
Strategaethau Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch
Nod y prosiect oedd grymuso sefydliadau addysg uwch Ewropeaidd i yrru'r broses o ddatblygu cynaliadwy drwy ymgorffori Amcanion Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig mewn modd cyfannol ym meysydd addysg, ymchwil, llywodraethiant, gweithgareddau campws, entrepreneuriaeth a gweithgareddau allgyrch.
| Gwledydd | Iwerddon, Denmarc, Ffrainc, Lwcsembwrg, a Thwrci |
|---|---|
| Cyfnod | 2022-25 |
| Cyllid | €400,000 |
| Math | Partneriaeth Gydweithredol |
Cefndir
Mae’r Undeb Ewropeaidd yn amcanu i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas (cydraddoldeb cymdeithasol, twf economaidd, ac amddiffyn yr amgylchedd) drwy strategaethau’r Fargen Werdd a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Ond nid yw’r cynnydd yn gyson ym mhobman o hyd..
Mae gan brifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill gyfle gwych i arwain y newid hwn, ond maen nhw’n wynebu rhwystrau wrth geisio troi ymwybyddiaeth yn weithredu strategol.
Er bod cynaladwyedd yn cael ei gynnwys fwyfwy mewn cyrsiau, dangosodd grwpiau ffocws mewn prifysgolion partner yn yr Almaen, Twrci, Iwerddon a Ffrainc fod angen dull mwy cyfannol o integreiddio Strategaethau Datblygu Cynaliadwy i waith bob dydd y sefydliadau.
Cafodd prosiect Strategaethau Datblygu Cynaliadwy i Sefydliadau Addysg Uwch ei greu i helpu i fynd i’r afael a’r her yma. Ein nod oedd sicrhau bod cynaladwyedd yn rhan o fywyd y sefydliad cyfan, ac nid rhywbeth oedd yn cael ei drafod fel rhan o gyrsiau unigol yn unig. Roedd y prosiect yn ffocysu ar bedwar grŵp allweddol: arweinyddiaeth; addysgwyr; staff; a myfyrwyr.
Amcanion y prosiect
Nod prosiect Strategaethau Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch oedd helpu sefydliadau addysg uwch i ymgorffori Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ar draws eu holl feysydd gwaith, gan gynnwys addysg, ymchwil, llywodraethiant, gweithgareddau campws, entrepreneuriaeth, a gweithgareddau estyn allan cymunedol.
Roedd targedau clir gan y prosiect. Roedd yn amcanu i: arfogi 30 o arweinwyr sefydliadau addysg uwch â’r wybodaeth ac adnoddau i integreiddio cynaliadwyedd mewn modd strategol; rhoi cefnogaeth i 30 o aelodau staff i wella arferion cynaliadwyedd mewn addysgu a gweithgareddau; ac ymgysylltu â thros 250 o fyfyrwyr drwy ‘Gwrs Ar-lein Agored Anferth’ a thraws-ddisgyblaethol.
Roedd hefyd yn anelu i gyrraedd dros 100 o athrawon a 500 o fyfyrwyr drwy weithgareddau rhannu a lledaenu ehangach. Y syniad wrth galon y prosiect oedd bod angen dull gweithredu sefydliad gyfan i roi arferion datblygu cynaliadwy ar waith, gyda chymorth sgiliau ymarferol, cydweithio, a chyfraniad y myfyrwyr.
Rhoi’r prosiect ar waith
Daeth y prosiect â phum pecyn gwaith cysylltiedig ynghyd: ymchwil, datblygu, hyfforddiant, profi, a chyfathrebu.
Y cam cyntaf oedd cynnal ymchwil i ganfod ffyrdd y gallai sefydliadau addysg uwch feithrin dulliau datblygu cynaliadwy mwy effeithiol. Cafodd y fframwaith ei ddatblygu drwy gyfuniad o adolygiadau ysgrifenedig, arolygon, grwpiau ffocws, astudiaethau achos, ymgynghori ag arbenigwyr, ac adolygiadau gan gyd-weithwyr. Yn ogystal, cafodd bas data arlein o adnoddau agored defnyddiol ei greu i helpu’r sefydliadau droi syniadau’n weithredu.
Yna, datblygwyd offeryn hunan-asesu gan dîm y prosiect, yn ogystal â chyfres o argymhellion ymarferol. Mae’r adnoddau hyn yn hwyluso’r gwaith o graffu ar arferion cynaliadwyedd presennol sefydliadau addysg uwch, nodi meysydd y gellir eu gwella, ac ystyried y camau ymarferol nesaf. Cafodd yr offeryn ei brofi’n gyntaf gan staff sefydliadau addysg uwch, cyn cael ei fireinio a’i gyfieithu i bedair iaith.
Roedd llunio’r ‘Cwrs Ar-lein Agored Anferth’ (sy’n cynnwys chwe modiwl gwahanol) yn un o elfennau pwysicaf y prosiect. Mae’r cwrs yn defnyddio cyfuniad o ddulliau dysgu wedi’u seilio ar heriau a dulliau dysgu trawsddisgyblaethol i helpu myfyrwyr a staff archwilio cynaliadwyedd mewn ffordd ymarferol. Mae’n cynnwys fideos, ymarferion, deunyddiau hyfforddi, adnoddau ategol, a thrawsgrifiadau amlieithog o destunau. Cynhaliwyd tair cyfres o sesiynau ‘profi profiad y defnyddiwr’, a fu’n help i’r partneriaid wella’r cwrs cyn ei lansio’n ehangach.
Yn olaf, rhoddwyd pwyslais mawr ar rannu canlyniadau’r prosiect. Defnyddiwyd gwefan benodol, sianeli cyfryngau cymdeithasol, blogiau, cylchlythyr, a phum digwyddiad rhannu a lledaenu i rannu’r adnoddau ac annog mwy o bobl i gymryd rhan
Canlyniadau ac effaith
Llwyddodd prosiect Strategaethau Datblygu Cynaliadwy i Sefydliadau Addysg Uwch i greu wyth adnodd allweddol i helpu Sefydliadau Addysg Uwch sicrhau bod cynaliadwyedd yn rhan annatod o fywyd bob dydd eu sefydliad. Mae’r fframwaith a luniwyd gan y prosiect wedi cael ei lawrlwytho 1,492 o weithiau; mae’n cael ei gefnogi gan chwe astudiaeth achos a bas data agored sy’n cynnwys dros 30 o adnoddau agored.
Cafodd yr offeryn hunan-asesu ei brofi gan 38 o aelodau o staff sefydliadau addysg uwch, a chafodd cyfres o 10 o argymhellion ymarferol eu cyfieithu i bedair iaith. Mae’r adnoddau hyn yn cynnig dull clir ac ymarferol i sefydliadau ystyried eu sefyllfa bresenol a nodi cyfleoedd i newid.
Mae’r ‘Cwrs Ar-lein Agored Anferth’ hefyd yn adnodd addysgu a dysgu sylweddol. Mae’n cynnwys chwe modiwl amlieithog, 47 o fideos ar gyfer gwahanol adrannau, chwe fideo modiwl llawn, 17 o ymarferion, 100+ o adnoddau ategol, a thrawsgrifiadau o destunau mewn pump o ieithoedd. Mae dros 200 o fyfyrwyr a 50 o staff Sefydliadau Addysg Uwch wedi manteisio ar y cwrs.
Mae effaith y prosiect yn fwy na rhifau ac ystadegau’n unig. Mae wedi: rhoi fframwaith cliriach ar gyfer gweithredu strategol i arweinwyr; darparu dulliau asesu a ffyrdd ymarferol o wella arferion cynaliadwyedd i staff; a rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth a sgiliau y gallant eu defnyddio wrth fynd i’r afael â heriau cynaliadwyedd yn y byd go iawn.
Drwy ddod â thimoedd arweinyddiaeth, aelodau staff, a myfyrwyr at ei gilydd, llwyddodd prosiect Strategaethau Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch i helpu i osod seiliau ar gyfer newid sefydliadol hirdymor. Mae wedi hybu gallu sefydliadau addysg uwch i gyfrannu’n weithredol i ddatblygu cynaliadwy ar eu campysau, yn eu cymunedau, a’u rhanbarthau ehangach.
I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.