Agor Drysau: Adeiladu Prosiectau Ieuenctid a Chwaraeon Erasmus+ KA1 Cynhwysol

  • Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr, 14:00 – 15:30 GMT
  • Math o ddigwyddiad: Ar-lein

Sut gall Erasmus+ helpu eich sefydliad i greu cyfleoedd rhyngwladol mwy cynhwysol i bobl ifanc a chymunedau chwaraeon?


Ymunwch â ni am weminar ryngweithiol 90 munud o hyd sy'n archwilio sut i ymgorffori cynhwysiant ym mhrosiectau ieuenctid a chwaraeon Erasmws+ Prif Weithred 1 (KA1) a sut i wneud dysgu a symudedd rhyngwladol yn fwy hygyrch i bawb, gan gynnwys cyfranogwyr â llai o gyfleoedd.


Bydd y sesiwn yn cyflwyno tri chyfle KA1: Symudedd Staff Chwaraeon, Symudedd Gweithwyr Ieuenctid a Chyfnewidiadau Ieuenctid, gan amlygu sut y gallant gefnogi datblygiad sefydliadol, rhannu arfer da a chryfhau dulliau cynhwysol.


Byddwn yn archwilio ffyrdd ymarferol o ddylunio prosiectau mwy cynhwysol, nodi'r cymorth a'r cyllid sydd ar gael i gyfranogwyr a sefydliadau, ac edrych ar enghreifftiau o brosiectau sy'n rhoi cynhwysiant ar waith drwy gydweithrediad rhyngwladol.


P'un a ydych yn newydd i Erasmus+ neu eisoes yn datblygu prosiectau rhyngwladol, bydd y weminar hon yn eich helpu i ddeall y cyfleoedd, cael syniadau ymarferol a darganfod sut i droi uchelgeisiau cynhwysiant eich sefydliad yn weithred.


Dewch draw, rhannwch eich profiadau, a darganfyddwch sut i agor mwy o ddrysau drwy Erasmus+!