
Ham’avaaz: Defnyddio Addysgeg Gerddorol mewn Addysg Sylfaenol ac Addysg Ieithoedd
Cafodd partneriaeth Ham’avaaz ei ffurfio gan sefydliadau sy’n darparu addysg a hyfforddiant i oedolion, gan gynnwys dosbarthiadau iaith a sgiliau sylfaenol i ddysgwyr sy’n wynebu gwahaniaethu.
Gwledydd | Awstria, Sbaen |
|---|---|
Cyfnod | 2022-24 |
Cyllid | €60,000 |
Math | Partneriaeth ar raddfa fach |
Gan ddefnyddio cerddoriaeth fel cyfrwng dysgu, bwriad y prosiect oedd gwneud addysg yn fwy cynhwysol a chreadigol. Cynhyrchwyd adnoddau ymarferol fel canllawiau addysgu wedi’u seilio ar gerddoriaeth, gweithdai hyfforddi i addysgwyr, a dulliau newydd i wella cof a hyder y dysgwyr a hybu ymgysylltu cymdeithasol.
Cefndir
Dechreuodd prosiect Ham'avaaz gyda syniad syml: gall cerddoriaeth fod yn llawer mwy nag ychwanegiad hwyliog i ddulliau addysgu a dysgu. Gall helpu pobl i gofio gwybodaeth, mynegi eu hunain, cysylltu â phobl eraill, a magu hyder.
Ffurfiwyd y bartneriaeth gan sefydliadau sy’n darparu amrywiaeth o raglenni ar gyfer oedolion a/neu hyfforddwyr, gan gynnwys dosbarthiadau iaith ac addysg sylfaenol i ddysgwyr sy’n wynebu gwahanol fathau o anfantais addysgol neu gymdeithasol. Er bod nifer ohonynt eisoes yn defnyddio cerddoriaeth yn achlysurol yn eu dosbarthiadau, roedd y partneriaid eisiau edrych yn fanylach ar fuddion defnyddio cerddoriaeth ym maes addysg.
Nod y prosiect oedd llenwi’r bwlch o ran yr adnoddau addysgu oedd eisoes ar gael drwy ddatblygu gweithgareddau’n seiliedig ar gerddoriaeth, a’u teilwra’n benodol ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion sy’n wynebu anfanteision. Roedd gweithgareddau’r prosiect yn canolbwyntio ar greu amgylchedd ddysgu gynhwysol lle gallai grwpiau o ddysgwyr o gefndiroedd amrywiol weithio gyda’i gilydd ar ganeuon, geiriau, alawon, a rhythmau o wahanol ddiwylliannau.
Sut roedd y prosiect yn gweithio
Dechreuodd Ham'avaaz yn swyddogol gyda digwyddiad trawswladol yn Fienna ym mis Mai 2022. Roedd arolwg o 105 o hyfforddwyr wedi rhoi darlun i’r partneriaid o’r gwahanol ffyrdd roedd cerddoriaeth eisoes yn cael ei defnyddio ym maes addysg oedolion, a pha fath o adnoddau oedd eu hangen ar athrawon.
Roedd y dysgwyr yn rhan ganolog o’r broses. Yn ystod 2022, gofynnwyd iddynt rannu eu syniadau a’u caneuon amlieithog, a thrafod sut yr hoffent ddysgu drwy ddefnyddio cerddoriaeth. Roedd eu cyfraniadau’n rhan allweddol o’r gwaith o lunio prif adnodd y prosiect, Y Bocs Cerddoriaeth.
Parodd y gwaith o brofi a gwella syniadau ac adnoddau drwy gydol y prosiect. Ym mis Medi 2023, daeth hyfforddwyr o’r gwahanol sefydliadau partner at ei gilydd yn Teruel yn Sbaen ar gyfer gweithdy ‘hyfforddi’r hyfforddwr’. Cawsant gyfle i roi prawf ar weithgareddau, rhannu adborth, a helpu i fireinio'r deunyddiau cyn mynd ati i gynnal profion peilot.
Ar ddechrau 2024, cynhaliwyd cyfnod o brofi’r Bocs Cerddoriaeth - gyda 8 o hyfforddwyr a 127 o ddysgwyr. Roedd yn gyfle i weld sut roedd y gweithgareddau a’r adnoddau’n gweithio mewn amgylcheddau addysgu a dysgu go iawn.
Canlyniadau ac effaith
Llwyddodd y prosiect i gynhyrchu amrywiaeth eang o adnoddau ymarferol. Roedd y Bocs Cerddoriaeth yn ganolog i’r cyfan – adnodd 90 tudalen, gyda 53 o syniadau addysgu mewn 20 o unedau addysgu. Mae pum pennod yr adnodd yn cynnwys pob math o weithgareddau a deunyddiau – o weithgareddau cynhesu cerddorol a chwarae offerynnau i addysgu a dysgu ieithoedd, cysylltu traws-ddiwylliannol, adrodd straeon, defnyddio symudiad i helpu’r dysgu, a defnyddio’r corff fel offeryn taro.
Yn ogystal, cyhoeddwyd methodoleg 20 tudalen sy'n amlinellu manteision ehangach dysgu cerddorol, gan gynnwys ei botensial i hybu sgiliau canolbwyntio, ymwybyddiaeth gorfforol, gwytnwch, a sgiliau dysgu iaith. Cafodd sianel YouTube ei chreu hefyd, i gynnig cefnogaeth ychwanegol i hyfforddwyr. Mae’n cynnwys 38 o fideos a chanllawiau addysgu sy’n cynnwys ymarferion, cyflwyniadau, a rhestrau caneuon ar gyfer dosbarthiadau iaith Saesneg, Sbaeneg, ac Almaeneg.
I’r dysgwyr, roedd effaith y prosiect yn fwy na dysgu geirfa ac ymarfer patrymau iaith. Rhoddodd y gweithgareddau cerddorol gyfle iddynt weithio gyda’i gilydd, rhannu profiadau diwylliannol, a mynegi teimladau, barnau, a safbwyntiau. Hefyd, roedd defnyddio caneuon a cherddoriaeth o wahanol gefndiroedd a diwylliannau’n ffordd o ddangos i’r cyfranogwyr bod amlieithrwydd ac amrywiaeth ddiwylliannol yn gryfderau, nid yn rhwystrau. Roedd yr amrywiaeth eang o gerddoriaeth a dulliau addysgu a ddefnyddiwyd yn sylfaen gadarn i helpu’r dysgwyr gofio patrymau iaith.
Roedd helpu dysgwyr i feithrin gwytnwch yn un o amcanion penodol y prosiect, a’u helpu i weld a gwerthfawrogi’r sgiliau ac adnoddau sydd ganddynt yn barod. Yn hyn o beth, roedd creadigrwydd yn allweddol: anogwyd y cyfranogwyr i arbrofi, ffeindio ffyrdd gwahanol o fynegi eu hunain, ac adeiladu ar eu sgiliau a’r hyn yr oeddent yn ei wybod yn barod.
Rhannu’r hyn a ddysgwyd
Roedd partneriaid prosiect Ham'avaaz yn awyddus iawn i rannu canlyniadau’r prosiect. Cafodd holl adnoddau a gweithgareddau’r prosiect eu casglu a’u cyflwyno ar wefan y prosiect; a defnyddiwyd fforwm Discord fel man cyfarfod ar-lein i hyfforddwyr rannu syniadau a chyfnewid dulliau addysgu sy’n defnyddio cerddoriaeth a/neu elfennau cerddorol.
Cafodd canlyniadau’r prosiect eu cyflwyno a’u rhannu mewn dros 80 o ddigwyddiadau, gan helpu i ledaenu gwybodaeth am ddulliau ac adnoddau’r prosiect gyda chynulleidfa ehangach. Yn y digwyddiad rhannu olaf ym mis Chwefror 2024, daeth 23 o randdeiliaid o Sbaen ac Awstria at ei gilydd i archwilio canlyniadau’r prosiect mewn sesiwn ryngweithiol.
Yn gyffredinol, dangosodd Ham'avaaz sut y gall cerddoriaeth fod yn adnodd addysgu ymarferol, sy’n helpu addysgwyr i ddatblygu ac ehangu eu dulliau addysgu wrth gyflwyno ffyrdd mwy creadigol, cynhwysol, ac ystyrlon i ddysgwyr ddysgu, cyfathrebu a chysylltu.
I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.