Eisteddodd dysgwr sy'n oedolyn wrth fwrdd yn yr ystafell ddosbarth gyda phen a llyfr gweithgareddau.

System raddio ansawdd ar gyfer darparwyr addysg oedolion

Nod pennaf y prosiect yma oedd creu system raddio strwythuredig a thryloyw ar gyfer sefydliadau addysg oedolion yn y gwledydd oedd yn cymryd rhan - blaenoriaeth allweddol i bob un o'r gwledydd partner.

GwledyddY Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Croatia, Malta a Gwlad Groeg
Cyfnod2022-24
Cyllidcirca €317,000
MathPartneriaeth Gydweithredol

Cefndir

Mae addysg i oedolion yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd ac addasu i fyd sy’n newid. Nod prosiect QUALTRACK oedd datblygu system raddio ansawdd gyffredin ar gyfer darparwyr addysg oedolion – gan gefnogi dysgu gydol oes drwy sefydlu diwylliant o ansawdd ac atebolrwydd – er budd dysgwyr, sefydliadau, a rhanddeiliaid fel ei gilydd.

Nod prosiect QualTrack (Quality Rating System for Adult Learning Providers) yw ei gwneud yn haws i ddeall a chymeradwyo ansawdd addysg oedolion.

Roedd QualTrack yn anelu at ddarparu gwybodaeth glir a hawdd cael ato i ddysgwyr a chwsmeriaid, i’w helpu i wneud dewisiadau mwy gwybodus am gyfleoedd dysgu i oedolion, a sicrhau safonau addysgol uchel. Roedd y prosiect hefyd yn anelu i arfogi sefydliadau addysgol ag adnoddau i hunan-asesu a gwella’n gyffredinol, yn ogystal â datblygu methodoleg i sicrhau bod gwerthuswyr allanol yn cynnal asesiadau safonol a di-duedd. Yn y bôn, mae'r fenter hon yn cefnogi dysgu gydol oes drwy feithrin diwylliant o ansawdd ac atebolrwydd – er budd dysgwyr, sefydliadau, a rhanddeiliaid.

Daeth pump o sefydliadau o ledled Ewrop at ei gilydd ar gyfer y prosiect:

  • Asociace institucí vzdělávání dospělých – Y Weriniaeth Tsiec
  • CEIPES – Yr Eidal
  • Dante – Croatia
  • Asset Technology – Gwlad Groeg
  • Asociácia inštitúcií vzdelávania dospelých – Slofacia

Gyda’i gilydd, gweithiodd y partneriaid i feithrin dull ymarferol dibynadwy o sicrhau ansawdd sydd o fudd i ddarparwyr addysg oedolion yn ogystal â’r bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau.

Cafodd QualTrack ei gyllido gan Y Comisiwn Ewropeaidd drwy raglen Erasmus+.

Amcanion y prosiect

Mae Sefydliadau Addysg Oedolion (ALI) yn gweithredu mewn marchnad sydd at ei gilydd heb ei rheoleiddio, lle mae safonau ansawdd yn amrywio’n fawr . Oherwydd y diffyg safoni hwn, yn aml does dim ffyrdd amlwg i ddysgwyr, cyflogwyr ac awdurdodau cyhoeddus werthuso ansawdd gwahanol ddarparwyr addysg.

Dyma’r her a’r sbardun ar gyfer menter QUALTRACK. Roedd partneriaid y prosiect yn gweld y gallai system sicrhau ansawdd ymarferol a thryloyw helpu sefydliadau i nodi eu cryfderau a gweld lle’r oedd angen gwella – a thrwy hynny roi mwy o hyder i ddysgwyr wrth ddewis lle i astudio.

Felly, canolbwyntiodd y prosiect ar ddatblygu dull cyffredin o asesu ansawdd a fyddai’n ddigon hyblyg i’w ddefnyddio mewn gwahanol wledydd, a chynorthwyo sefydliadau i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu datblygiad eu hunain.

Roedd tri phrif nod gan y prosiect:

1.    cryfhau safonau ansawdd sefydliadau addysgiadol

2.    cynnig fframwaith dibynadwy i ddysgwyr i’w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am ddarparwyr addysg,

3.    hybu cystadleuaeth iach a gwelliant cyffredinol ar draws y sector.

Penderfynwyd y gellid cyflawni hyn drwy greu model graddio ansawdd strwythuredig ar gyfer sefydliadau addysg oedolion. Byddai’r model yn cynnig meini prawf a phrosesau clir ar gyfer asesu ansawdd, a’i gwneud yn haws i ddeall a chymharu dulliau gwahanol sefydliadau o gyflwyno darpariaeth addysg oedolion.

Ond roedd y prosiect yn fwy na chyfrwng i greu dull o raddio sefydliadau. Roedd hefyd yn anelu i greu adnodd ymarferol i hybu gwelliannau y gellid ei ddefnyddio gan y sefydliadau eu hunain a chan aseswyr allanol hyfforddedig.

Rhoi’r prosiect ar waith

Gweithiodd y partneriaid gydag arbenigwyr a rhanddeiliaid o’r gwledydd a gymerodd ran i ddatblygu model cymharu ansawdd cyffredin, gan gynnwys lefelau ansawdd y cytunwyd arnynt, meini prawf, a dulliau asesu.

Yna, lluniwyd methodoleg i gefnogi hyn. Roedd y rhain yn cynnwys proses hunan-werthuso i sefydliadau, canllaw i aseswyr allanol, a methodoleg i helpu sefydliadau baratoi ar gyfer cael eu hasesu. Drwy gasglu’r adnoddau hyn ynghyd mewn un ddogfen gyffredinol, llwyddwyd i greu dull gweithredu oedd yn haws ei ddeall a'i ddefnyddio.

Yna, aeth y cyfranogwyr ati i brofi’r model mewn sefyllfaoedd a than amodau ymarferol. Dewiswyd sefydliadau addysg oedolion ac aseswyr allanol ym mhob gwlad bartner, a threfnwyd iddynt dderbyn hyfforddiant cyn i’r prosiect peilot ddechrau. Cynhaliodd y sefydliadau hyn eu hasesiadau eu hunain, ac yna cafodd y canlyniadau eu hadolygu a’u dilysu gan yr aseswyr allanol. Defnyddiwyd adborth gan y ddwy garfan i fireinio’r model a gwella’r broses asesu ymhellach.

Roedd adnoddau digidol yn rhan bwysig o’r broses hefyd. Cafodd platfform ar-lein a chwrs e-ddysgu wedi’i seilio ar Moodle ei greu i gefnogi’r sefydliadau a’r aseswyr; gan sicrhau bod holl adnoddau’r prosiect yn hygyrch ac yn hawdd i’w defnyddio.

Cafodd fframwaith QUALTRAK ei gyflwyno mewn cynhadledd ym Mhrag, gerbron cynulleidfa o arbenigwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr o ledled Ewrop a ddaeth ynghyd i drafod pwysigrwydd dulliau sicrwydd ansawdd ym maes addysg oedolion.

Canlyniadau ac effaith

Lwyddodd y prosiect i gyflawni'r holl weithgareddau a nodwyd yn y cais gwreiddiol. Llwyddodd prosiect i greu model QUALTRACK cynhwysfawr, gan gynnwys meini prawf asesu manwl, gofynion tystiolaeth, canllaw i aseswyr, a ‘bathodynnau’ ychwanegol y gall sefydliadau eu hennill am lwyddiannau ychwanegol mewn meysydd penodol. Mae hefyd yn cynnwys syniadau am ddatblygiadau sefydliadol posibl eraill yn y dyfodol.

Cafodd set gyflawn o adnoddau hunan-asesu a gwerthuso eu datblygu, gan gynnwys holiaduron, rhestrau gwirio, cwestiynau canllaw ar gyfer ymweliadau â chanolfannau, a ffurflenni adborth. Hefyd, roedd yr adroddiad rhyngwladol a luniwyd i gymharu dulliau gweithredu ar gyfer sicrhau ansawdd ar draws y gwledydd partner yn cynnig persbectif Ewropeaidd ehangach i waith y prosiect; yn ogystal â chyfres o argymhellion i awdurdodau cyhoeddus yn nodi ffyrdd o atgyfnerthu systemau ansawdd.

I sefydliadau addysg oedolion, roedd y canlyniadau’n ymarferol. Cawsant ddull strwythuredig i’w helpu i adolygu ac asesu eu gwaith, nodi meysydd i'w gwella, a pharatoi ar gyfer asesiad allanol. Cafodd aseswyr fynediad at adnoddau a hyfforddiant cyffredin i sicrhau gwerthusiadau mwy cyson. Bellach, mae gan ddysgwyr a rhanddeiliaid gwell dealltwriaeth o’r ansawdd a ddisgwylir ar gyfer darpariaeth addysg oedolion, a sut mae sefydliadau’n gweithio i gyflawni hynny.

Yn ogystal, sefydlodd y prosiect gronfa o adnoddau parhaus drwy ei blatfform ar-lein a’i wefan, cyrsiau e-ddysgu, gweminarau, a gweithgareddau rhannu ac ehangu. Drwy hyn, gwnaeth QUALTRAK fwy na datblygu model haniaethol ar bapur; llwyddodd i greu adnoddau, gwybodaeth, a phrofiad ymarferol a fydd yn parhau i hybu addysg oedolion o ansawdd uwch.

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.