Chwaraewr pel-fasged a'i gysgod

Cenhadaeth : Sport 4 All

Cafodd menter Mission: Sport 4 All ei chynllunio i feithrin sgiliau chwech o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Nod y prosiect oedd defnyddio chwaraeon i hybu integreiddio cymdeithasol a phroffesiynol pobl ifanc ar Ynys Réunion. Drwy raglen gysgodi swyddi ar ynys Tenerife, cafodd y staff chwaraeon gyfle i ddysgu dulliau newydd y gallent eu rhoi ar waith yn uniongyrchol yn Réunion.

Gwledydd

Ffrainc, Sbaen

Cyfnod

2024

Cyllid

€20,700

Math

Symudedd hyfforddwyr a staff chwaraeon

Cefndir: Chwaraeon fel pont i gyfleoedd

I bobl ifanc ar ynys Réunion yn Ffrainc, mae ffeindio gwaith yn gallu bod yn her sylweddol. Mae mwy na 20% o bobl ifanc yno’n ddi-waith, a dim ond tua 30% sy'n llwyddo i gael gwaith o fewn blwyddyn i gwblhau eu hyfforddiant cychwynnol, o'i gymharu â 62% ar dir mawr Ffrainc.

At hynny, nifer fach yn unig o bobl ifanc 16 i 25 oed sy’n chwilio am waith sy’n gwneud chwaraeon yn rheolaidd. Gall hynny gyfrannu at fywyd eisteddog; ac yn aml mae hefyd yn golygu fod pobl ifanc yn colli’r cyfle i feithrin yr hyder, sgiliau gwaith tîm, a’r cysylltiadau cymdeithasol a ddaw drwy wneud chwaraeon.

Roedd Mission Locale Sud de la Réunion eisiau trio rhywbeth gwahanol. Bwriad menter Mission: Sport 4 All  oedd defnyddio chwaraeon hygyrch i bawb fel ffordd o gefnogi datblygiad personol pobl ifanc, a’u helpu ar eu taith i fyd gwaith.

Dechreuodd y fenter drwy ganolbwyntio ar weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc. Drwy ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ym maes chwaraeon, y nod oedd eu helpu i feithrin gwell cyfleoedd i sbarduno brwdfrydedd eu cynulleidfa darged.

Dysgu trwy gysgodi swyddi yn Tenerife

Cymerodd chwech o weithwyr proffesiynol rhan mewn rhaglen gysgodi swyddi am wyth diwrnod rhwng 17 a 24 ym mis Ebrill 2024. Cafodd y rhaglen ei chyflwyno mewn partneriaeth â Top Padel Granadilla, gyda chefnogaeth gan La Toupie Bleue o Ffrainc, a helpodd i gysylltu’r grŵp â sefydliadau a gweithgareddau chwaraeon lleol.

Cafodd y cyfranogwyr gyfle i brofi amrywiaeth eang o amgylcheddau, gan gynnwys syrffio gyda Red Rock Academy, yoga gyda Yoga Cat, ac ymweliad â chanolfan chwaraeon elît, Tenerife Top Training.

Roedd cynnal y symudedd ar ynys yn berthnasol. Fel Réunion, mae Tenerife yn ynys folcanig yn y môr, ac felly’n lle delfrydol ar gyfer gweithgareddau a chwaraeon awyr agored a/neu chwaraeon ar y dŵr. Roedd yn hawdd i’r cyfranogwyr weld sut y gallent addasu’r syniadau a’r dulliau newydd y gwelon nhw yn Tenerife i’w defnyddio nôl adref.

O ysbrydoliaeth i weithredu

Rhoddodd profiadau’r symudedd hwb sylweddol i’r chwech o weithwyr proffesiynol a gymerodd ran. Nododd pob un eu bod wedi elwa’n fawr o’r cyfle i arsylwi, gweld ymarferion chwaraeon gwahanol ar waith, a dysgu mewn amgylchedd Ewropeaidd newydd.

Lawn mor bwysig, fe ddychwelon nhw â syniadau ymarferol y gellid eu rhoi ar waith yn syth. Trefnwyd sesiynau adolygu gyda’u cydweithwyr i rannu’r hyn a ddysgwyd, ac fe ddechreuon nhw drefnu gweithgareddau chwaraeon newydd yn lleol.

Cafodd tua phump neu chwech o fentrau chwaraeon eu lansio o ganlyniad uniongyrchol i brofiadau’r symudedd. Trwy'r gweithgareddau hyn, daeth chwaraeon yn rhan ganolog o waith ehangach y sefydliad i gefnogi pobl ifanc oedd yn ei chael hi’n anodd cael mynediad i’r farchnad swyddi.

Yn ogystal, cyfrannodd y profiad i strategaeth ehangach ‘Chwaraeon i bobl ifanc’ lle anogwyd pob un o’r ardaloedd lleol i ddatblygu gweithgareddau chwaraeon fel ffordd o hybu ymgysylltu ac integreiddio. Roedd y gwaith yma’n rhan o gynllun gweithredu’r sefydliad ar gyfer 2025.

Yr effaith ehangach ar bobl ifanc a’r gymuned

Cafodd y prosiect effaith tipyn ehangach na phrofiadau’r chwe gweithiwr proffesiynol a deithiodd i Tenerife yn unig. Cafodd eu gwybodaeth a’u brwdfrydedd newydd ei rannu gyda’u cydweithwyr, ac yn bwysicach oll, gyda’r bobl ifanc y maen nhw’n eu cefnogi.

Daeth chwaraeon yn ffordd ymarferol o helpu pobl ifanc i ail-gysylltu â’u cymunedau, magu hyder, a meithrin sgiliau. Bu’r prosiect hefyd yn ffordd o gryfhau’r ffocws ar gydraddoldeb, cyfranogiad, a’r gwerthoedd y gall chwaraeon eu cyfrannu i ddatblygiad cymdeithasol a phroffesiynol pobl.

O ganlyniad i’r fenter, cafodd proffil y dull gweithredu yma dipyn mwy o sylw yn Réunion hefyd. Cafodd Mission Locale Sud sawl gwahoddiad i gymryd rhan yn y Conférence Régionale du Sport, lle rhoddwyd sylw amlwg i’r fenter, gan ail-bwysleisio pwysigrwydd datblygu gweithgareddau chwaraeon hygyrch i bobl ifanc.

Yn ogystal, bu’r sylw a roddwyd i weithgareddau ‘integreiddio drwy chwaraeon’ y sefydliad gan y cyfryngau lleol yn help i fwy o bobl ddarganfod a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael.

I’r chwe gweithiwr proffesiynol a gymerodd ran, roedd y profiad yn Tenerife yn fwy na symudedd wyth diwrnod. Cawsant syniadau newydd a chyfle i feithrin cysylltiadau newydd a magu’r hyder i drio rhywbeth gwahanol. O ran y sefydliad a’r bobl ifanc, cafodd y syniadau newydd eu troi’n gamau gweithredu parhaus – gan ddangos sut y gall chwaraeon fod yn gyfrwng syml, atyniadol, a phwerus i agor drysau i waith cyflogedig a chynhwysiant.

I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.