Plentyn ifanc yn defnyddio chwyddwydr i edrych ar ddail ar lawr coedwig o agos.

Prosiect yn seiliedig ar fyd natur i hybu datblygiad synhwyraidd plant ag anghenion arbennig

Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar wella arferion i hybu datblygiad synhwyraidd plant ag anghenion arbennig drwy ddysgu'n seiliedig ar fyd natur.

Nod y prosiect oedd cefnogi athrawon drwy gynnig adnoddau a meithrin sgiliau a hyder i gynnal gweithgareddau awyr agored, datblygu mannau chwarae cost isel sy'n cyffroi'r synhwyrau, darparu hyfforddiant a chanllawiau, a chryfhau'r cydweithredu rhwng addysgwyr, cyrff anllywodraethol, mentrau bach a chanolig a therapyddion. Bu'r prosiect yn gyfrwng i wella arferion o ran cynhwysiant, arloesi ac addysg amgylcheddol.

Gwledydd

Y Ffindir, Slofenia, Twrci

Cyfnod

2024-25

Cyllid

€60,000

Math

Partneriaeth ar raddfa fach

Daeth partneriaid o’r Ffindir, Slofenia a Thwrci at ei gilydd ar gyfer y prosiect 12 mis yma i archwilio sut y gall dulliau dysgu’n seiliedig ar natur hybu datblygiad synhwyraidd plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Bwriad y prosiect oedd: helpu athrawon i feithrin sgiliau, creu adnoddau, a magu hyder i gynnal gweithgareddau awyr agored; darparu hyfforddiant a chanllawiau; a chryfhau cydweithredu rhwng addysgwyr, cyrff anllywodraethol (NGOs), busnesau bach a chanolig (SMEs), a therapyddion i sicrhau bod dysgu awyr agored yn fwy cynhwysol, hygyrch, a chynaliadwy.

Cefndir: diffinio’r angen

Gwnaeth y bartneriaeth gais i Erasmus+ am gyllid ar gyfer y prosiect yma ar ôl nodi angen amlwg i wella arferion datblygu synhwyraidd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol drwy ddysgu’n seiliedig ar natur. Yn aml, mae athrawon sy’n gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol yn awyddus i ddefnyddio amgylcheddau awyr agored ar gyfer addysgu, ond nid oes ganddynt y sgiliau, adnoddau, na’r hyder i wneud hynny. Ar yr un pryd, mae llawer o’r adnoddau dysgu synhwyraidd sydd ar gael yn barod yn rhy ddrud, neu’n anodd i ysgolion gael mynediad iddynt. Hefyd, mae prinder canllawiau ymarferol sy’n dangos i addysgwyr sut y gall natur gefnogi datblygiad synhwyraidd a chynhwysiant.

Wrth gynllunio’r prosiect, nododd y partneriaid o feysydd addysg, cyrff anllywodraethol, busnesau bach a chanolig, a therapi galwedigaethol yr angen am Fannau Chwarae Synhwyraidd fforddiadwy, hyfforddiant ymarferol i athrawon, a gwell cydweithredu rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol. Roedd yn amlwg hefyd bod angen help ar rieni plant ag anableddau i’w galluogi i gymryd rhan a manteisio’n llawn ar weithgareddau awyr agored.

Aeth y partneriaid ati i ddangos sut y gall natur fod yn adnodd gwerthfawr, rhad a hygyrch i’w ddefnyddio. Drwy ail-gysylltu plant ag amgylcheddau naturiol, roedd y partneriaid yn anelu i greu mannau dysgu a chwarae’n llawn profiadau synhwyraidd sy’n hybu datblygiad, lles, a chynhwysiant plant.

Amcanion: rhannu arbenigedd i wella mynediad at ddysgu’n seiliedig ar natur

Prif amcan y prosiect oedd cryfhau a meithrin hyder a sgiliau athrawon i fanteisio ar fyd natur fel amgylchedd dysgu sy’n gallu cynorthwyo datblygu synhwyraidd. Gweithiodd y partneriaid i gyflwyno dulliau gweithredu, hyfforddiant, ac adnoddau ymarferol i addysgwyr eu defnyddio wrth eu gwaith bob dydd. 

Un arall o amcanion y prosiect oedd cynllunio a modelu tri Man Chwarae Synhwyraidd gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a rhad - i wneud dysgu synhwyraidd yn fwy hygyrch a chynaliadwy. Cynhaliwyd dau ddigwyddiad hyfforddi rhyngwladol lle daeth cyfranogwyr at ei gilydd i rannu gwybodaeth, cyfuno arbenigedd o wahanol sectorau, a datblygu model arloesol yn seiliedig ar natur ar gyfer datblygu synhwyraidd.

Rhoi’r prosiect ar waith

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y prosiect yn Helsinki – lle cytunodd y partneriaid ar eu rolau, cyfrifoldebau, ac amserlen y prosiect. Ar gefn hynny, cynhaliwyd dau weithgaredd Dysgu, Addysgu, a Hyfforddi rhyngwladol. Roedd y cyntaf, yn Antalya, yn canolbwyntio ar integreiddio synhwyraidd, chwarae yn yr awyr agored, dulliau cynhwysol o ymgysylltu â natur, a chydweithio gyda therapyddion galwedigaethol. Cynhaliwyd yr ail weithgaredd yn Slofenia, lle bu’r cyfranogwyr yn archwilio ymarferion cynhwysol ar gyfer ymgysylltu â natur ymhellach.

Yna, aeth y partneriaid ati i roi’r dysgu ar waith drwy greu Mannau Chwarae Synhwyraidd awyr agored yn eu hysgolion. Lle bynnag y gallent, defnyddiodd yr athrawon ddeunyddiau naturiol a rhad i ddangos nad oes rhaid i’r broses o greu amgylcheddau synhwyraidd effeithiol fod yn ddrud o gwbl.

Cafodd y gweithgareddau hyn eu profi drwy gyfres o sesiynau peilot gyda 15 o blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd y sesiynau hyn yn gyfle i addysgwyr weld sut roedd y plant yn ymateb i’r gweithgareddau a’r adnoddau awyr agored. Nodwyd effeithiau cadarnhaol o ran ymgysylltu, lles, a phrosesu synhwyraidd y plant.

Ynghyd â’r gwaith ymarferol, cydweithiodd y partneriaid i greu Pecyn Cymorth Dysgu Synhwyraidd yn seiliedig ar natur. Mae’n casglu pob math o weithgareddau awyr agored, syniadau ar gyfer chwarae synhwyraidd, canllawiau ar greu Mannau Chwarae Synhwyraidd, a gwybodaeth gefndir ddefnyddiol. Cafodd yr adnodd ei gyfieithu i wahanol ieithoedd y partneriaid a’i rannu eang. Bu cyfres o weithdai lleol, cyfarfodydd ar-lein, a seminar ar-lein yn ffyrdd effeithiol o rannu’r hyn a ddysgwyd drwy’r prosiect gydag athrawon, rhieni, a therapyddion galwedigaethol.

Yn ystod 12 mis y prosiect, cafodd aelodau o sefydliadau partneriaid y prosiect gyfle i fanteisio ar hyfforddiant gan arbenigwyr mewn integreiddio synhwyraidd, ac elwa ar brofiadau a gwybodaeth arbenigwyr ym maes dysgu’n seiliedig ar natur. Ar hyd y daith, fe ddysgodd y cyfranogwyr oddi wrth ei gilydd yn ogystal â chan fyd natur yn uniongyrchol, gwelwyd budd dulliau dysgu synhwyraidd i blant a rhieni, a daeth sicrhau mynediad i fyd natur i bawb yn bwrpas a chenhadaeth i’r holl gyfranogwyr.

Canlyniadau ac effaith

Un o brif lwyddiannau’r prosiect oedd creu’r Pecyn Cymorth agored. Mae bellach ar gael mewn pedair iaith, ac mae’n cyflwyno pob math o syniadau ymarferol y gellir eu haddasu ar gyfer gwahanol anghenion a lleoliadau – at ddefnydd addysgwyr, therapyddion, rhieni, ac ysgolion. Drwy hynny, mae’n llenwi bwlch o ran cynhwysiant, arloesedd, ac addysg werdd.

Cafodd tri o Fannau Chwarae Synhwyraidd eu creu yn y gwledydd partner, gan greu mannau chwarae awyr agored hygyrch lle gallai plant ddysgu ac archwilio wrth ddefnyddio’u synhwyrau. Roedd y gweithgareddau peilot gyda 15 o blant yn dangos effeithiau cadarnhaol y profiadau awyr agored yn glir - o ran ymgysylltu, lles, a phrosesu synhwyraidd y plant.

I’r athrawon, roedd y prosiect yn fwy na chyfnewidfa wybodaeth yn unig. Bu’r hyfforddiant rhyngwladol a’r profiad ymarferol yn help i fagu hyder i fynd â phlant allan o’r ystafell ddosbarth a defnyddio deunyddiau naturiol yn greadigol. I’r plant, roedd y prosiect yn gyfle i fanteisio ar brofiadau dysgu mwy gweithredol a hwyliog a oedd hefyd yn cyffroi’r synhwyrau. Yn ogystal, rhannwyd syniadau ymarferol gyda rhieni a gweithwyr proffesiynol am ffyrdd i gefnogi gweithgareddau awyr agored gyda phlant drwy wefan y prosiect www.inclusivenature.com. Mae’r wefan yn ffordd o ymestyn cyrhaeddiad y prosiect a’r hyn a ddysgwyd i addysgwyr a theuluoedd.

Daeth y prosiect i ben mewn awyrgylch gynhwysol o arloesi. Roedd gwersi’r prosiect yn amlwg: mae cynhwysiant gwirioneddol yn fwy na chydnabod gwahaniaethau unigol, mae hefyd yn golygu creu amgylcheddau ystyrlon sy’n cyffroi’r synhwyrau ac ail-gysylltu mannau addysgu a dysgu â byd natur.

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.