
Theatr ddogfennol: Geiriau sy'n cyfrif!
Daeth pobl ifanc o Bortiwgal, Gwlad Pwyl, Gwlad Groeg, Latfia, y Ffindir a Thwrci ynghyd yn Braga, Portiwgal ar gyfer y prosiect. Roedd cefndir y cyfranogwyr yn amrywiol iawn. Fe wnaethon nhw ymgymryd â gwahanol rolau i gydweithio i ysgrifennu, cynhyrchu a pherfformio darn o theatr gair-am-air, gan dynnu ar yr heriau sy'n wynebu cymunedau mewnfudwyr, gan gynnwys gwahaniaethu, allgáu ac araith gasineb.
Gwledydd | Y Ffindir, Gwlad Groeg, Latfia, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Twrci |
|---|---|
Cyfnod | 2021-22 |
Cyllid | €34,511 |
Math | Symudedd ieuenctid |
Nod y prosiect oedd herio rhagfarnau personol a chymunedol am fewnfudo, herio hiliaeth, a chau’r bwlch diwylliannol rhwng dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd a phobl nad ydynt yn ddinasyddion o’r UE. Trwy gyfres o weithdai, trafodaethau, a gweithgareddau creadigol, cafodd pobl ifanc gyfle i archwilio profiadau go iawn o fudo a gwahaniaethu. Cawsant gyfle i gydweithio i greu perfformiad theatr oedd yn herio stereoteipiau a chondemnio hiliaeth. Drwy gydweithio cafodd y cyfranogwyr gyfle i feithrin empathi, hyder, sgiliau cyfathrebu a sgiliau gweithio fel tîm. Cawsant gyfle hefyd i ddysgu gan bobl o wahanol gefndiroedd. Yn ogystal, roedd y prosiect yn annog pobl i godi llais yn erbyn iaith casineb a chymryd camau gweithredol i hybu cynhwysiant, cydraddoldeb a pharch yn eu cymunedau.
Cefndir:
Mewn llawer o gymunedau Ewropeaidd, mae mudwyr a ffoaduriaid yn dal i wynebu rhagfarn, gwahaniaethu, ac iaith casineb. Yn aml, mae pobl ifanc yn dod ar draws y drafodaeth am hyn drwy adroddiadau newyddion, cyfryngau cymdeithasol, a sgyrsiau bob dydd, ond nid yw’r wybodaeth maent yn ei gael bob amser yn gytbwys. Gall stereoteipiau ledu’n gyflym, ond does neb yn clywed profiadau go iawn mudwyr a ffoaduriaid.
Dyma oedd man cychwyn ‘Theatr Ddogfen: Geiriau sy’n Cyfri!’ (Documentary Theatre: Words that matter!). Daeth y prosiect â phobl ifanc a sefydliadau ieuenctid o Bortiwgal, Gwlad Pwyl, Gwlad Groeg, Latfia, Y Ffindir a Thwrci at ei gilydd. Nod y prosiect oedd creu man diogel lle gallai’r cyfranogwyr archwilio mudo, hiliaeth, a chynhwysiant cymdeithasol mewn modd gonest a chreadigol.
Yn hytrach na dibynnu ar drafodaethau a chyflwyniadau’n unig, defnyddiwyd cyfrwng theatr i helpu’r cyfranogwyr edrych ar y pynciau hyn o wahanol bersbectifau. Defnyddiwyd arddull theatr benodol ar gyfer hyn, sef ‘theatr gair am air’ (verbatim). Mae’n ddull o greu straeon sy’n defnyddio geiriau, tystiolaeth a phrofiadau personol go iawn. Drwy hyn, roeddem yn gallu mynd y tu hwnt i ystadegau ac erthyglau, a chanolbwyntio ar y bobl y tu ôl i’r penawdau.
Amcanion: Rhoi Llwyfan i Leisiau Gwahanol
Roedd gan y prosiect sawl nod cydgysylltiedig. Yn gyntaf, roedd yn anelu i herio stereoteipiau am fudwyr a ffoaduriaid a helpu pobl ifanc i weld sut mae rhagfarn ac iaith casineb yn effeithio ar unigolion a chymunedau. Roeddem hefyd am annog goddefgarwch, cydraddoldeb, a pharch at amrywiaeth.
Roedd datblygu sgiliau ymarferol yn amcan pwysig arall. Roeddem yn gobeithio y byddai’r prosiect yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr wella eu sgiliau cyfathrebu, eu sgiliau creadigol, sgiliau gwaith tîm, a’u gallu i ddatrys problemau drwy gydweithio. Gan fod y cyfranogwyr yn dod o wahanol wledydd a chefndiroedd, roedd y prosiect hefyd yn gyfle i feithrin dealltwriaeth rhyngddiwylliannol a dysgu sut i gydweithio a phontio gwahaniaethau diwylliannol.
Roedd y trefnwyr am helpu’r cyfranogwyr i fagu mwy o hyder wrth siarad am broblemau cymdeithasol anodd. Drwy weithio gyda thystiolaeth a phrofiadau go iawn i greu perfformiad theatr, cafodd y bobl ifanc gyfle i archwilio cwestiynau sensitif gydag empathi yn hytrach na beirniadaeth. Y gobaith oedd y byddent yn dychwelyd adref yn barod i herio rhagfarn a chwarae rhan fwy gweithredol yn eu cymunedau eu hunain.
Rhoi’r prosiect ar waith: Troi Tystiolaeth yn Theatr
Cynhaliwyd y prosiect rhwng Ionawr 2021 a Chwefror 2022; gydag Ymweliad Cynllunio Ymlaen Llaw a chyfnewid ieuenctid ym Mraga ym Mhortiwgal. Yn ystod gweithgaredd canolog y prosiect, daeth 42 o bobl ifanc rhwng 23 a 30 oed at ei gilydd i gydweithio am ddeg diwrnod.
Cafodd y cyfranogwyr eu rhannu’n dimau rhyngwladol; ac fe gymeron nhw wahanol rolau, gan gynnwys ysgrifennu, actio, celf weledol, a chynhyrchu. Dechreuodd y gwaith gyda gweithdai a sgyrsiau am fudo, hiliaeth, hunaniaeth, gwahaniaethu ac eithrio cymdeithasol. Trefnwyd ymweliadau astudio a gweithgareddau grŵp i helpu i gysylltu’r sgyrsiau hyn â’r byd go iawn; ac roedd sesiynau myfyrio dyddiol yn rhoi cyfle i bawb gnoi cil ar yr hyn roeddent wedi’i ddysgu. Roedd yn rhaid iddynt benderfynu pa straeon i’w cynnwys, sut i’w cyflwyno, pa emosiynau roedden nhw am eu cyfleu, a sicrhau bod y bobl a rannodd y profiadau a ysbrydolodd y gwaith yn cael eu trin â pharch.
Nid oedd hynny bob amser yn broses hawdd. Roedd yn rhaid i’r cyfranogwyr ystyried a thrafod gwahanol farnau, ieithoedd, a dulliau gweithio. Ond, daeth yr heriau hyn yn rhan o’r profiad dysgu. Roedd yn rhaid i bawb feithrin sgiliau gwrando, rhoi adborth, delio â gwahaniaethau barn ac ymddiried yn ei gilydd. Hefyd, fe ddefnyddiodd y cyfranogwyr adnodd Youthpass i nodi a chadw cyfrif o’r sgiliau roedden nhw’n eu datblygu
Canlyniadau:
Drwy gymryd rhan yn y prosiect, datblygodd y cyfranogwyr well dealltwriaeth o wahaniaethu a phrofiadau pobl sy’n aml yn cael eu heithrio o’r sgwrs gyhoeddus. Bu gweithio gyda thystiolaeth bersonol pobl yn help iddynt feithrin empathi a gweld yr heriau sy’n wynebu mudwyr drwy lygaid dynol, a cheisio deall holl gymhlethdodau mudo.
Cawsant gyfle hefyd i fagu hyder wrth rannu a mynegi eu barn, a sefyll yn erbyn iaith casineb. Yn ogystal â’r buddion cymdeithasol a dinesig, cafodd y cyfranogwyr gyfle i wella eu sgiliau cyfathrebu a chydweithio, eu sgiliau creadigol, a sgiliau datrys anghydfod. Dychwelodd nifer ohonynt adref yn fwy parod i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a hybu agweddau mwy cynhwysol ymysg eu cyfoedion.
Mae effaith y prosiect wedi ymestyn y tu hwnt i brofiadau’r bobl ifanc hefyd. Cafodd y sefydliadau a gymerodd ran brofiad o ddull creadigol newydd o ymdrin â phynciau sensitif ym maes gwaith ieuenctid. Cawsant gyfle i gryfhau partneriaethau rhyngwladol a chynyddu eu gallu i ddatblygu prosiectau’n canolbwyntio ar gynhwysiant a dinasyddiaeth weithredol at y dyfodol.
Yn bwysicaf oll, bu’r perfformiad ar ddiwedd y prosiect yn sbardun i weithgareddau tu hwnt i ffiniau’r cyfnewid. Drwy ddefnyddio theatr i rannu straeon go iawn, llwyddodd y cyfranogwyr i gymell cynulleidfaoedd i feddwl am ragfarn, amrywiaeth, a pherthyn. Os rhowch chi’r cyfle a’r adnoddau i bobl ifanc wrando, creu, a siarad y agored, gall celfyddyd fod yn fan cychwyn pwerus i newid cymdeithasol; dyna ddangosodd Theatr Ddogfen: Geiriau sy’n Cyfri!
I gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth achos yma, ewch i fas data prosiectau Erasmus+.