
Gŵyl Ffilm - Siwrnai Ewropeaidd
Nod y prosiect oedd defnyddio ffilm i edrych ar wahanol ganfyddiadau am ddiwylliant, traddodiadau, yr amgylchedd naturiol a llenyddiaeth yn y gwledydd a gymerodd ran. Roedd hefyd yn anelu i wella ansawdd addysg drwy gydweithredu rhyngwladol, hybu gwerthoedd cyffredin fel cynaliadwyedd a goddefgarwch, a chynyddu cymwyseddau allweddol dysgwyr gan gynnwys sgiliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, sgiliau iaith a sgiliau rhyng-ddiwylliannol.
Gwledydd | Bwlgaria, Yr Eidal, Gwlad Pwyl a Rwmania |
|---|---|
Cyfnod | 2020-22 |
Cyllid | €108,000 |
Math | Partneriaeth gydweithredu |
Daeth prosiect Gŵyl Ffilm – Taith Ewropeaidd (European Journey – film festival) â phedair o ysgolion cynradd a chanol o Wlad Pwyl, Yr Eidal, Rwmania, a Bwlgaria at ei gilydd i archwilio gwahanol agweddau a chanfyddiadau o’u diwylliant, traddodiadau, amgylcheddau naturiol, a llenyddiaeth. Trwy gyfuniad o greu ffilmiau, cydweithio digidol, a chydweithredu rhyngwladol, cafodd y dysgwyr a gymerodd ran gyfle i ddatblygu eu sgiliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a’u sgiliau iaith, yn ogystal â chyfle i wneud ffrindiau newydd a manteisio ar brofiadau newydd. Ar yr un pryd, cafodd athrawon gyfle i ddysgu am ddulliau addysgu newydd a magu hyder o ran sgiliau arweinyddiaeth ysgol.
Rhannu sgiliau addysgu a dysgu
Cafodd prosiect 'Gŵyl Ffilm - Taith Ewropeaidd' ei greu mewn ymateb i anghenion gwahanol y pedair ysgol bartner oedd yn cymryd rhan. Ond roedd ganddynt uchelgais gyffredin hefyd, sef tanio brwdfrydedd eu dysgwyr dros ddysgu wrth feithrin sgiliau pwysig at y dyfodol. Daeth pob ysgol â’i phrofiad a’i chryfderau ei hun, gan greu cyfleoedd i athrawon a dysgwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Wrth galon y prosiect roedd syniad syml: dysgu am ddiwylliannau gwahanol drwy adrodd eu straeon. Daeth y dysgwyr i ddeall mwy am eu gwledydd eu hunain a gwledydd eu partneriaid drwy greu ffilmiau - gan ganolbwyntio ar amgylcheddau naturiol, treftadaeth ddiwylliannol, a llenyddiaeth genedlaethol y gwahanol wledydd.
Roedd atgyfnerthu’r ysgolion eu hunain hefyd yn un o amcanion y prosiect. Cafodd yr athrawon gyfle i ddarganfod dulliau addysgu newydd, rhannu syniadau, a darganfod yr hyn sy’n bosibl wrth fanteisio ar gydweithio rhyngwladol a defnyddio adnoddau digidol yn y dosbarth.
Y nod: dysgu drwy greu ffilmiau
Roedd y dysgwyr yn dysgu a gweithio gyda’i gilydd drwy greu ffilmiau; yn ymchwilio i bynciau penodol, datblygu syniadau, ysgrifennu sgriptiau, a chreu cynnwys aml-gyfrwng. Rhoddodd y dull gweithio ymarferol yma gyfle i’r dysgwyr feithrin amrywiaeth eang o sgiliau. Cawsant gyfle hefyd i wella eu sgiliau TGCh drwy ddefnyddio offer a meddalwedd i gynllunio a chynhyrchu’r ffilmiau. Yn ogystal, drwy weithio gyda’i gilydd i droi eu hymchwil yn straeon, cawsant gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm, a meddwl yn greadigol.
Roedd platfform digidol eTwinning yn adnodd pwysig ar gyfer hwyluso’r cydweithio. Roedd y dysgwyr o’r gwahanol wledydd yn ei ddefnyddio i weithio gyda’i gilydd ar gyflwyniadau a sgriptiau. Roedden nhw’n ei ddefnyddio’n gyson i gyfathrebu, ac roedd yn rhan allweddol o’r broses o ddewis logo ar gyfer y prosiect. Rhoddodd y gweithgarwch yma reswm ymarferol i’r dysgwyr wella eu sgiliau iaith, a bu hynny’n help iddynt fagu hyder wrth gyfathrebu â phobl o wledydd eraill.
I lawer o’r dysgwyr, roedd y prosiect yn dipyn mwy na phroses o gynhyrchu ffilm. Bu cael cyfrifoldeb am ymchwilio, cael syniadau, a gwneud penderfyniadau creadigol yn help iddyn nhw dyfu’n fwy annibynnol, hyderus, a pharod i rannu eu barn.
Rhoi’r prosiect ar waith
Roedd y cyfarfodydd rhyngwladol yn werthfawr; cafodd y dysgwyr (rhwng 12-15 oed) gyfle i gwrdd wyneb yn wyneb â’u cyfoedion o’r gwledydd eraill. Roedd yn gyfle iddynt gysylltu, ymarfer sgiliau iaith, a chael profiad uniongyrchol o ddiwylliannau gwahanol ei gilydd. Roedd gwneud ffrindiau newydd a rhannu profiadau yn help i droi syniadau am gynhwysiant, goddefgarwch, a bod yn agored yn brofiadau go iawn i’r dysgwyr - yn hytrach na phynciau trafod mewn dosbarth yn unig.
Fe elwodd yr athrawon ar y cyfarfodydd rhyngwladol hefyd. Roeddent yn gyfle i rannu syniadau a dulliau addysgu, yn ogystal â gweld dulliau gwahanol o arwain, trefnu, a rheoli ysgolion. Ar gefn hynny, cafodd yr athrawon gyfle i addasu a defnyddio dulliau newydd yn ôl yn eu hysgolion eu hunain.
Trwy gyfres o ddigwyddiadau lleol, cafwyd cyfle hefyd i rannu canlyniadau a budd y prosiect. Trefnwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau gan y gwahanol ysgolion – gyda bwyd traddodiadol, cerddoriaeth, dawnsio traddodiadol, caneuon, cyflwyniadau a ffilmiau. Gwahoddwyd rhieni, athrawon ac aelodau o gymuned ehangach yr ysgolion i ymuno, gan greu cyfleoedd i ddathlu gwahaniaethau a hybu gwell dealltwriaeth rhwng diwylliannau.
Canlyniadau ac Effaith Hirdymor
Cymerodd dros 100 o ddysgwyr ran yn y prosiect drwy weithgareddau eTwinning; a manteisiodd dros 60 o ddysgwyr ar weithgareddau symudedd rhyngwladol, ynghyd ag athrawon ac aelodau o gymuned ehangach yr ysgolion. Amcangyfrifir bod o leiaf 250 o gyfranogwyr lleol wedi cymryd rhan yn y digwyddiadau rhyngwladol, tra cymerodd oddeutu 120 o bobl ychwanegol ran yn y cynadleddau i rannu a lledaenu gwybodaeth.
Cafodd y prosiect effaith mewn sawl cyfeiriad. Cafodd y dysgwyr gyfle i gryfhau eu sgiliau TGCh, eu sgiliau iaith, a’u sgiliau rhyngddiwylliannol. Wrth feithrin eu creadigrwydd, cawsant gyfle i ddatblygu sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu, a magu hunan-hyder. Bu cwrdd â phobl ifanc o wledydd eraill yn help i ehangu eu gorwelion a’u persbectifau, a’u hannog i fod yn agored i wahaniaethau diwylliannol
Cafodd athrawon gyfle i ddysgu am syniadau a dulliau gweithredu newydd, a chyfle hefyd i fanteisio ar brofiad rhyngwladol a fydd yn cryfhau eu datblygiad proffesiynol. O ran yr ysgolion, bu’r prosiect yn sbardun i gyfoethogi holl rychwant eu gweithgareddau. Bu’n hwb i ddefnydd ehangach o adnoddau TGCh wrth addysgu; ac arweiniodd hynny at wella sgiliau a chanlyniadau dysgu’r dysgwyr. Cydweithiodd aelodau o dîm y prosiect oedd â phrofiad blaenorol o greu ffilmiau i lunio canllaw ymarferol – ‘Sut i greu ffilm dda’ – sy’n adnodd y gellir ei rannu, ei addasu, a’i ail-ddefnyddio.
Yn bwysicaf oll, dangosodd y prosiect: drwy gydweithio’n rhyngwladol, daw dysgu’n brofiad sy’n cael ei greu, ei rannu, a’i gofio gan y dysgwyr eu hunain. Trwy greu ffilmiau a rhannu eu diwylliannau, tyfodd y cyfranogwyr i fod yn fwy na dim ond dysgwyr; roedden nhw’n storïwyr, yn gydweithredwyr, ac yn llysgenhadon dros eu cymunedau.
I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.