr Carnifal a Chymuned | Gŵyl Jazz a Blues Caeredin / Carnifal Gŵyl Caeredin

 

'Fe wnaeth sgyrsiau’n gynnar yn y broses ein helpu i nodi heriau cyffredin, cytuno ar nodau, a deall natur cyfraniad pob sefydliad. Cydweithiodd y partneriaid i helpu llunio’r rhaglenni hyfforddi a’r rhaglen wirfoddoli, yn ogystal â’r gweithgarwch creadigol, symudeddau, a rhannu a lledaenu gwybodaeth am y prosiect.

Dewiswch bartneriaid sy’n rhannu eich gwerthoedd ac sy’n dod â gwybodaeth, rhwydweithiau neu brofiad ategol gwahanol. Rhowch amser i feithrin ymddiriedaeth, cytuno ar gyfrifoldebau a thrafod dulliau cyfathrebu, trefniadau diogelu, yn ogystal â symudeddau, cyllidebau, a dulliau gwerthuso. Mae partneriaethau cryf yn allweddol, yn enwedig wrth gydlynu gweithgareddau ar draws sawl gwlad.' Rheolwr Carnifal a Chymuned | Gŵyl Jazz a Blues Caeredin / Carnifal Gŵyl Caeredin

 

'Ffeindiwch bartneriaid sy’n rhannu’r un angen â chi, nid dim ond partneriaid sy’n creu map sy’n edrych yn fwy cyflawn.

Ceisiwch feithrin amrywiaeth go iawn o wledydd Ewropeaidd – Gogledd, De, Dwyrain a Gorllewin – ac nid dim ond y clystyrau arferol o wledydd yng Ngorllewin Ewrop.

Anelwch i greu tîm amlddisgyblaethol – yn gymysgedd o addysg celfyddydau, addysg ffurfiol, gwaith ieuenctid/cymdeithasol, ac arbenigedd technegol neu gynllunio, fel y gwnaeth prosiect MOVE YOUR MIND.' Carl De Meester | Move Your Mind 


3.    Mae cyfathrebu da yn bwysig

‘Cyfathrebu da oedd yn gyfrifol am sicrhau bod y prosiect yn cadw’n realistig, yn gynhwysol, a pherthnasol.’  Rheolwr Carnifal a Chymuned | Gŵyl Jazz a Blues Caeredin / Carnifal Gŵyl Caeredin


Mae tîm yr Asiantaeth Genedlaethol yma i’ch helpu. Ymunwch ag un o’n digwyddiadau a chofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf, neu cysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych.

“Mae cael y partneriaid cywir ar gyfer prosiect yn bwysicach na chysyniad gwych am brosiect”

Os ydych chi wedi cymryd rhan mewn prosiect Erasmus+ yn y gorffennol, beth am rannu eich awgrymiadau chi gyda ni?